Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae ymchwil yn dangos cysylltiad rhwng anifeiliaid domestig a throsglwyddo firysau rhwng pobl a bywyd gwyllt
Mae gan ein hanifeiliaid domestig - anifeiliaid anwes a da byw – rôl allweddol wrth ledaenu firysau ymysg pobl a bywyd gwyllt, yn ôl ymchwil newydd sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe.
Fodd bynnag, mae'r astudiaeth wedi datgelu gwahaniaethau yn y patrymau o ran sut mae'r ddau brif grŵp o firysau - RNA a DNA - yn cael eu rhannu rhwng pobl a rhywogaethau bywyd gwyllt.
Meddai Dr Konstans Wells, sy'n arwain y grŵp ymchwil Bioamrywiaeth ac Ecoleg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe:
"Cydnabyddir yn gyffredinol bod ystlumod yn lletya firysau a allai drosglwyddo, yn y pen draw, i bobl gan achosi effeithiau trychinebus ar iechyd; ond mae rôl grwpiau eraill o famaliaid wrth ledaenu firysau, yn enwedig rhywogaethau domestig, yn llawer llai amlwg.
"Mae llawer o'r llinynnau firaol presennol a rhai'r dyfodol yn gysylltiedig â firysau sy'n cylchredeg mewn rhywogaethau anifeiliaid gwahanol, gan gysylltu pobl a rhywogaethau mamaliaid mewn rhwydwaith enfawr o bwy sy'n rhannu firysau â phwy."
Mae Dr Wells a'i gydweithwyr wedi olrhain y cysylltiadau rhwng 1,785 o rywogaethau o firws a 725 o rywogaethau mamalaidd lletyol ledled y byd, yn ôl tystiolaeth wyddonol a gyhoeddwyd.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr fodelau cyfrifiadurol i nodi pa rywogaethau mamalaidd yw'r cysylltiadau mwyaf canolog yn y rhwydweithiau o gysylltiadau rhwng pobl a mamaliaid a'r un rhywogaeth o firws, gan gynrychioli llwybrau posib i firysau ledaenu a throsglwyddo i rywogaethau lletyol newydd. Yna, aethant ati i ddarganfod a yw rhai rhywogaethau o firws yn llai arbenigol nag eraill, sy'n eu galluogi i ledaenu ymhlith ystod fwy amrywiol o rywogaethau lletyol a pheri risg uwch o glefydau'n ymddangos mewn poblogaethau yn y dyfodol.
Mae'r canfyddiadau'n darparu tystiolaeth gref mai anifeiliaid domestig - ar wahân i bobl - yw'r cysylltiadau canolog mewn rhwydweithiau o ryngweithio rhwng mamaliaid lletyol a firysau oherwydd eu bod yn rhannu firysau a llawer o rywogaethau eraill ac yn darparu'r llwybrau i firysau ledaenu yn y dyfodol. Maent hefyd yn lletya'r cyfrannau mwyaf o firysau y gwyddom eu bod yn cael eu rhannu rhwng pobl ac anifeiliaid.
Ar yr un pryd, canfu'r astudiaeth fod patrymau rhannu firysau DNA ac RNA rhwng gwahanol grwpiau mamalaidd yn eithaf amrywiol. Mae'r ymchwil yn awgrymu mai ystlumod a chigysyddion sydd fwyaf dylanwadol wrth rannu firysau RNA ond nad oes ganddynt rôl bwysig wrth ledaenu firysau DNA ymhlith pobl a rhywogaethau mamalaidd. Mae gan garnolion (mamaliaid â charnau) rôl ganolog wrth ledaenu firysau RNA a DNA fel ei gilydd.
Mae DNA ac RNA yn cyfeirio at asid deocsiriboniwcleig ac asid riboniwcleig yn y drefn honno, sef dau strwythur genetig hanfodol sy'n amgodio pob organeb fyw. Mae firysau RNA sy'n achosi clefydau mewn pobl ac sy'n tarddu o anifeiliaid yn cynnwys firysau ffliw, firws Ebola a firws SARS.
Ychwanegodd Dr Wells:
"Dangosodd ein hymchwil fod gan firysau RNA botensial uchel i symud ar draws rhywogaethau mamalaidd sydd â hanesion bywyd a chynefinoedd tra gwahanol, sy'n golygu bod modd eu rhannu â mwy o rywogaethau lletyol. O ganlyniad, mae'r risg i bobl yn uwch o ran clefydau heintus newydd yn ymddangos mewn ffyrdd nad oes modd eu rhagweld."
Dywedodd fod anifeiliaid domestig yn cynnwys grwpiau o anifeiliaid sy'n amrywio o ran eu tacsonomeg a'u gweithrediad, ac nid oes gwahaniaeth amlwg rhyngddynt a bywyd gwyllt. Mae hyn yn awgrymu mai amlder dal a lledaenu firysau yw'r esboniad mwyaf tebygol pam mae pobl ac anifeiliaid domestig yn rhannu firysau ar lefel ddwys â llawer o rywogaethau bywyd gwyllt.
"Mae'n ymwneud â chyswllt a rhyngweithio ar draws ffiniau," meddai. "Ymhlith y llwyth o firysau a phathogenau eraill sy'n bresennol mewn mamaliaid gwahanol ledled y byd, mae llawer o'r rhai sy’n gallu neidio a manteisio ar rywogaethau lletyol newydd yn elwa o’r ffaith bod pobl a'u hanifeiliaid anwes yn ymyrryd â bywyd gwyllt - pathogenau sy'n manteisio ar gyswllt newydd a chynyddol rhwng rhywogaethau lletyol sy'n elwa o ddefnydd mwy dwys o dir a globaleiddio cynyddol."
Mae'r ymchwil hon yn dilyn astudiaeth flaenorol a amlygodd yr angen am ddealltwriaeth well o sut mae parasitiaid niweidiol yn gallu lledaenu rhwng anifeiliaid a phobl.
Wells, K., Morand, S., Wardeh, M. & Baylis, M. (2019)
Distinct spread of DNA and RNA viruses among mammals amid prominent role of domestic species.
Global Ecology and Biogeography. doi:10.1111/geb.13045