Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Ymchwilydd yn ymuno â thîm yr Ysgol Feddygaeth ar ôl ennill Cymrodoriaeth Ewropeaidd
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi croesawu ymchwilydd newydd fel rhan o gynllun Ewropeaidd blaenllaw.
Llwyddodd Dr Rémi Zallot yn ei gais am Gymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie y Comisiwn Ewropeaidd, a bydd yn treulio'r ddwy flynedd nesaf yng Nghanolfan Bioamrywiaeth Sytocrom P450 yr Ysgol Feddygaeth.
Datblygwyd ei arbenigedd mewn cloddio genomau microbaidd gan ddefnyddio biowybodeg i ddamcaniaethu gweithrediadau genynnau heb eu nodweddu, yn ogystal â phrofi'r gweithrediadau arfaethedig, yn ystod ei gyfnod blaenorol yn Sefydliad Carl R Woese ar gyfer Bioleg Genomaidd ym Mhrifysgol Illinois ac Adran Microfioleg a Gwyddor Celloedd Prifysgol Florida.
Bydd Dr Zallot yn canolbwyntio ar y nifer o enynnau sytocrom P450 heb eu nodweddu a geir mewn genomau mycobacteraidd, gyda sylw penodol ar ymgeiswyr a allai fod yn dargedau cyffuriau newydd.
Dywedodd: "Mae'n anrhydedd ennill y Gymrodoriaeth hon. Rwy'n edrych ymlaen at archwilio agweddau newydd ar ficrofioleg; dysgu a chyfnewid gyda'm cydweithwyr newydd, a hefyd gydag ymchwilwyr eraill ar draws y campws, y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop; a hefyd ymgysylltu â'r cyhoedd i hyrwyddo gwerth ac ochr hwylus gwyddoniaeth."
Yn ystod ei amser yn yr Ysgol Feddygaeth, bydd ganddo fynediad at enomau unigion a gasglwyd yn ystod yr achos o TB yn ne Cymru gan y meddyg ymgynghorol Dr Angharad Davies, yn ogystal â defnyddio cronfeydd data rhyngwladol at ddibenion genomeg gymharol.
Crëwyd y Cymrodoriaethau Marie Sklowdowska-Curie gan yr Undeb Ewropeaidd/Comisiwn Ewropeaidd i gefnogi ymchwil yn yr Ardal Ymchwil Ewropeaidd, ac maent ymhlith dyfarniadau mwyaf cystadleuol a mawreddog Ewrop, gyda'r nod o gefnogi'r gwyddonwyr gorau a mwyaf addawol.
Meddai'r Athro Steve Kelly: "Rydym yn hynod falch o groesawu Rémi Zallot i Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac yn edrych ymlaen at ddarganfod gwybodaeth newydd am fycobacteria a'n hoff enynnau a phroteinau, y sytocromau P450."