Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Y Brifysgol a Fforwm Coed Abertawe'n plannu coed fel rhan o Wythnos Genedlaethol Coed
Mae Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) Prifysgol Abertawe a Fforwm Coed Abertawe wedi plannu nifer o goed y tu allan i Neuadd y Dref fel rhan o'u hymrwymiad i wrthbwyso teithiau gwaith staff drwy blannu coed.
Rhoddwyd y coed gan yr Ymddiriedolaeth Coetir fel rhan o Wythnos Genedlaethol Coed, gydag aelodau o ESRI a Fforwm Coed Abertawe'n ymuno â Phlanhigfa Goed Gymunedol Coeden Fach a disgyblion o Goleg Gŵyr, Ysgol Gyfun Dylan Thomas ac Ysgol Gynradd San Helen.
Dywedodd sylfaenydd a Chyfarwyddwr ESRI yr Athro Andrew Barron:
"Mae'n hanfodol bod ESRI, fel sefydliad sy'n canolbwyntio ar ddyfodol ynni, yn sicrhau ei fod yn lleihau ei effaith amgylcheddol. Yn aml, mae angen i aelod o dîm ESRI deithio dramor i ymweld â phartneriaid, ac rydym wedi penderfynu bod rhaid gwrthbwyso carbon yr holl deithiau awyr fel y cam cyntaf tuag at ddyfodol sero net, ac rydym yn falch o blannu'r cyntaf o nifer o goed fel rhan o'n rhaglen wrthbwyso."
Dywedodd Mary Gagen, Athro Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe ac aelod o Fforwm Coed Abertawe:
"Rydym yn hynod falch o ddod â choed a roddwyd gan raglen gwrthbwyso carbon newydd ESRI a choed Ymddiriedolaeth Coetir Fforwm Coed Abertawe ynghyd i ychwanegu at y canopi coed y mae angen mawr amdano yng nghanol y ddinas.
"Rydym wedi gweithio'n agos gyda swyddogion coed gwych y Cyngor i ddewis coed a fydd yn gwella'r rhan hyfryd hon o'r ddinas, a hefyd yn darparu manteision isadeiledd gwyrdd, gan greu ocsigen, cartrefi i bryfed ac anifeiliaid, buddion lles pwysig, ac amddiffynfeydd llifogydd i'n dinas."