Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Canolfan ymchwil yn cael gwahoddiad i ymuno â rhwydwaith ymchwil gwrthderfysgaeth byd-eang
Mae'r Ganolfan Ymchwil Seiberfygythiadau (CYTREC), sydd wedi'i lleoli yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, wedi cael gwahoddiad ffurfiol i ymuno â Rhwydwaith Ymchwil Byd-eang Cyfarwyddiaeth Weithredol Pwyllgor Gwrthderfysgaeth y Cenhedloedd Unedig.
Ar ddechrau mis Ebrill, cafodd yr Athro Stuart Macdonald, Cyfarwyddwr CYTREC, wahoddiad gan y Cenhedloedd Unedig i ymuno â'r rhwydwaith, sy'n bartneriaeth unigryw rhwng y Cenhedloedd Unedig a sefydliadau academaidd mwyaf blaenllaw'r byd ym meysydd terfysgaeth, gwrthderfysgaeth ac atal eithafiaeth dreisgar.
Mae gwaith ymchwil a wnaed gan y rhwydwaith wedi cael ei integreiddio mewn amrywiaeth o weithgareddau, a nifer o gyhoeddiadau, gan helpu i sicrhau bod y gymuned fyd-eang sy'n llunio polisïau gwrthderfysgaeth yn ymwybodol o'r tueddiadau sy'n dod i'r amlwg o ran terfysgaeth a gwrthderfysgaeth.
Gan drafod y gwahoddiad, meddai'r Athro Stuart Macdonald:
“Rwyf wrth fy modd bod gwaith CYTREC wedi cael y gydnabyddiaeth hon. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu canfyddiadau ac argymhellion ein gwaith ymchwil â Chyfarwyddiaeth Weithredol Pwyllgor Gwrthderfysgaeth y Cenhedloedd Unedig a chyfrannu at yr ymdrechion byd-eang i lunio polisïau gwrthderfysgaeth sy'n effeithiol ac sy'n parchu hawliau dynol a gwerthoedd sylfaenol.”
Daw'r gwahoddiad ychydig fisoedd yn unig ar ôl y cyhoeddiad y rhoddir buddsoddiad gwerth £5.6 miliwn, gan Brifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru, i greu Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, a fydd yn ceisio gwella gwaith arloesi mewn Technoleg Gyfreithiol, Mynediad at Gyfiawnder ac atal pobl rhag defnyddio'r rhyngrwyd at ddibenion terfysgaeth a throseddu.
Gyda chefnogaeth £4 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, bydd y labordy'n gyfleuster ymchwil ac arloesi unigryw yn Ysgol y Gyfraith. Fel rhan o'r prosiect, caiff cyfleusterau a fydd yn arwain y sector, gan gynnwys ystafelloedd ymchwil i seiberfygythiadau â labordai ymchwil data, eu creu er mwyn cefnogi'r broses o gydweithio â phartneriaid allweddol.