Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Logo SELKIE

Lansiwyd heddiw brosiect trawsffiniol newydd gwerth €4.2m sy’n anelu at roi hwb i’r diwydiant ynni morol yng Nghymru ac Iwerddon gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Cymru.

Ariennir Selkie gan raglen gydweithrediad yr UE rhwng Iwerddon a Chymru ac fe’i harweinir gan Goleg Prifysgol Cork mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Ynni Morol Cymru, Menter Môn, DP Energy Iwerddon a Gavin a Doherty Geosolutions o Ddulyn.

Bydd y prosiect yn gweld datblygu llwybr masnacheiddio symlach ar gyfer y diwydiant ynni morol trwy sefydlu rhwydwaith trawsffiniol o ddatblygwyr a chwmnïau cadwyn gyflenwi yng Nghymru ac Iwerddon.  Bydd offer a modelau technoleg aml-ddefnydd yn cael eu creu a'u treialu ar brosiectau peilot cyn cael eu rhannu ar draws y sector.

Y nod yw defnyddio'r arbenigedd gan academyddion a diwydiant ar draws y ddwy wlad i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant.

Lansiwyd Selkie yng nghynhadledd flynyddol Ocean Energy Europe yn Nulyn yn ystod derbyniad gyda'r nos a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yng Nghymru, Lesley Griffiths AC:

“Mae gan Gymru botensial enfawr i ddarparu ynni morol cynaliadwy diolch i’r adnoddau naturiol rydyn ni wedi ein bendithio â nhw.  Bydd sefydlu rhwydwaith trawsffiniol o ddatblygwyr a chwmnïau cadwyn gyflenwi yn Iwerddon yn cryfhau'r diwydiant hwn ymhellach ac yn caniatáu inni fod ar flaen y gad wrth ddefnyddio ynni gwyrdd.

“Bydd y prosiect hwn ond yn cryfhau gallu’r diwydiant i wthio costau i lawr a’i wneud yn gystadleuol, yn ogystal â darparu’r dystiolaeth sy’n ofynnol gan Lywodraeth y DU bod y diwydiant yn barod i’w fasnacheiddio’n llawn.”

Dywedodd y Gweinidog dros Gyfathrebu, Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd yn Iwerddon, Richard Bruton TD: “Mae Cynllun Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd Iwerddon a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn nodi’r mesurau polisi angenrheidiol i sicrhau bod Iwerddon yn cyrraedd ei thargedau 2030, gan ein rhoi ar lwybr clir tuag at gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050.  Mae torri ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a phontio i ynni adnewyddadwy yn rhan allweddol o'r Cynllun.  Erbyn 2030, cynhyrchir 70% o drydan Iwerddon o ffynonellau adnewyddadwy.

Mae gan Iwerddon a Chymru adnoddau tonnau a llanw mawr, sydd â'r potensial i gyfrannu'n sylweddol at y trawsnewid hwn. Rwy’n falch o gefnogi Prosiect Selkie o dan raglen drawsffiniol Iwerddon-Cymru gyda’r nod yn y pen draw o hwyluso busnesau bach a chanolig Gwyddelig a Chymreig yn y sector i symud ymlaen ar hyd y llwybr at fasnacheiddio.”

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles AC, sy’n gyfrifol am ddarparu cyllid yr UE yng Nghymru; “Mae dod ag arbenigedd o Gymru ac Iwerddon ynghyd yn hanfodol os ydym yn mynd i gwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd a rennir o'n ffin ym Môr Iwerddon gan gynnwys y potensial i gynhyrchu ynni glân.

“Mae ein perthynas ag Iwerddon yn bwysig iawn, felly rydw i wrth fy modd yn gweld ein dwy wlad yn cydweithio ar flaenoriaeth fyd-eang mor bwysig.”

Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Gwariant Cyhoeddus a Diwygio, Paschal Donohoe TD, sydd â chyfrifoldeb polisi cyffredinol am Gronfeydd Strwythurol yr UE yn Iwerddon: “Rwy’n falch iawn o groesawu prosiect pellach o dan raglen drawsffiniol Iwerddon-Cymru.

Mae'n enghraifft berffaith o'r math o synergeddau y gellir eu defnyddio gan sefydliadau a busnesau trydydd lefel sy'n gweithio mewn cydweithrediad agos ac yn datblygu atebion arloesol a chynaliadwy i gwrdd â heriau ynni'r dyfodol.  Hoffwn gydnabod a chymeradwyo ymdrechion pawb sy'n gysylltiedig â Choleg Prifysgol Corc, Prifysgol Abertawe, a chonsortiwm o fusnesau ac arweinwyr yn y sector ynni adnewyddadwy."

Os hoffech ddarganfod mwy am Selkie neu os hoffech gofrestru'ch diddordeb i fod yn rhan o un o'r prosiectau peilot, cysylltwch â TJ Horgan, Coleg Prifysgol Corc.

 

 

Rhannu'r stori