Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod A68, sef mynydd iâ mwya'r byd, ar fin cyrraedd y cefnfor agored am y tro cyntaf.
Y mynydd iâ anferthol, a dorrodd oddi wrth yr Antarctica ym mis Gorffennaf 2017, yw un o'r mynyddoedd iâ mwyaf a gofnodwyd erioed.
A68 mewn rhifau:
- Mae'n pwyso tua thriliwn tunnell – rhywbeth tebyg i bwysau 20 miliwn o longau RMS Titanic.
- Mae'n mesur oddeutu 6,000 cilomedr sgwâr (2,300 milltir sgwâr), sydd tua phedair gwaith maint Llundain.
- Mae mor drwchus â phum darn o bapur A4 ar ben ei gilydd.
Nid yw A68 wedi colli llawer o'i swmp yn ystod y ddwy flynedd a hanner ers iddo dorri o silff iâ Larsen-C. Prin iddo symud o gwbl am flwyddyn, gyda'i gêl yn sownd wrth wely'r môr.
Gwyntoedd a cherrynt yn bennaf sydd wedi gwthio'r A68 tua'r gogledd ar hyd arfordir dwyreiniol y Penrhyn Antarctig, ac fe gyflymodd y drifft gryn dipyn yn ystod tymor yr haf.
Mae'r mynydd iâ, sydd ar hyn o bryd ar ledred o 63 gradd tua'r De, yn dilyn taith ddisgwyliedig iawn.
Pan fydd yn ymddangos uwchben blaen y penrhyn, dylai'r bloc anferthol gael ei arwain tua'r gogledd at yr Iwerydd - llwybr y mae ymchwilwyr yn cyfeirio ato fel "Llwybr y Mynyddoedd Iâ".
Mae'r Athro Adrian Luckman o Brifysgol Abertawe yn dweud y bydd A68 yn cael trafferth cynnal ei gyfanrwydd ar ôl iddo gyrraedd dyfroedd caletach Cefnfor y De. Meddai: "Gyda chyfradd trwch i hyd sy'n debyg i bum dalen o bapur A4, rwy'n synnu nad yw tonnau'r cefnfor eisoes wedi troi A68 yn dalpiau iâ.
"Os bydd yn aros yn un darn am yn hir ar ôl symud y tu hwnt i ffin iâ'r mor, bydda i'n synnu'n fawr."