Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Lleisiau rhyngwladol a rhai a gaiff eu tangynrychioli yn ennill lle blaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe
O Frasil i Hong Kong, yr India ac Wcrain drwy Fietnam, mae rhestr hir bwerus eleni’n cyfuno casgliad cyfoethog a rhyngwladol o awduron ifanc ac arbrofol sy’n cynnig llwyfan i leisiau sydd wedi’u tangynrychioli ac yn ymchwilio themâu cymdeithasol a byd-eang hollbwysig ym meysydd hunaniaeth, diwylliant a phŵer.
Mae’r awdur a’r nofelydd ffeministaidd glodwiw o’r India, Meena Kandasamy, bardd LGBTQ+ o Hong Kong Mary Jean Chan, yr artist a’r awdur a anwyd yn Wcrain Yelena Moskovich, a’r awdur sydd newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf sy’n deillio o Frasil a’r DU Yara Rodrigies Fowler, yr awdur Fietnamaidd-Americanaidd Ocean Vuong ac enillydd Gwobr Orange a anwyd yn Belgrade, Téa Obrecht ymhlith y 12 awdur ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe gwerth £30,000.
Bydd y 12 teitl ar y rhestr hir yn cael eu beirniadu gan banel gadeiryddiaeth yr Athro Dai Smith CBE o Brifysgol Abertawe. Mae'r beirniaid gwadd yn garfan o bobl â dawn lenyddol anhygoel, gan gynnwys yr Athro Kurt Heinzelman, yr awdur arobryn a sylfaenydd Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur Namita Gokhale, yr awdur ac enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2011 Lucy Caldwell, yr awdur, y bardd a'r beirniad Prydeinig-Ghanaidd Bridget Minamore, yr awdur a chyflwynydd adnabyddus BBC Radio 3: The Verb Ian McMillan a'r newyddiadurwr celfyddydau a diwylliant llwyddiannus Max Liu.
Mae’r rhestr hir eleni yn cynnwys saith nofel, tri chasgliad o gerddi a dau gasgliad o straeon byrion.
- Surge - Jay Bernard (Chatto & Windus)
- Flèche - Mary Jean Chan (Faber & Faber)
- Exquisite Cadavers - Meena Kandasamy (Atlantic Books)
- Things we say in the Dark - Kirsty Logan (Harvell Secker, Vintage)
- Black Car Burning - Helen Mort (Chatto & Windus)
- Virtuoso- Yelena Moskovich (Serpent’s Tail)
- Inland - Téa Obreht (Weidenfeld & Nicolson)
- Stubborn Archivist - Yara Rodrigues Fowler (Fleet)
- If All the World and Love were Young - Stephen Sexton (Penguin Random House)
- The Far Field - Madhuri Vijay (Atlantic Books)
- On Earth We’re Briefly Gorgeous - Ocean Vuong (Jonathan Cape, Vintage)
- Lot - Bryan Washington (Atlantic Books)
Lansiwyd Gwobr flynyddol Ryngwladol Dylan Thomas yn 2006 ac mae'n un o'r gwobrau sydd â’r bri mwyaf i ysgrifenwyr ifanc. Mae wedi'i hanelu at hybu dawn greadigol amrwd ledled y byd. Mae'n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.
Caiff y Wobr gwerth £30,000 ei dyfarnu i'r gwaith llenyddol gorau sydd wedi'i gyhoeddi yn Saesneg, wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau.
Wrth dderbyn y wobr yn 2019 am ei nofel gyntaf In Our Mad and Furious City, meddai Guy Gunaratne: “Mae Dylan Thomas wedi golygu llawer i mi ers amser maith, mae’n awdur rydw i bob amser wedi troi ato am ysbrydoliaeth. Ac ar ôl ennill y wobr hon, mae fy meddwl yn mynd at yr holl awduron eraill, neu ddarpar awduron, sy'n ysgrifennu o le fel y dechreuais i. Mae creu rhywbeth allan o'r byd, yr iaith, y lleisiau y cefais fy magu o'u cwmpas bob amser yn bwysig... ”
Cyhoeddir y rhestr fer ar 7 Ebrill, cyn cynnal Seremoni'r Enillydd yn Abertawe ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas, 14 Mai.