Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae tîm o wyddonwyr Prifysgol Abertawe wedi darganfod croesryw clymog Japan prin yn ne Cymru.
Er y gallai hyn olygu hyn ymlediad y clymog ymhellach, cred y gwyddonwyr o Abertawe y gallai'r darganfyddiad eu helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o reoli ymlediad y planhigyn distrywiol hwn, sy'n enwog am fod yn anodd ei frwydro.
Darganfuwyd y croesryw clymog, a adnabyddir fel clymog Connolly, yn ystod astudiaeth dan arweiniad Sophie Hocking, myfyriwr PhD wedi'i hariannu gan gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Wybodaeth (KESS) Prifysgol Abertawe. Roedd astudiaeth Sophie yn rhan o ymchwil dwys a gynhaliwyd gan ymchwilwyr yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe dros wyth mlynedd, gan gynnwys y prawf maes mwyaf yn y byd â chlymog Japan. Cynhaliwyd yr ymchwil mewn partneriaeth agos â Complete Weed Control ac Advanced Invasives, cwmni sydd wedi tyfu o'r ymchwil.
Meddai Sophie: "Darganfyddom dystiolaeth o glymog Connolly yn ystod yr astudiaeth, a gynhaliwyd ger Caerdydd. Mae clymog Conolly yn groesryw clymog Japan a'r planhigyn gardd cyffredin, gwinwydden Rwsia. Er bod clymog Connolly yn brin yn y Deyrnas Gyfunol, mae cofnodion ohono'n cynyddu ar draws cyfandir Ewrop."
Meddai Sophie ei bod hi a'r tîm wedi'u synnu o ddarganfod tystiolaeth o'r croesryw clymog Japan: "Mae clymog Connolly yn ychydig o baradocs oherwydd, er ei fod yn brin yn y gwyllt, dyma'r hedyn mwyaf cyffredin a geir ar blanhigion clymog Japan yn y Deyrnas Gyfunol. Nid oeddem yn disgwyl dod o hyd i glymog Japan yn yr hadau, oherwydd mae planhigion yn y Deyrnas Gyfunol yn dod o un clôn benywaidd sengl ac ni all atgenhedlu'n llwyddiannus heb blanhigion gwrywaidd, oni ceir croesiad ag aelod arall o'r teulu clymog. Mewn gwirionedd, nid oeddem yn disgwyl dod o hyd i unrhyw fath o hadau clymog ymledol, oherwydd mae'n annhebygol iawn iddynt oroesi gaeaf yn y Deyrnas Gyfunol.
Mae'r ffaith ein bod wedi cael tystiolaeth o glymog Connolly yn golygu bod croesiad wedi digwydd – gallai hyn fod yn agwedd bwysig ar ymlediad clymog Japan rydym yn ei hesgeuluso.
Gall clymog Japan gynhyrchu symiau mawr o hadau yn ystod croesiad. Os bydd amodau hinsoddol yn fwy ffafriol yn y dyfodol i'r hadau hyn egino'n llwyddiannus, gallai ein problem clymog Japan waethygu. Gallai banc hadau yn llawn croesryw clymog olygu ail don o ymledu ar ôl trin y broblem wreiddiol.
Mae dod o hyd i glymog Connolly yn y banc hadau pridd yn golygu y gallai nawr fod gan glymog ymledol eraill fodd ychwanegol o wasgaru.
Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ecoleg ein safle clymog Japan i bennu a fydd planhigion brodorol yn aildyfu ar ôl trin y clymog ai peidio, ac a fydd angen i ni ychwanegu rhywogaethau newydd i adfer y cynefin. Bydd hyn yn ein helpu i lywio arfer gorau cyflawn ar gyfer rheoli planhigion ymledol megis clymog Japan, gan ganiatáu i ni symud y tu hwnt i ymagwedd adweithiol y mae wedi nodweddu rheoli planhigion ymledol ac adfer hyd yma."
Cyhoeddir yr erthygl lawn yn Botanical Society of Britain and Ireland News.