Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae myfyriwr doethurol ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod ffordd o weld bywyd planhigion ac anifeiliaid mewn dyfroedd llwyd – gan ddefnyddio lens dŵr croyw.
Mae Robyn Jones, myfyriwr PhD yn y Coleg Gwyddoniaeth wedi bod yn profi'r lens – siambr optegol hylif clir (CLOC) – fel ffordd o wella gwelededd dan y dŵr i wyddonwyr sy'n ymchwilio'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw yn ein moroedd arfordirol bas. Yn nodweddiadol, bydd y cyfarpar hwn yn targedu asesu cymunedau pysgod sy'n byw o gwmpas strwythurau adnewyddadwy morol, megis datblygiadau ynni gwynt, llanw a thonau ar y môr, lle mae'r dŵr fel arfer yn fwy cymylog.
Dywedodd Robyn: "Ers amser hir, mae wedi bod yn her i wyddonwyr ddod o hyd i ffyrdd o astudio bioamrywiaeth yn y dyfroedd cymylog hyn mewn ffordd nad yw'n tarfu ar y cynefinoedd sensitif a chymhleth hyn. Mae camerâu tanddwr yn helpu i wella ein gwybodaeth o'r amgylchedd arfordirol, ond y brif anfantais yw eu defnydd cyfyngedig mewn amgylcheddau gwelededd gwael. Mae'n hanfodol, fodd bynnag, ein bod yn gallu archwilio'r ardaloedd hyn, oherwydd y farn gyffredinol yw eu bod yn hollbwysig i fioamrywiaeth, pysgodfeydd, ynni, a fwyfwy i wasanaethau ecosystemau."
I oresgyn yr her hon, ychwanegodd Robyn a'r tîm yn Ocean Ecology a SEACAMS siambr optegol hylif clir (CLOC) at system fideo danddwr o bell ag abwyd (BRUV). Er bod y diwydiant arolygon morol wedi defnyddio siambrau tebyg yn y gorffennol i asesu cynefinoedd ar waelod dŵr dwfn, mae ychwanegu'r CLOC at y system BRUV yn ffordd newydd o asesu symudiad pysgod.
Profwyd y system o dan amodau rheoledig a maes, a dangosodd y canlyniadau welliant aruthrol mewn gwelededd – gyda'r gwyddonwyr yn gallu adnabod pysgod ar lefel rhywogaeth. Meddai Dr Richard Unsworth o Brifysgol Abertawe, cyfarwyddwr ar y prosiect: "Dangosodd ein hastudiaeth fod ychwanegu CLOC at system BRUV gonfensiynol yn gwella gwelededd o dan y dŵr, a gellir defnyddio hyn er mwyn deall amgylcheddau morol a dŵr croyw anodd, megis aberoedd a mangrofau cymylog."
Dywedodd Robyn: "Gyda chynnydd mewn datblygiadau adnewyddadwy morol yn fyd-eang, mae angen dull syml, dibynadwy, diogel ac ailadroddadwy o fonitro cymunedau bywyd gwyllt sy'n byw o gwmpas y datblygiadau hyn. Bydd y system CLOC-BRUV yn caniatáu i wyddonwyr ledled y byd fonitro'r amgylcheddau hyn yn agos, wrth leihau'r risg o ddifrodi isadeiledd ar wely'r môr."
Mae'r bartneriaeth gydweithrediadol hon â'r ymgynghoriaeth morol Ocean Ecology wedi galluogi i'r dechnoleg newydd hon gael ei phrofi yn y maes ac mewn labordy er mwyn arddangos ei dilysrwydd i reoleiddwyr amgylcheddol y llywodraeth.
Dywedodd Ross Griffin o Ocean Ecology: "Mae'r ymchwil hwn yn enghraifft berffaith o ddiwydiant a'r byd academaidd yn cydweithio i ddatblygu methodoleg newydd a ellir ei ddefnyddio yn y byd go iawn. Mae'n arbennig o gyffrous am ei fod yn cyflwyno ymagwedd i wella asesu cymunedau biolegol morol nad ydynt wedi'u hastudio'n ddigonol a geir mewn amgylcheddau gwelededd gwael, yn y Deyrnas Gyfunol ac yn fyd-eang."
Darllenwch y papur ymchwil yma.
Daw'r ymchwil o brosiect cydweithredol rhwng SEACAMS2, Ocean Ecology Limited a Phrifysgol Abertawe (wedi'i ariannu'n rhannol gan Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Wybodaeth).
Darparodd Prifysgol Abertawe a SEACAMS yr adnoddau maes a'r staff ymchwil, ac roedd arweiniad Ocean Ecology a'u gwybodaeth o'r diwydiant yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect.