Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Hillary Clinton yn galw ar gymdeithas i fod yn ddewr yn wyneb anghydraddoldeb
Mae Hillary Rodham Clinton wedi talu teyrnged i'r menywod a'i hysbrydolodd drwy gydol ei gyrfa mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe.
Hi oedd y wraig gwadd, ac ymunodd â phanel proffil uchel ar gyfer trafodaeth yn dwyn y teitl 'Menywod Mentrus Cymru', o flaen cynulleidfa lawn ar Gampws y Bae y Brifysgol.
Dywedodd y cyn-Ysgrifennydd Gwladol, y mae newydd gyhoeddi'r llyfr The Book of Gutsy Women: Favourite Stories of Courage and Resilience, gyda'i merch, Chelsea:
"Rydym yn cyflwyno'r llyfr hwn i unrhyw un sy'n chwilio am ysbrydoliaeth i fyw ei fywyd mentrus ei hun. Yn yr oes gythryblus sydd ohoni, mae angen dewrder a gwytnwch mwy nag erioed."
Ymunwyd â hi ar y panel gan Ddeon Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton y Brifysgol, yr Athro Elwen Evans CF; Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams; a'r academydd yr Athro Laura McAllister, y mae ganddi radd er anrhydedd o'r Brifysgol.
Gydag Anna Jones o Sky News yn cadeirio, clywodd y gynulleidfa o 600 yn y Neuadd Fawr anerchiad byr gan Mrs Clinton, yna trafododd aelodau'r panel fenywod a oedd wedi dylanwadu ar eu gyrfaoedd eu hunain.
Croesawyd hi i'r llwyfan gan yr Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Paul Boyle, a Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Grace Hannaford, a ganodd clodydd i'w gwaith ym meysydd hawliau dynol a hawliau plant.
"Wrth i ni agosáu at ein canmlwyddiant, gwyddwn fod y byd o'n cwmpas yn newid, ac mae Prifysgol Abertawe am fod ar flaen y gad wrth oresgyn yr heriau hyn. Rydym yn cymryd materion cydraddoldeb o ddifrif mawr, ac rydym yn falch o'n cyflawniadau hyd yn hyn. Wrth gwrs, mae bob amser rhagor i'w wneud, ond ni allwn fethu â chael ein hysbrydoli gan waith Mrs Clinton a'i merch," dywedodd yr Athro Boyle.
Roedd y drafodaeth yn adleisio thema llyfr newydd y Clintons, sy'n cyflwyno proffil dros 100 o fenywod o drwy gydol hanes a safodd yn erbyn y sefyllfa bresennol, gan gynnwys y gweithredydd yn ei harddegau, Greta Thunberg, a'r swffragét Rosa May Billinghurst.
Rhoddodd y digwyddiad yn Abertawe gyfle i'r panel rannu sut y cyrhaeddont frig eu proffesiwn a'r heriau y bu rhaid iddynt eu goresgyn ar hyd y ffordd.
Yna atebont gwestiynau o'r gynulleidfa, a oedd yn cynnwys menywod busnes ac entrepreneuriaid blaenllaw, Cymrodorion Er Anrhydedd, staff y Brifysgol a myfyrwyr.
Ar ôl i Mrs Clinton ddatgelu ei bod yn optimistaidd ynghylch y dyfodol o hyd, cyflwynodd yr Athro Elwen Evans ble angerddol yn amddiffyn democratiaeth ryddfrydol:
"Rwy'n credu ein bod yn mynd drwy gyfnod anodd iawn. Gan edrych o'r tu allan, onid oes angen y menywod mentrus anhygoel rydym yn darllen amdanynt yn y llyfr, yr ydym yn gwybod amdanynt yn ein bywydau, sydd yma heddiw?
"Rydym yn galw'n aelodau seneddol yn aelodau anrhydeddus - dwi ddim yn siŵr beth yw ystyr anrhydeddus, ond mae'n ystod eang o nodweddion pwysig iawn, gonestrwydd, caredigrwydd, empathi - ac rwy'n poeni bod ein holl ddeialog yn colli synnwyr a sylwedd a steil. . Yn ein rhan fach ni o'r byd, felly, rhaid i ni wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod optimistiaeth yn glanio ar yr ochr arall i'r cyfnod cythryblus hwn."
Ymwelodd Mrs Clinton, sydd â chysylltiad teuluol â Chymru, â Phrifysgol Abertawe am y tro cyntaf yn 2017, pan dderbyniodd Ddoethuriaeth Er Anrhydedd a rhannu eu hangerdd am waith yr Arsyllfa ar Hawliau plant.
Yn ystod yr ymweliad deuddydd diweddaraf hwn, cwrddodd â derbynwyr cyntaf rhaglen Ysgoloriaethau Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton, a gefnogir gan Sky, a chawsont gyfle i drafod eu hymchwil presennol a chlywed am ei phrofiadau hi yn ystod ei gyrfa wleidyddol.