Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae Dr Bridget Kerr o Brifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Ymchwil Cydffederasiwn Profiannaeth Ewrop (CEP) 2019 am ei hymchwil PhD i systemau gwerthuso gwasanaethau prawf.
CEP yw'r corff sy'n dod â holl ddarparwyr gwasanaethau cywiro cymunedol yn Ewrop ynghyd, a dyma'r corff proffesiynol blaenllaw ar lefel Ewropeaidd. Cyflwynir y wobr ymchwil ganddynt unwaith bob tair blynedd.
Cyflwynwyd y wobr am y tro cyntaf yn 2016, a enillwyd gan droseddegwr o Brifysgol Abertawe hefyd. Mae hyn yn rhoi Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton mewn sefyllfa o fri fel yr unig Ysgol y Gyfraith i ennill y wobr.
Cyflwynwyd y wobr eleni i Dr Bridget Kerr, a raddiodd o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe yn gynharach eleni, yng Nghynulliad Cyffredinol CEP yn Nulyn.
Yn siarad wrth dderbyn ei gwobr, dywedodd Dr Kerr:
"Mae’n fraint ac yn anrhydedd derbyn Gwobr Ymchwil Cydffederasiwn Profiannaeth Ewrop 2019, yn anad dim, oherwydd ei fod yn golygu bod y proffesiwn wedi cydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn.
“Mae fy ngwaith ymchwil yn ymwneud â mesur a gwella gwasanaethau prawf, a'r gwir yw, na fyddai'n bwysig o gwbl pe na bai gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes yn ei werthfawrogi.
"Gall ymchwil fel fy ymchwil i gael effaith am oes yn y byd go iawn y tu hwnt i'r astudiaeth gychwynnol oherwydd dyfarniadau o'r fath. Mae'n foddhaol iawn gwybod y bydd gwasanaethau prawf ledled Ewrop yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu dulliau ac adnoddau gwerthuso ar sail tystiolaeth, megis fy allbwn PhD The Swansea Service Evaluation Inventory – Women’s Projects, y tu hwnt i'r byd academaidd a'i rhoi ar waith.
"Mae cael cydnabyddiaeth ar y lefel hon yn sicrhau bod modd defnyddio'r gwaith lle mae ei angen fwyaf, cefnogi gwasanaethau rheng flaen wrth ddefnyddio'r strategaethau a'r sgiliau gorau sydd ar gael i ostwng y niferoedd sy'n aildroseddu er budd ymarferwyr, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd yn gyffredinol."
Meddai’r Athro Peter Raynor o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, a enillodd y wobr hon adeg ei sefydlu yn 2016, ac a oruchwyliodd PhD Dr Kerr:
“Rwyf wrth fy modd bod Bridget wedi ennill y wobr hon. Dyma’r ail dro y dyfarnwyd y wobr hon, a throseddegwyr o Abertawe a’i henillodd ar y ddau achlysur. Mae’r llwyddiant rhyngwladol hwn yn arwydd o ansawdd ein hymchwil i adsefydlu troseddwyr, sydd wedi bod yn nodwedd flaenllaw o’n gwaith yn Abertawe ers y 1970au. Mae cyflawniad Bridget yn eithriadol ar gyfer ymchwilydd gyrfa gynnar ac mae’n argoeli’n wych am y dyfodol.”