Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Patent gan yr Unol Daleithiau'n sicrhau therapi datblygedig newydd ar gyfer canser endometriaidd
Rhoddwyd patent gan yr Unol Daleithiau i wyddonwyr o Brifysgol Abertawe ar gyfer therapi arloesol newydd yn sgil eu gwaith caled i frwydro yn erbyn canser endometriaidd.
Datblygodd yr Athro Deya Gonzalez a'r Athro Steve Conlan, o grŵp ymchwil Oncoleg Gynaecolegol Bioleg Atgenhedlu ddull o drin canser gynacolegol, gan obeithio lleihau sgîl-effeithiau i gleifion.
Mae eu gwaith ar ddarganfod a datblygiad cyn-glinigol y therapiwtig newydd hwn a dargedir wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar yn Journal for Immunotherapy of Cancer.
Canser y groth yw'r canser atgenhedlu mwyaf cyffredin ymhlith menywod, a'r wythfed achos mwyaf cyffredin o farwolaethau oherwydd canser yn y DU. Mae Prifysgol Abertawe wedi gweithio'n agos gyda Byrddau Iechyd Bae Abertawe a Chwm Taf, Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Sefydliad Ymchwil Celloedd Bonyn Canser Ewropeaidd, GE Healthcare, biodechnoleg cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig (ADC) ac Axis Bio i ddod o hyd i driniaethau newydd ar gyfer y cyflwr hwn.
Trwy gydweithio, darganfu'r tîm fod gormod o brotein, o'r enw RAGE, mewn celloedd canser y groth, a bod lefelau uwch o RAGE yn gysylltiedig â lefelau goroesi is ymhlith cleifion. O ganlyniad, datblygodd y tîm driniaeth newydd sy'n targedu’r protein RAGE gan ddefnyddio cyffur gwrthgyrff cyfunedig (ADC).
Dosbarth pwerus o therapiwteg mewn oncoleg feddygol yw cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig , lle caiff gwrthgyrff sy'n targedu proteinau penodol mewn canserau, eu cyplysu â chyfryngau sytotocsig. Yn yr achos hwn, mae'r gwrthgorff wedi'i ddatblygu'n benodol i lynu at y protein RAGE.
Ar ôl i'r gwrthgorff lynu at RAGE, bydd yn mynd i mewn i'r gell sydd â chanser ac yn rhyddhau sytotocsig a fydd yn lladd y gell.Nid oes gan gelloedd iach yn y corff lefelau uchel o'r protein RAGE, ac felly nid yw'r driniaeth yn effeithio arnynt.
Mae'r tîm yn gobeithio y gallai'r canfyddiadau newydd arwain at opsiynau o driniaeth newydd ar gyfer cleifion sydd â chanser y groth.
Meddai'r Athro Gonzales, y prif ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae ymdrechion yr holl bartneriaid sy'n rhan o'r ymchwil hon at ei gilydd wedi arwain at ddatblygu cyfrwng therapiwtig newydd sydd â'r potensial i drin canser endometiriaidd yn effeithiol heb lawer o sgîl-effeithiau. Erbyn hyn rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu'r cyffuriau gwrthgyrff cyfunedig RAGE, gan obeithio ymgysylltu â chleifion y mae angen dybryd am opsiwn newydd o driniaeth arnynt."
Mae'r gwaith a wnaed ar RAGE wedi bod yn rhan o brosiect ymchwil mwy o'r enw Cluster for Epigenetics and ADC Therapeutics (CEAT). Nod CEAT yw datblygu grŵp o gyffuriau epigenetig newydd a chyffuriau gwrthgyrff cyfunedig gan ddefnyddio dulliau technolegol i fynd i'r afael â datblygiad a dilyniant canser gynaecolegol.
Dywedodd yr Athro Conlan, Pennaeth Menter ac Arloesi yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr Strategol CEAT: "Mae datblygiad therapiwteg newydd a datblygedig, er enghraifft ein cyffur gwrthgyrff cyfunedig RAGE, yn tynnu sylw at bwysigrwydd partneriaethau cydweithredol diwydiannol, academaidd a chyda'r GIG megis CEAT.
"Gyda'n partneriaid, ein nod parhaus yw datblygu hyn ymhellach ynghyd â chyffuriau gwrthgyrff cyfunedig, ac rydym bob amser yn awyddus i ddod o hyd i bartneriaethau cydweithredol diwydiannol er mwyn cyflwyno cryfderau ychwanegol i'n datblygiadau therapiwtig sydd yn yr arfaeth. At hynny, mae gweithio gydag AgorIP ym Mhrifysgol Abertawe i sicrhau ein heiddo deallusol drwy batent yr Unol Daleithiau, a chreu strategaeth fasnacheiddio, wedi bod yn bwysig iawn."