Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae disgyblion wedi cael cyfle unigryw i gael rhagor o wybodaeth am nanodechnoleg mewn gweithdy arbennig ym Mhrifysgol Abertawe. Nod y gweithdy oedd ysbrydoli gwyddonwyr y dyfodol.
Daeth NanoBach â disgyblion blynyddoedd 7 ac 8 o Gastell-nedd Port Talbot ynghyd a oedd yn gallu dangos yr hyn yw nanodechnoleg a sut y gellir ei defnyddio ar raddfa fwy mewn bywyd bob dydd.
Astudio pethau bach iawn yw nanowyddoniaeth, a gellir ei defnyddio ar draws yr holl feysydd gwyddonol eraill, megis cemeg, bioleg, ffiseg, gwyddor ddeunyddiau a pheirianneg. Nod y digwyddiad hwn oedd rhoi dealltwriaeth well i blant ac ennyn eu diddordeb mewn nanodechnoleg.
Datblygwyd y digwyddiad gan yr Athro Steve Conlan, pennaeth menter ac arloesi yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a oedd wedi gweld effaith gadarnhaol digwyddiad tebyg i ysgolion a gynhaliwyd fel rhan o gynhadledd yn yr Eidal, sef NanoGaliato.
Yn Adeilad Academaidd Tata Ewrop ym Mhort Talbot, gwelwyd myfyrwyr nanofeddygaeth ac ymchwilwyr o’r Brifysgol yn helpu disgyblion wrth iddynt roi cynnig ar amrywiaeth o arbrofion a gweithgareddau llawn hwyl yn rhan o’r digwyddiad.
Meddai disgybl blwyddyn 8, Mindie James o Ysgol Bro Dur: “Rwyf wedi dysgu cymaint. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am nanodechnoleg cyn heddiw, a bellach dwi i’n gwybod llwyth. Mwynheais wneud breichledi uwch-fioled a nanoronynnau yn fawr - roedd yn wych!”
Dywedodd yr Athro Conlan: ”Nod NanoBach yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o nanowyddonwyr yng Nghymru. Archwiliodd nanofeddygaeth, nanoynni a nanoamgylchedd – sy’n ymdrin â sawl agwedd ar ddyfodol gwyddoniaeth a meddygaeth.
”Nanobach yw fersiwn Cymru o raglen Academia di Gagaliato Globale, ac fe’i hysbrydolwyd gan Nanopicolla a gynhelir bob blwyddyn yn Calabria. Roeddem yn edrych ymlaen at fod y wlad gyntaf i gynnal digwyddiad Academia y tu allan i’r Eidal.”
Ar ddiwedd y digwyddiad, roedd y bobl ifanc yn gallu dangos yr hyn y gwnaethant ei ddysgu i’w teuluoedd ac aelodau o’r gymuned gan gynnwys Maer a Maeress Castell-nedd Port Talbot, Scott a Jemma Jones.
Dywedodd y Canghellor Jones: ”Dyma’r enghraifft orau o un o’r cyflogwyr mwyaf, Tata Steel, yn gweithio gydag un o’n prifysgolion lleol i ddod ag ysgolion at ei gilydd am ddigwyddiad mor addysgol a llawn hwyl. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Ysgol Feddygaeth am arddangos y sgiliau y mae eu hangen ar weithluoedd y dyfodol yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.”
Ychwanegodd Pennaeth Gwyddoniaeth Ysgol Ystalyfera, Richard Morgan: ”Roedd cymaint o weithgareddau ymarferol ar gyfer y disgyblion - roeddent wrth eu boddau. Dyma gyfle dysgu gwych y tu allan i’r ystafell ddosbarth a roddodd gipolwg gwych iddynt ar yrfaoedd posibl ac opsiynau astudio yn y dyfodol.”
Dywedodd yr Athro Conlan fod y digwyddiad wedi bod mor llwyddiannus fod cynlluniau eisoes ar waith ar gyfer NanoBach y flwyddyn nesaf.