Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae pâr a ddisgynnodd mewn cariad ym Mhrifysgol Abertawe ar ddechrau'r 1950au yn dweud y bydd gan y sefydliad bob amser le arbennig yn eu calonnau.
Cyn dathliadau canmlwyddiant y Brifysgol, dychwelodd John a Diana Lomax, sy'n byw yn Abertawe erbyn hyn, i Gampws Parc Singleton i rannu atgofion am eu hamser yma.
Roedd Diana'n ysgrifennydd yn yr adran fotaneg a oedd yn yr Abaty bryd hynny, ac roedd hi'n atebol i'r athro botaneg arloesol, Florence Mockeridge.
"Roedd fy swydd gyntaf gyda chwmni peirianneg drydanol yn Sketty Cross, ond roeddwn i am weithio rhywle ychydig yn fwy bywiog. Gwelais hysbyseb am staff ysgrifenyddol yn yr adran ffiseg. Ni chefais y swydd ond cefais fy nghludo i weld yr Athro Mockeridge, a dyna sut cefais y swydd," meddai Diana.
"Yr Athro Mockeridge oedd yn arwain – Miss Jones oedd hi'n fy ngalw bob amser, byth Diana."
Er bod ei swyddfa ar lawr gwaelod yr Abaty wedi'i haddurno ychydig yn wahanol heddiw, mae'r olygfa'r un peth.
"Roeddwn i'n gallu gweld coeden fagnolia o'r swyddfa, ac rwy'n falch iawn gweld ei bod hi dal yno heddiw," dywedodd Diana a fydd yn troi'n 90 oed ym mis Ionawr. Mae ganddi atgofion melys iawn o'i phum mlynedd yn y Brifysgol o hyd.
"Roeddwn i'n aelod o staff ond oherwydd fy oedran, roeddwn i'n gallu uniaethu â'r myfyrwyr a staff ac roeddem ni'n arfer mynd i'r adeilad celfyddydau newydd [lle mae Adeilad Keir Hardie heddiw] am goffi."
Dyma sut y gwnaeth hi gyfarfod â'i gŵr a raddiodd yn beiriannydd ym 1953, ac aros i astudio gradd ôl-raddedig.
"Es i i seremoni raddio John, ond nid oeddem ni'n adnabod ein gilydd bryd hynny. Roeddwn i yno fel tywysydd," meddai.
Daeth John, sy'n dod o Birmingham yn wreiddiol, i astudio yn Abertawe ym mis Hydref 1950 ar ôl cwblhau gwasanaeth milwrol.
"Doeddwn i erioed wedi bod yma o'r blaen ond gwelais lyfryn yn ei ddisgrifio fel y Coleg yn y Parc. Ar ôl dod o Birmingham ddiwydiannol – a'r dewis arall oedd mynd i ardaloedd diwydiannol eraill yn y gogledd – Abertawe oedd y lle delfrydol i ddod yn ôl pob golwg."
Rhoddwyd rhestr o letywragedd a oedd yn cynnig llety preifat i John, ac yn y pen draw, aeth i'r Mwmbwls gyda chyd-fyfyriwr o'r flwyddyn gyntaf.
"Ymhen amser, symudom i dŷ yn Cornwall Place ac arhosais yno am weddill fy amser yn Abertawe.
"Byddai fy nheulu'n dod o Ganolbarth Lloegr ac yn treulio eu gwyliau yn y Mwmbwls oherwydd eu bod wrth eu boddau yno hefyd."
Roedd gan John docyn tymor ar drên eiconig y Mwmbwls i ddechrau, ac yna dechreuodd ddefnyddio beic modur bach i gymudo i'r Brifysgol.
"Roedd hawl gan John i barcio ei feic modur y tu allan i'r adran beirianneg. Nid oedd bron unrhyw geir ar y campws – yr Athro Mockeridge oedd yr unig aelod o staff â char bryd hynny.
"Byddem yn ei gweld hi'n dod i fyny'r ffordd ac os oeddwn i'n cael coffi yn rhywle arall, byddwn i'n rhuthro'n ôl i fy nesg i gyrraedd yr Abaty cyn iddi gyrraedd," meddai Diana.
Roedd astudio yn y 1950au yn wahanol iawn yn ôl John, sydd hefyd yn nesáu at 90 oed: "Roeddem yn gwisgo blasers a thei fel myfyrwyr – roedd yn fwy ffurfiol o lawer ac nid oedd menywod yn yr adran."
Daeth John yn aelod gweithgar o Gymdeithas Beirianneg y Brifysgol a chystadlu'n llwyddiannus mewn Eisteddfodau fel aelod o'r Gymdeithas Gorawl. Gwnaeth argraff hefyd yn chwarae sboncen.
"Doeddwn i erioed wedi gweld cwrt sboncen cyn hynny – dim ond dau a oedd yn Abertawe. Cefais fy addysgu i chwarae yn fy mlwyddyn gyntaf, ac roeddwn i'n ysgrifennydd y clwb erbyn fy nhrydedd flwyddyn.
"Roedd gan brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt eu dyfarniadau glas, ac roeddem ni'n arfer cael rhai aur. Roedd gennyf ddyfarniad aur gan Brifysgol Cymru, ac roeddwn i'n gapten tîm sboncen Prifysgol Cymru pan wnaethom guro holl brifysgolion y de gyda'i gilydd."
Yn y pen draw, daeth John yn beiriannydd sifil yng Nghaint, gan adael Diana ar ôl yn Abertawe. Ar ôl treulio blwyddyn ar wahân, penderfynodd y pâr briodi yn Eglwys San Paul yn Sgeti ym 1957, cyn symud i dde-ddwyrain Lloegr.
"Pan roeddem yma, roedd oddeutu 1,200 o fyfyrwyr yn y Brifysgol a byddech chi'n gwybod enwau'r rhan fwyaf ohonynt," meddai Diana. "Rydym yn dal i fod mewn cysylltiad â ffrindiau o'r cyfnod. Gwnaethom ffrindiau gydol oes."
Aeth John ymlaen i arbenigo mewn iechyd a diogelwch yn y diwydiant adeiladu – arbenigedd a arweiniodd at dderbyn OBE ym 1988. Bu'r pâr yn byw yn Guildford a magu eu dwy ferch. Fodd bynnag, ar ôl blynyddoedd o gymudo, awgrymodd John eu bod yn symud tua'r gorllewin.
Meddai: "Roedd bob amser gennyf gysylltiad ag Abertawe. Wrth fyw yn Guildford, roedd angen i mi ddod i Gymru am gynhadledd gyda Diana a dywedais 'awn ni i'r Mwmbwls i weld sut olwg sydd arni heddiw.
"Dechreuom edrych ar dai mewn ffenestri asiantaethau tai a meddwl na fyddai'n syniad gwael dychwelyd i Abertawe."
Prynodd y pâr dŷ ym Mayals lle maen nhw wedi bod yn byw'n hapus am y 31 mlynedd diwethaf.
Llifodd nifer o atgofion hapus yn ôl wrth ddychwelyd i'w hen amgylchedd yn y Brifysgol, gan gynnwys taith Diana i'r gwaith.
"Roeddwn i'n arfer beicio o fy nghartref ar Heol Derwen Fawr drwy Barc Singleton. Nid oedd yn arfer bod unrhyw beth yn tarfu ar yr olygfa o'r heol ar frig y parc ger Bwthyn y Swistir i'r môr – dim byd o gwbl ar wahân i ychydig o goed."
Roedd hi wrth ei bodd yn dychwelyd i'r ystafell lle bu'n gweithio am y tro cyntaf ar ôl mwy na 60 o flynyddoedd, ac i edrych o gwmpas gweddill yr Abaty a oedd yn arfer cynnal darlithoedd yn ogystal â'r ffreutur.
Meddai Diana wrth ddwyn atgofion: "Un tro, paratôdd fy ffrind a mi ginio Nadolig i gydweithwyr. Yn y pen draw, gwnaethom goginio'r pwdin Nadolig yn ffwrn aerglos yr adran ac roedd yr arogl yno am fisoedd!"
Er bod y campws wedi newid dros y blynyddoedd, cytunodd y pâr eu bod yn rhannu ymlyniad oesol â'r man lle gwnaethant gwrdd.
Dywedodd Diana: "Rydym bob amser yn meddwl yn annwyl amdano. Mae'r Brifysgol yn rhan fawr o'n cymuned yn ogystal â'n bywydau."