Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae'n bleser mawr gan Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe gyhoeddi mai Kaite O’Reilly a Peter Matthews yw'r ddau artist a ddewiswyd yn Gymrodorion Creadigrwydd cyntaf y Brifysgol.
Bydd Kaite O'Reilly, dramodydd sy'n gweithio ym meysydd celfyddydau anabledd a diwylliant prif ffrwd, a Peter Matthews, artist gweledol y mae ei waith yn pontio perfformiad a gwaith cysyniadol, yn dechrau ar eu Cymrodoriaethau blwyddyn o hyd y mis nesaf.
Wedi'u sefydlu gan yr awdur a'r Athro Creadigrwydd, Owen Sheers, mae'r Cymrodoriaethau Creadigrwydd yn fenter gyffrous newydd sy'n cynnig cyfle i ddau artist proffesiynol archwilio ac ymwneud ag ymchwil academaidd blaengar ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd gan bob artist 12 mis i ddewis prosiect ymchwil ac ymdrwytho ynddo, cyn creu gwaith celf newydd i'w ddadorchuddio ym mis Rhagfyr 2020.
Bydd enillydd Gwobr Ted Hughes, y dramodydd radio, yr ysgrifennwr a'r dramatwrg, Kaite O’Reilly, yn gweithio gyda'r Athro David Turner ar y prosiect Anabledd a'r Chwyldro Diwydiannol yng Ngholeg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.
Bydd Artist Tirlun y Flwyddyn Sky Arts, Peter Matthews, artist gweledol sy'n arbenigo mewn paentio lluniau ar lan neu o dan gefnforoedd y byd, yn cydweithio â Dr Ruth Callaway ar ei phrosiect ymchwil yn y biowyddorau ym Mae Abertawe: Changing Coasts.
"Mae derbyn un o'r cymrodoriaethau Creadigrwydd cyntaf yn fraint ac yn bleser mawr", meddai Kaite O’Reilly. "Dwi wedi bod yn creu dramâu am brofiad byw pob dydd pobl anabl am flynyddoedd maith a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at barhau â’r gwaith hwn o safbwynt hanesyddol, gan daflu goleuni ar y bywydau hyn sydd wedi eu gadael yn y tywyllwch a'u hesgeuluso am gymaint o amser."
"Dwi wrth fy modd fy mod i wedi cael fy newis yn un o'r ddau Gymrawd Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe," meddai Peter Matthews. "Byddaf yn cydweithio â Dr Ruth Callaway wrth i ni archwilio sut mae'r celfyddydau gweledol a bioleg y môr yn gorgyffwrdd, gan ddod o hyd i symbiosis creadigol pan gânt eu cyfuno fel dau bwnc astudio ac ymchwilio. Alla i ddim aros i fynd allan i'r traeth a dechrau creu lluniau!"
Derbyniodd y Sefydliad Diwylliannol lif o geisiadau o'r eiliad y cyhoeddwyd y cymrodoriaethau, felly roedd llunio'r rhestr fer yn her fawr. Fodd bynnag, ar ôl pwyso a mesur yn ofalus, dewiswyd Kaite a Peter gan banel o feirniaid a oedd yn cynnwys yr Athro Owen Sheers, Dr Sharon Bishop (Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe), yr Athro John Spurr (Pennaeth y Celfyddydau a'r Dyniaethau), yr Athro Liz McAvoy (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol) a Karen MacKinnon (Curadur Oriel Gelf Glynn Vivian).
Meddai Owen Sheers, "Rwyf mor falch ein bod wedi lansio’r Cymrodoriaethau hyn drwy benodi dau artist mor ddawnus a chyffrous. Gobeithio y byddan nhw a'u partneriaid academaidd yn cael blwyddyn hynod ddiddorol o gydweithio ac archwilio, sydd hefyd yn addo bod yn injan pwerus ar gyfer datblygu sgwrs fywiog rhwng y gwyddorau a'r celfyddydau yn y Brifysgol a'r gymuned ehangach.”
Meddai'r Athro David Turner, "Rwyf wrth fy modd y byddaf yn gweithio gyda Kaite O’Reilly i gyflwyno straeon pobl anabl i genhedlaeth newydd. Bydd ymrwymiad Kaite i rymuso pobl anabl drwy'r celfyddydau creadigol yn darparu ffyrdd newydd a chyffrous o gysylltu brwydrau pobl anabl yn y gorffennol â phrofiadau pobl heddiw."
"Dwi'n hynod chwilfrydig am weithio gyda Peter Matthews”, meddai Ruth Callaway. “Mae'r cysylltiadau mor gryf rhwng ei gelf a'm hymchwil i a'r môr wedi rhoi sylfaen i ni ddechrau'r sgwrs hon er bod gennym ffyrdd hollol wahanol o weithio."
I nodi dechrau cymrodoriaethau Kaite a Peter, cynhelir digwyddiad cyhoeddus nos Wener 15 Tachwedd pan fydd y ddau artist yn siarad am eu gwaith a'u hymagwedd at y cymrodoriaethau. Bydd Kaite a Peter yn cynnwys myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe a'r gymuned leol yn eu prosiectau drwy weithdai am ddim ar adegau amrywiol yn y Gymrodoriaeth. Cyhoeddir manylion maes o law.
Nos Wener 15 Tachwedd, 6.00pm - 7.30pm, Creu Taliesin, Prifysgol Abertawe.