Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Caredigrwydd yn flaenoriaeth ar gyfer partner hirdymor yn ôl astudiaeth ryngwladol newydd
Un o'r prif nodweddion rydym yn chwilio amdano mewn partner hirdymor yw caredigrwydd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.
Mewn papur a gyhoeddwyd yn Journal of Personality, gofynnodd yr ymchwilwyr i dros 2,700 o fyfyrwyr coleg ledled y byd adeiladu'r partner hirdymor delfrydol gan ddefnyddio cyllideb sefydlog i "brynu" nodweddion.
Er bod nodweddion megis atyniad corfforol a rhagolygon ariannol yn bwysig, y nodwedd bwysicaf oedd caredigrwydd.
Cymharodd yr astudiaeth ddewisiadau partner myfyrwyr o wledydd dwyreiniol megis Singapôr, Maleisia a Hong Kong, a gwledydd gorllewinol megis y Deyrnas Gyfunol, Norwy ac Awstralia.
Rhoddwyd wyth nodwedd i'r myfyrwyr gael gwario "doleri mêts" arnynt: atyniad corfforol, rhagolygon ariannol da, caredigrwydd, hiwmor, diweirdeb, crefyddusrwydd, yr awydd i gael plant, a chreadigrwydd.
Er bod rhai gwahaniaethau mewn ymddygiad rhwng myfyrwyr o'r Dwyrain a myfyrwyr o'r Gorllewin, roedd hefyd tebygrwydd hynod.
Yn nodweddiadol, gwariodd bobl 22-26% o'u cyllideb ar garedigrwydd, a symiau mawr ar atyniad corfforol a rhagolygon ariannol da, gan wario llai na 10% ar greadigrwydd a diweirdeb.
Gwelodd y tîm ymchwil rai gwahaniaethau diddorol rhwng y rhywiau hefyd – gwariodd dynion o'r Dwyrain a'r Gorllewin fwy o'u cyllideb ar atyniad corfforol na'r menywod (22% vs 16%) a gwariodd y menywod fwy ar ragolygon ariannol da (18% vs 12%).
Cred y prif ymchwilydd, Dr Andrew G. Thomas, fod astudio dewisiadau cymar ar draws diwylliannau yn bwysig er mwyn deall ymddygiad dynol.
"Mae edrych ar grwpiau diwylliannol gwahanol iawn yn caniatáu i ni brofi'r syniad bod rhai ymddygiadau yn gyffredinol.
"Os yw dynion a menywod yn ymddwyn mewn ffyrdd tebyg ledled y byd, mae'n cefnogi'r syniad bod rhai ymddygiadau'n datblygu er gwaethaf diwylliant, yn hytrach nag o'i herwydd."
Dangosodd y canlyniadau wahaniaeth mewn awydd partner i gael plant, a oedd yn flaenoriaeth i fenywod yn y Gorllewin yn unig.
"Credwn fod a wnelo hyn â chynllunio teulu," dywedodd Thomas. "Mewn diwylliannau lle mae defnyddio atal cenhedlu yn gyffredin, gallai awydd partner i gael plant rhagfynegi'r tebygolrwydd o ddechrau teulu.
"Mewn cyferbyniad, mewn diwylliannau lle mae atal cenhedlu'n llai cyffredin, gallai cael plant fod yn ganlyniad naturiol cael rhyw mewn perthynas, gan wneud yr awydd i gael plant yn llai perthnasol."