Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Uwchgynhadledd Bioblaladdwyr gyntaf yn darparu llwyfan ar gyfer cydweithio rhyngwladol
Cynhaliodd Prifysgol Abertawe a Bionema Ltd, cwmni ym Mhrifysgol Abertawe, yr Uwchgynhadledd Bioblaladdwyr gyntaf ym mis Gorffennaf eleni, gyda'r nod o roi llwyfan rhyngwladol i gydweithio a phartneriaethau.
Daeth dros 200 o arbenigwyr rhyngwladol, gan gynnwys 30 o arddangoswyr, ynghyd yn yr uwchgynhadledd ddeuddydd i drafod heriau a chyfleoedd yn y sector bioreoli.
Cyflwynwyd y digwyddiad gan Dr Minshad Ansari (yn y llun) Prif Swyddog Gweithredol Bionema Ltd a Chadeirydd yr Uwchgynhadledd Bioblaladdwyr, sy'n rhan o'r Fforwm BioDdiogelu Byd-eang (WBF) ac yn pontio'r bwlch rhwng y byd academaidd a diwydiant i sicrhau datblygu a masnacheiddio cynnyrch bioreoli yn llwyddiannus.
Dywedodd Dr Ansari: "Mae'r galw am dechnoleg bioreoli yn cynyddu'n gyflym, gyda 30% o'r cyfarpar diogelu planhigion sydd nawr ar gael eisoes yn fiolegol, ac mae mwy na 50% o gymwysiadau rheoleiddiol newydd yn gynnyrch biolegol. Mae hyn yn unol â'r 'cyfnod gwyrdd' newydd sy'n ennill cefnogaeth gynyddol gan gymdeithas a llywodraethau, a buddsoddi mwy mewn ymchwil a datblygu yn y sector.
Un o brif ffocysau'r digwyddiad oedd annog cydweithio er mwyn i gwmnïau llai ffynnu, y mae'r diwydiant bioreoli'n dibynnu'n fawr arnynt.
Roedd trafodaethau eraill yn cynnwys yr angen i wneuthurwyr sicrhau bod eu cynnyrch bioreoli wedi'u creu i gydweddu â chyfarpar plaleiddiaid safonol; a'r angen am well arweiniad ar sut i ddefnyddio'r cynnyrch. Cyhoeddodd y Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddoniaeth Ryngwladol (CABI) hefyd lansiad ei Phorth Bioblaladdwyr yn yr Uwchgynhadledd. Bydd y platfform yn cynnig gwybodaeth am ddim am gynnyrch a gofrestrwyd mewn unrhyw wlad ar gyfer clefydau a phlâu cnydau penodol, a rhagwelir mai hwn fydd yr adnodd cyffredin ar gyfer adnabod a chaffael bioblaladdwyr.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: "Mae galw cynyddol am dechnolegau gwyrdd yn golygu bod y sector bioreoli ar drothwy llwyddiant anferth, gyda'r galw byd-eang am gynnyrch bioreoli cymeradwy yn cynyddu'n aruthrol. Darparodd yr Uwchgynhadledd Bioblaladdwyr hon gyfle pwysig i arbenigwyr rhyngwladol rannu eu harfer gorau ar gyfer y dyfodol. Rwy'n hapus iawn mai Abertawe gynhaliodd y digwyddiad mawreddog hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at groesawu cynadleddwyr i'r Uwchgynhadledd Bioblaladdwyr yn 2020."
Ychwanegodd Dr Sarah Harding, Cyfarwyddwr Golygyddol cylchgrawn Chemicals Knowledge: "Roedd hwn yn ddigwyddiad cychwynnol hynod lwyddiannus – yn sicr, cyflawnwyd y nod i annog cydweithio ac arloesi, a bydd y cynadleddwyr yma yn arwain y diwydiant amaethyddol drwy gyfnod diddorol o newid."