Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Disgyblion o Awel y Môr gydag aelodau o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad

Mae disgyblion o ddwy ysgol gynradd yng Nghymru wedi rhannu pryderon ynghylch gwastraff plastig a bwyta'n iach gydag ACau mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan Academi Morgan Prifysgol Abertawe.

Siaradodd yr ymchwilwyr ifanc o Ysgol Gynradd Awel y Môr ym Mhort Talbot ac Ysgol Pant y Rhedyn yn Llanfairfechan ag aelodau o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad, a hefyd sicrhau addewidion i gefnogi ymdrechion i leihau gwastraff plastig ar Draeth Aberafan.

Roedd aelodau'r pwyllgor yn yr Academi fel rhan o'r ymchwiliad byr i effaith Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Daeth y Mesur hwn â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i gyfraith, a thrwy hynny mae'n ofynnol i weinidogion ystyried hawliau plant wrth wneud penderfyniadau.

Mae'r tîm Lleisiau Bach Little Voices ym mhrifysgolion Abertawe a Bangor yn defnyddio'r Confensiwn i danategu'i waith gydag ymchwilwyr ifanc ac mae wedi cefnogi 120 o grwpiau mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru sydd wedi elwa o gymorth y tîm hyd yma.

Mae ymchwil Awel y Môr wedi bod yn canolbwyntio ar wastraff plastig, a chyflwynodd y disgyblion eu canfyddiadau a'u hargymhellion yn y cyfarfod, a ddaeth ag aelodau etholedig lleol a chenedlaethol ynghyd â busnesau, ymchwilwyr Prifysgol Abertawe, sefydliadau anllywodraethol a'r Heddlu.

Meddai'r Athro Jane Williams, sy'n rheoli tîm Lleisiau Bach: "Mae'r ymgysylltu heddiw rhwng ymchwilwyr sy'n blant ac Aelodau Cynulliad yn awgrymu yn ei hun effaith Mesur 2011, a roddodd arwydd clir yng Nghymru bod plant yn ddinasyddion â hawliau nawr, nid dinasyddion y dyfodol yn unig.

"Dro ar ôl tro, mae prosiectau Lleisiau Bach wedi dangos gwerth yr ymagwedd hon at ymarfer, gan alluogi i blant ddefnyddio ymchwil i adeiladu eu hachos dros newid ac i ymgysylltu â'r rhai a all helpu i newid pethau."

Dywedodd Lynne Neagle, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: "Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i ACau gwrdd â phlant yn uniongyrchol ac i ddysgu am eu barn a'u profiadau. Mae gwrando ar eu lleisiau yn hollbwysig i'n gwaith.

"Hoffem ddiolch i Lleisiau Bach ac i'r bobl ifanc a gymerodd ran am gymryd yr amser i gwrdd â ni. Rydym yn edrych ymlaen at fyfyrio ynghylch eu profiadau yn ein hadroddiad terfynol ac argymhellion i Lywodraeth Cymru.”

Rhannu'r stori