Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
CERN, sef Sefydliad Ewrop ar gyfer Ymchwil Niwclear, yw un o’r canolfannau mwyaf a mwyaf eu parch yn y byd ar gyfer ymchwil wyddonol.Mae hanes CERN, sy’n gartref i’r Gwrthdrawydd Hadronau Mawr (LHC), a leolir 100 metr o dan y ddaear ac sy’n cynnwys cylch o fagnetau uwchddargludol 27 cilometr o hyd, yn dyddio’n ôl i’r 1940s a dyma fan cychwyn y We Fyd-eang.
Caniatawyd i Brifysgol Abertawe gael mynediad unigryw i CERN yn ddiweddar, lle gwnaethom gwrdd â Niels Madsen, sef Athro Ffiseg ac arweinydd tîm ymchwil Abertawe yn y cyfleuster yn Genefa, y Swistir.
Beth yw cysylltiad Prifysgol Abertawe â CERN?Ers pryd ydym ni wedi cael y cysylltiad hwn?
Mae Prifysgol Abertawe’n sefydliad blaengar ac mae’n cyfrannu at y prosiect gwrth-hydrogen ALPHA. Rydym ni wedi bod yn gweithredol yn CERN ers 1999. Yn gyntaf, cymerom ni ran yn arbrawf ATHENA arloesol a gynhyrchodd y gwrth-hydrogen ynni isel cyntaf yn 2002 ac, ers 2005, rydym wedi cyfrannu at arbrawf ALPHA a sefydlwyd ar y cyd gan Brifysgol Abertawe a nifer o sefydliadau partner eraill.
Sawl ymchwilydd o Brifysgol Abertawe sydd yn CERN?
Mae chwe pherson o Brifysgol Abertawe yn CERN ar bob adeg – sef un academydd, dau gynorthwy-ydd ymchwil a thri myfyriwr PhD. Yn ogystal â hynny, mae pedwar aelod o staff ym Mhrifysgol Abertawe sy’n treulio cryn dipyn o’u hamser yn CERN hefyd a phob blwyddyn, caiff dau fyfyriwr MA gyfle i gynnal eu prosiect blwyddyn olaf yn CERN.
Beth yw prosiect ALPHA?
Yn ôl ein dealltwriaeth bresennol, dylai fod meintiau cyfartal o fater a gwrth-fater yn y bydysawd. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod maint y gwrth-fater y gellir ei weld yn y bydysawd yn fach iawn. Mae cydweithrediad ALPHA yn astudio gwrth-hydrogen sydd wedi’i ddal er mwyn canfod a ellid gwahaniaeth rhwng mater a gwrth-fater nas arsylwyd arno o’r blaen fod yn gyfrifol am yr anghymesuredd hwn sydd heb eglurhad. Gan fod cymesuredd rhwng mater a gwrth-fater yn rhan annatod o’n modelau sy’n esbonio grymoedd sylfaenol natur, byddai gwahaniaeth rhyngddynt yn ildio canlyniadau mawr.
A yw ein tîm ni o ymchwilwyr yn gweithio ar arbrofion/ymchwil eraill?
Prifysgol Abertawe yw’r unig brifysgol yng Nghymru sy’n weithredol yn CERN ac mae’n cyfrannu at arbrawf ALPHA yn unig. Fodd bynnag, yn wahanol i’r mwyafrif o arbrofion maint prifysgol, mae arbrawf ALPHA yn gydweithrediad mwy sy’n cynnwys 11 o sefydliadau a llawer o ganghennau amrywiol o faes ffiseg. Mae’n rhaid i’r tîm sy’n gweithio ar ALPHA weithio ar gryogeneg, technegau gwactod uchel iawn, magnetau uwchddargludol, synwyryddion gronynnau uwch, laseri, ffiseg atomig, ffiseg plasma a ffiseg gronynnau ac, wrth gwrs, ddatblygu’r systemau rheoli ac electronig sy’n gwneud i’r holl elfennau gydweithio.
A ydych chi’n meddwl y bydden ni byth yn datrys y pos ynglŷn â mater a gwrth-fater a pham mae’r bydysawd yn bodoli?
Yn ystod y 100 o flynyddoedd diwethaf, mae ein dealltwriaeth o faes ffiseg wedi chwyldroi, ac mae’r chwyldro hwn yn treiddio’n araf i’n bywydau bob dydd. Er enghraifft, gallwn ddisgrifio datblygiad y bydysawd bellach o’r Glec Fawr hyd heddiw, a hynny mewn modd sydd bron yn gyson. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gwybod nad yw’n modelau presennol ni’n esbonio’r holl bethau yr arsylwir arnynt; mae enghreifftiau’n cynnwys masau niwtrinoeon, mater tywyll, ynni tywyll ac anghymesuredd rhwng mater a gwrth-fater yn y bydysawd. Er gwaethaf y cwestiynau hyn, mae’r cynnydd yn ein dealltwriaeth yn rhyfeddol ac rwy’n credu y byddwn ni’n dod o hyd i atebion i’r cwestiynau hyn. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn credu, pan wnawn ni hynny, ein bod ni’n debygol o wynebu cwestiynau newydd ar lefel dealltwriaeth sydd hyd yn oed yn ddyfnach.
Pa gyfleoedd a gaiff myfyrwyr sy’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe i gael profiad gwaith yn CERN?Oherwydd nid yw popeth yn ymwneud â ffiseg yn unig, ydy e?
Nid yw CERN, i raddau helaeth, yn sefydliad ffiseg. Mewn gwirionedd, mae CERN yn hwylusydd, yn yr un modd y mae maes awyr yn hwylusydd teithio yn yr awyr ac nid yn gwmni awyrennau. Swydd ffisegwyr cymhwysol, peirianwyr, mathemategwyr, cyfrifiadurwyr a thechnegwyr yw cynnal CERN; fodd bynnag, swydd ffisegwyr (yn bennaf) yw defnyddio CERN. Felly, mae CERN yn cynnal nifer helaeth o gynlluniau hyfforddi, profiad gwaith a lleoliadau i unigolion nad ydynt yn ffisegwyr ynghyd ag unigolion nad ydynt yn weithwyr STEM. Er enghraifft, gall pobl sy’n astudio’r Gyfraith Ryngwladol ddod o hyd i leoliad yn y gwasanaethau gweinyddol. Gallai hyn fod yn agoriad llygad gan fod CERN yn gyfundrefn cytundeb rhyngwladol, sy’n debyg i’r Cenhedloedd Unedig yn gyfreithiol. Mae CERN yn gweithio ar ddysgu peirianyddol, deunyddiau newydd a llawer o bethau eraill hefyd. Mae’n sicr yn werth ystyried cyfleoedd posib ar wefan CERN.
Beth yw dyfodol Prifysgol Abertawe gyda CERN?
Bydd y cymhlygyn Arafu Antiprotonau sy’n cyflenwi antiprotonau i ALPHA ac arbrofion eraill (dyma pam ein bod ni yn CERN yn y lle cyntaf) yn gweithredu am o leiaf 10-20 mwy o flynyddoedd, ac mae’n sicr bod gan ALPHA raglen a fydd yn para cyhyd â hynny. Wrth gwrs, os down ni o hyd i wahaniaeth rhwng mater a gwrth-fater, mae’n debygol y bydd ein gweithgareddau’n parhau am amser hir iawn. Yn ogystal â hynny, rydym yn gobeithio y bydd mwy o golegau’r Brifysgol yn agor eu llygaid i’r cyfleoedd am gydweithredu sydd ar gael yn CERN ac rwy’n gweithio i annog mwy o bobl i gyfrannu ar hyn o bryd.
A ydych chi’n meddwl y bydd BREXIT yn effeithio ar ein cysylltiadau a’n gwaith yn CERN?Neu, a yw hi’n rhy gynnar i roi ateb?
Fel y sonnir uchod, mae CERN yn gyfundrefn cytundeb megis y Cenhedloedd Unedig, ac mae ef bron yn ddegawd yn hŷn na’r UE, felly, mewn egwyddor, nad effeithir ar ein perthynas â CERN. Mae CERN hefyd yn cynnal defnyddwyr fel ni. Felly, ni fydd Brexit yn newid perthynas y DU â CERN, ond mae’n debygol y bydd yn effeithio ar berthynas y DU â thaleithiau cynnal CERN. Rydym yn disgwyl gweld effaith yr olaf ar bobl sy’n mynd i CERN o hyd.