Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Gwobr Dylan Thomas yn teithio i Ŵyl Lenyddiaeth Jaipur i gyhoeddi rhestr hir 2020
I ddathlu 15 mlynedd o Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, bydd y Wobr yn cyhoeddi'r rhestr hir yn fyw o Ŵyl Lenyddiaeth Jaipur.
Bydd y digwyddiad, gyda chefnogaeth British Council Cymru, yn cael ei gynnal ddydd Gwener 24 Ionawr - gyda thrafodaeth banel anhygoel yn cynnwys yr enillydd cyntaf erioed, Rachel Trezise a'r enillydd diweddaraf, Guy Gunaratne, ynghyd â Chyfarwyddwr yr Ŵyl ac aelod o'r panel beirniaid, Namita Gokhale, a Swyddog Gweithredol y Wobr, Elaine Canning.
Wrth ddychwelyd i'r panel o feirniaid, meddai Cyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur Namita Gokhale, "rwy'n falch iawn o gael bod ar y panel unwaith eto ar gyfer Gwobr Dylan Thomas, Prifysgol Abertawe. Mae'r Wobr yn ysbrydoliaeth anhygoel, ac yn gwobrwyo awduron ifanc yn hael yn ystod cyfnod tyngedfennol yn eu datblygiad creadigol."
Ac wrth sôn am gyhoeddi'r rhestr hir yn yr Ŵyl, dywedodd Sanjoy K Roy, Rheolwr Gyfarwyddwr Teamwork Arts a Chynhyrchydd yr Ŵyl, "Rydym yn hynod falch o gael cynnal cyhoeddiad Rhestr Hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe. Mae Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur yn creu llwyfan i'r gair ysgrifenedig ar draws pob genre."
Yn ogystal â cyhoeddi'r rhestr hir bydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn cymryd rhan mewn cyfres ddiddorol o drafodaethau panel drwy gydol Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur.
Bydd enillydd gwobr 2019, Guy Gunaratne a'r awdur Ben Judah yn sgwrsio ag Elaine Canning ynghylch 'Ailysgrifennu Llundain' a fydd yn canolbwyntio ar nofel gyntaf arobryn Guy In Our Mad and Furious City a llyfr y gohebydd tramor nodedig Ben Judah, This is London.
Bydd Swyddog Gweithredol y Wobr, Elaine Canning yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar 'Anatomeg Gwobr Lenyddol' yn Jaipur BookMark ar y cyd â nifer o gyfarwyddwyr gwobrau llenyddol ac awduron gan gynnwys Aanchal Malhotra, Hemali Sodhi, Mita Kapur a Sunny Singh, wedi'i chadeirio gan Arunava Sinha.
Y tu allan i'r brif ŵyl, bydd rhaglen gyfnewid ddiwylliannol ychwanegol yn cael ei chynnal, wedi'i chefnogi gan British Council Cymru. Bydd hyn yn parhau i adeiladu ar y berthynas ddiwylliannol hirsefydlog rhwng Cymru ac India, a ddechreuodd gydag #IndiaWales, sef tymor o gydweithio artistig yn 2017/2018, a oedd yn nodi Blwyddyn Diwylliant y DU-India, a ariannwyd gan y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Bydd y gweithgareddau yn cynnwys enillydd cyntaf Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, Rachel Trezise, a fydd yn ymuno â Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, sefydliad llenyddiaeth a leolir yn Aberystwyth sy'n trefnu cyfnewidiadau rhyngddiwylliannol, yng Ngŵyl Mathrubhumi yn Trivandrum, Kerala. Fe'i cefnogir gan Ewrop Greadigol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, a British Council Cymru.
Mae'r llenorion o Gymru, Mab Jones a Tristan Hughes wedi cael eu gwahodd i gyflwyno digwyddiadau yng Ngŵyl Lenyddol Brahmaputra yn Assam, Gogledd Ddwyrain India ym mis Chwefror, gyda chefnogaeth y British Council.
Ac ym mis Chwefror, bydd y cerddor o Gymru, Gareth Bonello a'r Cyfarwyddwr Theatr, Lisa Lewis, yn parhau â'u cydweithrediad ym maes treftadaeth gerddorol Khasi-Cymreig mewn sawl gŵyl ar draws India, gan gynnwys Ffair Lyfrau Kolkata, Gŵyl Lenyddol Brahmaputra, Surajkund Mela a gweithdai yn swyddfeydd y British Council yn Delhi a Kolkata. Mae'r daith yn cael ei hariannu gan Brifysgol De Cymru ac Ymddiriedolaeth Leverhulme.