Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Canolfan £4.6m newydd i hybu mynediad at ddata hollbwysig a fydd yn helpu i drawsnewid iechyd anadlol yn y Deyrnas Unedig
Mae Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe yn chwarae rôl allweddol mewn consortiwm £4.6m sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig ar wella bywydau miliynau o bobl sydd â salwch anadlol.
Mae’r Banc Data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn un o bartneriaid y consortiwm £4.6m BREATHE – Canolfan Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol, sy’n gweithredu ledled y Deyrnas Unedig.
Mae BREATHE yn un o saith canolfan ddata newydd sy’n cael eu cyflwyno ledled y Deyrnas Unedig heddiw (01 Hydref 2019) gan Ymchwil Data Iechyd y Deyrnas Unedig, a bydd yn defnyddio data i hybu datblygiad triniaethau newydd ac arloesedd o ran darparu gofal ar gyfer cyflyrau fel asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a heintiau anadlol, a fydd o fudd i’r GIG, cleifion a diwydiant.
Defnyddir Banc Data SAIL i reoli data BREATHE, a bydd yn caniatáu i gymuned ymchwil ehangach y Deyrnas Unedig gael mynediad o bell at y data y mae’n ei ddal yn ddiogel ar gyfer ymchwil anadlol i helpu i wella bywydau pobl sy’n byw gyda chyflyrau anadlol yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr Banc Data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Phrif Swyddog Data ar gyfer BREATHE: “Mae gan y Deyrnas Unedig y setiau data cyfoethocaf ar salwch anadlol yn y byd, ond maen nhw’n ddarniog, wedi’u strwythuro’n anghyson ac yn anodd cael atynt.
“Gan weithio gydag arbenigwyr ym maes ymchwil anadlol ledled y Deyrnas Unedig, byddwn yn newid cyflymder a graddfa’r ymchwil sy’n bosibl yn sylweddol, trwy wneud adnoddau data perthnasol y Deyrnas Unedig yn gyflymach, yn haws ac yn fwy diogel i’w canfod a’u defnyddio, gan ddefnyddio systemau sefydledig a thîm Banc Data SAIL.
“Bydd Banc Data SAIL yn darparu gwasanaeth unswydd a fydd yn caniatáu i nifer o wahanol randdeiliaid wneud defnydd dibynadwy o ddata anadlol wedi’i guradu er budd cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, sy’n golygu y bydd y Deyrnas Unedig yn arwain y ffordd o ran arloesedd wedi’i sbarduno gan ddata.”
Dywedodd yr Athro Aziz Sheikh o Brifysgol Caeredin a Chyfarwyddwr BREATHE: “Rwy’n falch iawn y bydd BREATHE yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe i drawsnewid iechyd anadlol y Deyrnas Unedig.
“Rwyf wedi edmygu Banc Data rhagorol SAIL ers tro, ac rwy’n falch iawn y byddwn yn gallu defnyddio ei arbenigedd sylweddol wrth reoli data cleifion yn ddiogel ac yn gyfrifol er budd y cyhoedd.”
Dewisir aelodau BREATHE gan banel annibynnol sy’n cynnwys cynrychiolwyr cleifion a’r cyhoedd, clinigwyr, academyddion a diwydiant yn dilyn cystadleuaeth agored.
Mae BREATHE yn un o’r Canolfannau Ymchwil Data Iechyd, sef buddsoddiad £37 miliwn dros bedair blynedd gan Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF) y Llywodraeth, a arweinir gan Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig.
Y nod yw creu rhwydwaith ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer defnyddio data sy’n gysylltiedig ag iechyd yn ddiogel ac yn gyfrifol ar raddfa fawr.
Dywedodd yr Athro Andrew Morris, Cyfarwyddwr Ymchwil Data Iechyd y Deyrnas Unedig: “Mae’r Deyrnas Unedig yn gartref i rai o’r ymchwilwyr a’r arloeswyr mwyaf blaenllaw yn y byd sydd wedi’i chael hi’n anodd cael mynediad at ddata ar raddfa fawr am iechyd pobl yn y gorffennol. Bydd creu’r canolfannau hyn a’r seilwaith diogel ehangach yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i ymchwilwyr ddefnyddio data ar y raddfa briodol i ymchwilio i’r ffactorau genetig, ffordd o fyw a chymdeithasol sydd wrth wraidd llawer o glefydau cyffredin cyfarwydd ac amlygu tueddiadau data dadlennol a allai helpu i ddod o hyd i wellhad neu driniaethau.
“Gyda phwyslais eglur ar ddiogelwch data, diogelwch a chynnwys y cyhoedd, mae hwn yn gam nesaf pwysig a chyffrous yng nghynnig data iechyd y Deyrnas Unedig ac yn ychwanegu at y cryfderau arbennig sydd gennym ar draws ein gwasanaeth iechyd, ein prifysgolion a’n diwydiant.”
Dywedodd Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yr Athro Keith Lloyd: “Rydym yn falch iawn bod Abertawe wedi cael ei dewis i chwarae rôl allweddol mewn datblygiad mor bwysig a chyffrous.
“Mae buddion posibl y canolfannau hyn yn cynnwys diagnosis cynharach, datblygu triniaethau mwy effeithiol a rheoli’r GIG yn fwy effeithlon. Gall hyn i gyd fod o gymorth mawr wrth helpu ein cleifion i fwynhau bywydau hirach ac iachach.”
Mae consortiwm BREATHE yn cynnwys: Coleg Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth Imperial, Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerlŷr, Prifysgol y Frenhines Mary, Llundain, Coleg y Brenin, Llundain, Asthma UK, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Grŵp Comisiynu Clinigol y GIG Waltham Forest (ar ran One London LHCRE), Awdurdod Llundain Fwyaf, Respiri Ltd, StormID, Tiny Medical Apps, Novartis Pharmaceuticals UK, BreatheOx, GE Healthcare, Finnamore Partners ac Optimum Patient Care.