Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Gyda blwyddyn academaidd newydd yn prysur agosáu, mae Prifysgol Abertawe a'i thimau chwaraeon wedi dathlu eu canlyniadau gorau erioed yn nhymor Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS).
Ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2018-19, gorffennodd Abertawe yn y 18fed safle, gan symud i fyny 14 lle o'i safle yn 2017-18.
Mae BUCS yn darparu dros 50 o chwaraeon i bron 160 o sefydliadau sy'n aelodau - gan gynnwys rhai colegau addysg bellach – gan greu rhaglen brysur o gynghreiriau sy’n cynnwys dros 5,800 o dimau a thros 120 o ddigwyddiadau pencampwriaeth bob blwyddyn. Safle gorau blaenorol Prifysgol Abertawe oedd 25ain, canlyniad a gyflawnwyd deirgwaith yn y gorffennol.
Mae ein timau wedi cael llwyddiannau nodedig ar hyd y daith, gan gynnwys tîm rygbi'r dynion yn cael ei ddyrchafu i gynghrair 'Super Rugby' BUCS - y lefel uchaf ar gyfer rygbi prifysgolion - yn dilyn buddugoliaeth wefreiddiol 32-28 yn erbyn Nottingham Trent ym mis Ebrill.
Yn y cyfamser, ysgubodd tîm lacrós y dynion bawb o'u blaenau i ennill dyrchafiad i'r Uwch-gynghrair gyda buddugoliaeth gartref 23-2 dros Surrey yn ail gymal y gemau ail gyfle. Gorffennodd y ddau dîm hoci cyntaf ar frig eu tablau a chyflawnodd y tîm Pêl-droed Americanaidd gamp drawiadol drwy gyrraedd gêm gynderfynol y Bencampwriaeth Genedlaethol.
Ar y cyfan, enillodd 16 tîm eu cynghrair ac enillodd naw tîm ddyrchafiad mewn amrywiaeth o chwaraeon, gan gynnwys rygbi, lacrós, golff, hoci, pêl-droed, tenis bwrdd a badminton.
Enillodd cynrychiolwyr Prifysgol Abertawe fedalau mewn lacrós, bocsio, pêl-rwyd, beicio mynydd, badminton, syrffio, rygbi, futsal, pêl-droed, hwylio a korfball a chafwyd llwyddiant dwbl mewn badminton yn Nghwpan Western Conference BUCS. Enillodd ein syrffwyr fedalau aur hefyd ac enillwyd medalau efydd ym mhencampwriaeth Jiu Jitsu'r dynion.
Ar lefel unigol, enillodd Emily Wiliams fedal aur yng nghystadleuaeth syrffio BUCS a daeth Lucy King yn drydydd yn y gystadleuaeth Jiwdo, gan sicrhau ei lle yn EUSA 2019. Daeth y clwb nofio ag amrywiaeth o fedelau adref, yn y pencampwriaethau cwrs hir a byr, gan gynnwys perfformiadau nodedig gan Liam White, Lewis Fraser ac Alex Rosser.
Robbie Carrick-Smith oedd ar frig y tabl medalau yng nghystadleuaeth athletau awyr agored BUCS, gan ennill medal arian yn y gystadleuaeth taflu'r ddisgen a medal efydd yn y gystadleuaeth taflu'r pwysau i gystadleuwyr sy'n gallu sefyll, ac enillodd Ross Gwenter fedal arian yn y categori pwysau trwm yn y Pencampwriaethau Bocsio.
Ar ben hyn, enillodd y beiciwr Emily Tillet fedal efydd yn y ras 500m a medal aur yn y Criteriwm, ac i orffen y flwyddyn, enillodd James Hayday fedal arian yn y categori 'bwa noeth' ym Mhencampwriaethau Saethyddiaeth Awyr Agored BUCS.
Meddai Charlotte Peters, Cydlynydd Datblygu Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe:
"Mae wedi bod yn flwyddyn hynod lwyddiannus i'n chwaraeon BUCS ac mae ein canlyniad yn y 18fed safle yn dyst i'r holl waith caled, ymrwymiad a doniau sydd yma ym Mhrifysgol Abertawe.
"Mae gormod o berfformiadau rhagorol o 2018-19 i sôn amdanynt i gyd - o fuddugoliaethau cynghrair dydd Mercher i lwyddiannau mewn pencampwriaethau ac unigolion rhagorol.
"Rydym yn hynod falch o'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni eleni ac yn edrych ymlaen at y tymor nesaf."