Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Yn ôl Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle wrth annerch cynulleidfa ryngwladol ym Maleisia, myfyrwyr heddiw yw cenhedlaeth Extinction Rebellion – dinasyddion byd-eang sydd â mwy o ddiddordeb mewn cyfrannu na dinistrio.
Dadleuodd fod angen i brifysgolion ystyried gwerthoedd a dyheadau newidiol pobl ifanc. Rôl prifysgolion yw paratoi myfyrwyr at y dyfodol fel bod modd iddynt ffynnu’n ddinasyddion byd-eang mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Dywedodd yr Athro Boyle fod nifer o bobl ifanc heddiw yn llai hunanol na chenedlaethau blaenorol. Maen nhw am wneud rhywbeth ystyrlon ac yn gogwyddo tuag at ymgyrchu’n gymdeithasol. Maen nhw hefyd yn llai tebygol o ymwneud â mathau traddodiadol o ddadlau mewn oes ddigidol sy’n trawsnewid y ffordd rydym yn rhyngweithio ac yn llunio barn. Gwae prifysgolion am anwybyddu hyn, rhybuddiodd.
Roedd yr Athro Boyle yn siarad am rôl prifysgolion yn yr unfed ganrif ar hugain yn ystod y brif sesiwn mewn cynhadledd yn Kuala Lumpur, o’r enw Global Citizens: Student Empowerment in a Digital Age. Trefnwyd y gynhadledd gan Navitas, sy’n bartner Prifysgol Abertawe wrth recriwtio myfyrwyr rhyngwladol.
Mae Prifysgol Abertawe’n cymryd camau i sicrhau ei bod yn parhau’n ddeniadol i’w chynulleidfa darged, sef pobl ifanc, esboniodd yr Athro Boyle. Er enghraifft, mae’r Brifysgol yn marchnata rhai o’i chyrsiau a’i phynciau ymchwil o ran sut maen nhw’n cyd-fynd â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd megis ynni carbon isel a diogelu dolydd morwellt gwerthfawr.
Mae myfyrwyr Abertawe hefyd yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth drwy gynlluniau gwaith gwirfoddol yn yr ardal leol a thramor.
Dywedodd yr Athro Boyle mai rôl prifysgolion yn yr unfed ganrif ar hugain oedd sicrhau bod eu myfyrwyr mor barod â phosibl i fod yn ddinasyddion byd-eang, gan ymdrin â byd cythryblus.
Sut gall prifysgolion wneud hyn? Roedd yr enghreifftiau a roddwyd ganddo’n cynnwys:
- Hyrwyddo dadleuon rhesymol a pharch am ffeithiau a thystiolaeth, ar adeg lle mae diffyg ymddiriedaeth mewn arbenigwyr a gwyddoniaeth yn rhemp
- Paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithle’r dyfodol, gyda’r sgiliau a’r cymwyseddau gwahanol a fydd yn ofynnol
- Adeiladu gwydnwch myfyrwyr a chefnogi eu hiechyd meddwl fel eu bod yn gallu ymdrin â byd cymhleth yn well
- Ehangu gorwelion y tu hwnt i ffiniau cenedlaethol drwy gydweithio â phartneriaid rhyngwladol a rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gyfnewid – mae gan Abertawe bartneriaethau strategol â Thecsas a Grenoble ac mae rhai eraill yn yr arfaeth
Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:
“Pobl ifanc heddiw yw cenhedlaeth Extinction Rebellion. Mae ganddynt fwy o ddiddordeb mewn cyfrannu at y gymuned – yn genedlaethol ac yn fyd-eang – na dinistrio. Mae’n rhaid i brifysgolion yr unfed ganrif ar hugain fod ar flaen y gad o ran hyn.
Rôl prifysgolion heddiw yw creu dinasyddion byd-eang. Mae’n rhaid i ni ddiogelu ein graddedigion ar gyfer y dyfodol, gan roi iddynt y sgiliau angenrheidiol iddynt lywio gweithle yfory a byd yfory."