Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae Prifysgol Abertawe'n dathlu ar ôl cael ei gwobrwyo am ei hymrwymiad parhaus i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Fel rhan o gynllun Siarter Athena SWAN a gynhelir gan yr Uned Herio Cydraddoldeb, mae eisoes gan y Brifysgol wobr sefydliadol arian – un o'r 13 o brifysgolion yn unig yn y DU, a'r Brifysgol gyntaf nad yw'n aelod o'r Grŵp Russell i gyflawni hyn.
Yn dilyn y cyflwyniadau diweddar, mae Coleg Peirianneg y Brifysgol wedi ennill gwobr arian yn hytrach na'r wobr efydd a oedd eisoes ganddo, ac mae'r Ysgol Feddygaeth wedi adnewyddu ei gwobr arian bresennol, sydd wedi'i hehangu i gynnwys staff y gwasanaethau proffesiynol hefyd.
At hynny, trodd Statws Ymarferydd yr Adran Ffiseg ei statws Ymarferydd Juno presennol, a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Ffiseg i gydnabod ei gwaith o hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, yn Wobr Efydd Athena SWAN.
Wrth longyfarch cydweithwyr, gwnaeth Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle, ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r cyflwyniadau llwyddiannus.
Meddai: "Mae llawer o waith caled a phenderfyniad yn gysylltiedig â nodi gwelliannau a'u cynnwys yn ein prosesau.
"Mae ein llwyddiannau Athena SWAN yn dangos ein bwriad i gynnig amgylchedd cynhwysol a chefnogol sy'n galluogi ein staff a'n myfyrwyr i gyflawni eu potensial. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad penodol i wella amrywiaeth. “
Erbyn hyn mae'r Brifysgol yn gobeithio ychwanegu at y llwyddiant, a bydd yn cyflwyno tri chynnig arall am wobr efydd y mis nesaf – ar gyfer y Ffowndri Gyfrifiadol, yr Adran Daearyddiaeth ac Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton.
Fis Ebrill nesaf, bydd Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn gwneud cais i adnewyddu ei wobr arian a bydd Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau yn gwneud cais am wobr efydd. Mae hefyd gan yr Ysgol Reolaeth wobr efydd.
Darllenwch ragor am Athena SWAN ym Mhrifysgol Abertawe.