Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Academydd Cyfreithiol yn helpu i gymeradwyo canllawiau i brynwyr cartrefi yn ystod argyfwng iechyd

Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas y Gyfraith i gymeradwyo canllawiau ar gyfer cwmnïau trawsgludo sy'n cynghori cleientiaid ar symud tai yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

Roedd yr Athro Michael Draper yn rhan o grŵp o weithwyr proffesiynol cyfreithiol a fynychodd gyfarfodydd o bell gyda chynrychiolwyr o’r llywodraeth a’r diwydiant.

Ynghanol y sefyllfa iechyd bresennol, mae miloedd o bobl wedi cyfnewid cytundebau ar brynu eiddo ond heb y gallu i'w cwblhau'n gyfreithiol oherwydd rheoliadau ar adael y cartref.

O ganlyniad, byddai llawer o unigolion yn torri cytundeb pan fydd y diwrnod cwblhau yn cyrraedd, felly roedd yn rhaid i'r tîm bach ddod o hyd i ateb ynghylch amrywio'r cytundeb - gweithdrefn gyfreithiol gymhleth iawn.

Dywedodd yr Athro Michael Draper o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton:

“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o’r tîm gwych o Gymdeithas y Gyfraith sydd wedi gweithio i leddfu’r pryder a’r straen i’r miloedd o bobl a’r trafodion sydd wedi cael eu heffeithio gan y mater hwn, sydd yn cynrychioli buddsoddiad economaidd ac emosiynol sylweddol i lawer yn ystod cyfnod o argyfwng cenedlaethol."

Dywedodd Simon Davis, llywydd Cymdeithas y Gyfraith:

“Mae Cymdeithas y Gyfraith yn cydnabod yr anawsterau gwirioneddol sy’n wynebu’r rhai sy’n ceisio symud cartref yn enwedig i’r rheiny sydd wedi cyfnewid cytundebau, ond nad ydynt yn gallu eu cwblhau, am amryw resymau a grëwyd gan y cyfyngiadau ar adael y cartref.

“Y canllawiau gan y llywodraeth, a’r arweiniad a gynhyrchwyd gan Gymdeithas y Gyfraith ar y cyd â chyrff trawsgludo eraill, yw ein hymgais i gynnig rai atebion o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn.

“Nid oes unrhyw atebion syml ac mae’r sefyllfa’n un sy’n newid yn barhaus. Byddwn yn dal ati i adolygu’r sefyllfa ac os bydd angen, byddwn yn camu i mewn eto."

Rhannu'r stori