Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Prifysgol yn tynnu sylw at faterion byd-eang yn y gynhadledd biofoeseg gyntaf
Ymgasglodd academyddion, myfyrwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol i fynd i’r afael â rhai o faterion moesegol mwyaf dybryd heddiw mewn cynhadledd arbennig ym Mhrifysgol Abertawe.
Fe'i cynhaliwyd i nodi Diwrnod Biofoeseg y Byd, ac roedd y digwyddiad yn cynnwys rhaglen amrywiol o bynciau ar amrywiaeth o themâu amserol gan gynnwys iechyd meddwl, gofal mamolaeth, newid yn yr hinsawdd ac amrywiaeth ddiwylliannol.
Biofoeseg yw'r astudiaeth o foeseg ddadleuol nodweddiadol a ddaw yn sgil datblygiadau mewn bioleg a meddygaeth a chynhelir y diwrnod ymwybyddiaeth fyd-eang a drefnir gan UNESCO yn flynyddol i dynnu sylw at y materion anodd hyn.
Roedd Chantal Patel Prifysgol Abertawe, un o Gadeiryddion Unedau rhwydwaith byd-eang ar gyfer UNESCO Biofoeseg, yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad a gynhaliwyd ar gampws Parc Singleton am y tro cyntaf.
Meddai: “Rydym yn amlwg yn dechrau ar gyfnod lle mae datblygiadau meddygol a newidiadau yn y byd yn awgrymu bod angen i ni feddwl yn fwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud a'r hyn y dylem ei wneud ochr yn ochr â rheoli penderfyniadau problemus cyfredol ar fywyd ac iechyd pobl.
“Fel Cadeirydd Uned, fy rôl i yw hyrwyddo gwaith UNESCO a lledaenu neges pwysigrwydd biofoeseg.”
Roedd y digwyddiad un- dydd yn ddim ond un o gannoedd a gynhaliwyd ledled y byd i ddod ag amrywiaeth o bobl ynghyd i archwilio heriau a chyfyng-gyngor amrywiaeth ddiwylliannol.
Mynychodd nifer fawr o bartïon â diddordeb, gan gynnwys myfyrwyr, academyddion, gweithredwyr cymdeithasol a gwleidyddion gan gynnwys Dafydd Elis Thomas, Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Dafydd.
Ar wahân i weithdai a gyflwynwyd gan brif siaradwyr, roedd y diwrnod yn cynnwys celf, barddoniaeth, cerddoriaeth a dawns a bwyd i adlewyrchu themâu amlddiwylliannol.
Dywedodd Mrs Patel, sy’n bennaeth Astudiaethau Rhyngbroffesiynol yng Ngholeg Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol, ei bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad a’r pynciau a drafodir yn cael effaith barhaus ar bawb a wnaeth mynychu.
“Mae biofoeseg yn bwysig yn y byd sy'n gyflym newid. Yn ddiweddar gwelsom bryderon a godwyd ynghylch newid yn yr hinsawdd ac mae'r angen i fynd i'r afael â'r materion hynny a'u gwneud yn iawn ble nad yw efallai’n bosibl cael cytundeb llwyr ynghylch sut y dylem fyw ein bywydau yn hanfodol,” meddai.
“Gobeithio bod y gynhadledd wedi helpu i ledaenu’r neges o bwysigrwydd biofoeseg yn y byd plwraliaethol hwn yn ogystal ag annog cydweithrediadau ymchwil yn y dyfodol â phartïon eraill sydd â diddordeb.”