Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething yn agor Canolfan Sgiliau Clinigol Aneurin Bevan yn swyddogol ochr yn ochr ag uwch staff o Brifysgol Abertawe gan gynnwys yr Is-Ganghellor yr Athro Paul Boyle, myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr meddygol.

Mae myfyrwyr iechyd ym Mhrifysgol Abertawe bellach yn gallu dysgu sgiliau hanfodol mewn cyfleuster hyfforddi newydd unigryw ynghanol ysbyty prysur.

Crëwyd Canolfan Sgiliau Clinigol Aneurin Bevan mewn hen ward yn Ysbyty Singleton ac mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr nyrsio a meddygol ymarfer sgiliau clinigol mewn amgylchedd realistig. 

Crewyd yr uned gan Ysgol Feddygol a Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol i ddarparu cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr nyrsio, meddyg cyswllt a meddygol. 

Gan frolio ardal damweiniau ac achosion brys, ward oedolion gofal critigol, ward plant, ystafell synhwyraidd, darlithfa yn ogystal ag ystafelloedd archwilio meddygol, agorwyd y ganolfan - sydd wedi'i lleoli yn yr hyn a arferai fod yn Ward 10 - yn swyddogol gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething. 

Dyluniwyd y ganolfan i ddilyn taith claf trwy ysbyty gan gynnwys dyblygiad o ardal cartref y claf i roi blas ar nyrsio cymunedol. 

Cafodd y Gweinidog daith dywys a siaradodd â staff a myfyrwyr am y cyfleusterau sy'n cynnwys yr ystafell hel atgofion lle rhodd gynnig ar offer a ddyluniwyd i helpu i dynnu sylw at rhai o'r problemau y mae cleifion â dementia yn eu hwynebu. 

Gwelodd Mr Gething hefyd yr offer efelychu a ddefnyddir i gefnogi dysgu. Gellir rhaglennu'r manicinau uwch-dechnoleg i efelychu ystod o synau calon a resbiradol a'u defnyddio i ymarfer technegau. 

Yn y seremoni agoriadol, disgrifiodd pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, yr Athro Ceri Phillips, bod y ganolfan fel breuddwyd wedi ei gwireddu. 

Meddai: Pan wnaeth y bwrdd iechyd rhoi’r cyfle i ni ddarparu cyfleuster ar gyfer addysg yma fe wnaethon neidio at y cyfle a dyma’r amlygiad o lawer o waith caled. Mae'r cyfleusterau yma o'r radd flaenaf felly rydym yn falch iawn y gall ein myfyrwyr gael eu hyfforddi mewn amgylchedd sy'n uwch-dechnoleg ac yn realistig. 

Dywedodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth yr Ysgol Feddygol: “Mae hwn wedi bod yn ddarn da iawn o gydweithredu rhwng y ddau goleg ac edrychwn ymlaen at hyfforddi gweithlu'r dyfodol yma. 

“Mae gennym hefyd gynlluniau beiddgar iawn eraill sy'n cynnwys gwella'r cynnig ar gyfer gofal iechyd yng Ngorllewin Cymru a hwn yw’r cam cyntaf. " 

Gan groesawu’r Gweinidog, dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe Paul Boyle ei bod wir yn bleser gweld canlyniadau’r cydweithio. 

Meddai: “Rwyf wir yn bles ei bod yn dod â meddygon, nyrsys a phobl o ystod o wahanol ddisgyblaethau ynghyd yn ystod eu hyfforddiant. Mae’n bwysig iawn ac nid yw bob amser yn digwydd mewn nifer o osodiadau prifysgol. 

“Gwna hyn hefyd wahaniaeth mawr i’n myfyrwyr i gael eu hyfforddiant wedi ei fewnosod mewn awyrgylch ysbyty– y ffordd y maent yn ymddwyn, y ffordd mae’n teimlo i fod yn fwy real iddynt. 

“Mae'r ffaith bod gennym y Gweinidog yma mewn gwirionedd yn arwydd gwych bod hwn yn gyfleuster blaengar, rhywbeth na fydd gan bob prifysgol nac ysbyty. " 

Canmolodd y Gweinidog y ganolfan hefyd fel enghraifft wych o integreiddio a ddywedodd oedd wrth wraidd gofal iechyd modern. 

“Mae'r ffordd rydyn ni'n darparu gofal iechyd yn newid. Mae cael dwy ran wahanol o'r brifysgol eisiau hyfforddi pobl gyda'i gilydd mewn cyd-destun sy'n debycach i'r byd y maen nhw'n mynd i weithio ynddo yn bwysig iawn. 

“Felly nid y tro cyntaf i chi gwrdd â chlaf yw pan ewch chi allan yn eich blwyddyn olaf, nid y tro cyntaf y bydd yn rhaid i chi weithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol arall yw pan fyddwch chi'n cael swydd yn y pendraw. Mae hyn yn newydd ac mae'n wahanol ond mae'n rhaid iddo ddod yn beth normal.” 

Dywedodd fod y ffordd y mae staff iechyd yn cael eu hyfforddi yn bwysicach nag erioed a dyna pam roedd y prosiect hwn mor bwysig.

 “Pan fydd pobl yn meddwl am yr hyn maen nhw'n ei garu am y GIG, y wyneb dynol yw’r prif beth, y bobl sy'n cyflwyno'r trugaredd, y cyngor a'r cysur ac yn eu helpu i wneud penderfyniadau. 

“Dengys hyn y gorau o’r hyn sydd gan y GIG i’w gynnig a’r bobl sydd wrth wraidd hyn,” meddai. 

Derbyniodd yr ystafell fuddsoddiad hefyd gan Addysg Iechyd a Gwella Cymru (HEIW) ac mae wedi ei groesawu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe sy'n rhedeg Ysbyty Singleton. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Richard Evans: “Heb os, bydd rhoi cyfle i fyfyrwyr roi eu hyfforddiant ar waith mewn amgylchedd bywyd yn gwella eu sgiliau clinigol. Bydd hyn yn ei dro yn arwain at safon uwch o ofal i gleifion - rhywbeth rydym oll yn ceisio'i gyflawni." 

Ychwanegodd Pennaeth Adran y Brifysgol, yr Athro Jayne Cutter: “Mae hwn wir yn gyfleuster gwych a fydd yn darparu ein myfyrwyr â chyfleoedd dysgu ffantastig. Mae’r ganolfan yn unigryw, nid yn unig yn nhermau ansawdd y cyfarpar a’r ystod o brofiadau clinigol y gellir eu dyblygu, ond yn ei lleoliad.”

 

Rhannu'r stori