Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae Prifysgol Abertawe'n apelio am wyddonwyr a pheirianwyr benywaidd i gymryd rhan yn nigwyddiad Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe a rhannu eu hangerdd ar strydoedd Abertawe er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.
Nod y digwyddiad, a gynhelir ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf, yw codi proffil a herio barn y cyhoedd am fenywod ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM) yn y gobaith o ddylanwadu ar ferched i ddilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth, beth bynnag eu cefndir.
Mae Gwyddoniaeth Bocs Sebon yn fenter ryngwladol a'r nod yw dod â gwyddoniaeth i'r bobl a herio ystrydebau rhywedd yng ngyrfaoedd gwyddoniaeth ac mae 2020 yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed, gyda 56 digwyddiad mewn 15 o wledydd.
Meddai'r trefnydd Dr Geertje van Keulen, o Brifysgol Abertawe: "Bydd Bocs Sebon Abertawe'n cynnwys menywod o bob cwr o Gymru sydd ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg a gobeithio y bydd eu sgyrsiau hynod ddiddorol am eu hymchwil yn dal sylw pobl.
"Yn y gorffennol rydym wedi clywed sgyrsiau ar ystod amrywiol o bynciau o ymwrthedd gwrthfiotig, llosgfynyddoedd, deunyddiau clyfar y dyfodol, i lawfeddygaeth ar y galon ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor o sgyrsiau gwyddoniaeth cyffrous eleni!"
Gall unrhyw un sy'n dymuno siarad mewn digwyddiad wneud cais ar-lein erbyn 10am ddydd Llun 2 Mawrth.
Am unrhyw ymholiadau, ebostiwch dîm Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe. Cynigir hyfforddiant ar sut i ymgysylltu â’r cyhoedd.