Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Yr wythnos hon, mae Prifysgol Abertawe yn dathlu llwyddiant graddedigion gradd-brentisiaethau cyntaf Cymru.
Mae 14 o fyfyrwyr wedi cwblhau rhaglen tair blynedd o hyd mewn Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol yn Adran Cyfrifiadureg y Brifysgol.
Mae'r Rhaglen Gradd-brentisiaethau yn cyfuno dysgu academaidd traddodiadol mewn amgylchedd prifysgol â phrosiectau sy'n seiliedig ar waith, gan alluogi'r myfyrwyr i gymhwyso eu gwybodaeth academaidd newydd at eu swyddi penodol yn rhan o'u cwmnïau.
Mae'r rhaglen arloesol hon yn galluogi myfyrwyr i ddysgu tra byddant yn parhau mewn cyflogaeth lawn-amser. Ariennir y cyrsiau'n llawn ar gyfer myfyrwyr, gyda chymorth gan y Sefydliad Codio (IoC) yng Nghymru a Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW).
Mae'r IoC yng Nghymru yn bartneriaeth fawr dan arweiniad Prifysgol Abertawe, sy'n rhan o'r Sefydliad Codio Cenedlaethol. Fe'i sefydlwyd i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol a nodwyd o ran y gweithlu, yn ogystal â meithrin y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol. Mae'r Rhaglen Gradd-brentisiaethau, a ragwelwyd yn wreiddiol yn rhaglen a fyddai'n helpu i unioni'r 'prinder sgiliau' mewn perthynas â Chyfrifiadureg yn y rhanbarth, yn profi'n boblogaidd iawn, a bydd gan Brifysgol Abertawe dros 75 o radd-brentisiaid Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol wedi cofrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Yn rhan o brosiect ei flwyddyn olaf, canolbwyntiodd Paul Finch, a gyflogir gan Jonathan Fleming, Cyfarwyddwr EPS Construction Ltd, ar gynllunio meddalwedd a fyddai'n helpu i ddatrys problemau ar gyfer y cwmni.
“Creodd Paul ddarn o feddalwedd pwrpasol sy’n ffurfio rhan o’n systemau pen cefn ariannol,” meddai.
“Rydym yn rhag-weld y bydd y feddalwedd hon yn arbed £400,000 y flwyddyn i’r cwmni mewn amrywiannau contract a adferir.”
Mae'r DVLA, ymhlith sefydliadau eraill, wedi cyfrannu at y rhaglen Gradd-brentisiaethau oddi ar ei sefydlu fel Gradd Sylfaen yn 2012, yn ogystal â'i chefnogi'n fawr.
Dywedodd Brian Sullivan, Prif Swyddog Technoleg y DVLA: “Rydym yn canolbwyntio ar recriwtio a datblygu staff ledled ystod eang o rolau ym maes TG, ac rwyf bob amser wedi fy nghyffroi ynghylch newidiadau ac yn frwd dros y modd y gallwn wella. Mae'r cynllun prentisiaethau yn galluogi pawb, p'un a ydynt yn newydd i'r maes TG neu wedi bod yn gweithio ynddo ers nifer o flynyddoedd, i wella eu sgiliau a sicrhau y gallant ragori 'nawr ac yn y dyfodol.”
Ychwanegodd yr Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch iawn bod y cohort cyntaf o radd-brentisiad yn graddio eleni. Mae'n bwysig iawn o ran gwella sgiliau'r gweithlu yn y rhanbarth. Rydym yn parhau i feithrin cysylltiadau rhagorol â'r diwydiant ehangach, yn ogystal â chydweithio â sawl cwmni lleol i uwchsgilio eu staff. Rydym yn edrych ymlaen at helpu i ddatblygu’r sgiliau sy'n angenrheidiol yn y diwydiant er mwyn gwella’r economi ac adeiladu ar gyfer y dyfodol digidol.”
Os ydych yn gyflogai neu'n gyflogwr ac yn dymuno cael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Gradd-brentisiaethau, cysylltwch â Maria Moller trwy anfon neges e-bost at m.moller@swansea.ac.uk, neu gellwch ffonio 01792 606998.