Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae pâr wedi dychwelyd i Brifysgol Abertawe i adael eu marc ar y man lle gwnaethant gyfarfod gyntaf dros 60 mlynedd yn ôl.
Plannodd John a Diana Lomax, sydd ill dau’n 90 oed, lasbren ar gampws Singleton fel rhan o’r prosiect i blannu coed derw ar gyfer canmlwyddiant y Brifysgol a fydd yn plannu coed newydd yn ystod 2020.
Mae coed derw aeddfed eisoes yn un o brif nodweddion tirwedd Singleton, gan ddarparu cartref i fywyd gwyllt a budd i'r gymuned trwy hidlo'r awyr, lleihau llifogydd, cymedroli tymereddau a chynnig ymdeimlad o les.
Dan arweiniad swyddog bioamrywiaeth y Brifysgol, Ben Sampson, mae myfyrwyr a staff wedi bod yn plannu glasbrennau i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn medru elwa ar y coed hardd hyn.
Mae'n brosiect yr oedd Mrs Lomax yn arbennig o awyddus i gymryd rhan ynddo. Yn gynnar yn y 1950au, hi oedd ysgrifennydd yr Athro Botaneg arloesol Florence Mockeridge ac roedd hi ymhlith y bobl gyntaf erioed i fynd i mewn i Adeilad y Gwyddorau Naturiol - Adeilad Wallace bellach - pan gafodd ei gwblhau yng nghanol y 1950au.
Pan gyfarfu hi â’i gŵr, roedd e’n fyfyriwr peirianneg ôl-raddedig, ac fe briododd y ddau yn Sgeti ym 1957 cyn symud i ffwrdd yn sgîl gyrfa John.
Ond arhosodd Abertawe yn lle arbennig i'r cwpl ac fe ddaethon nhw'n ôl dros 30 mlynedd yn ôl.
Dywedodd y pâr, sy’n byw yn y Mayals, eu bod yn falch iawn o gael eu gwahodd yn ôl i ymuno â Ben a phlannu glasbren wrth brif fynedfa’r Brifysgol.
Meddai John: “Dyma’r lle perffaith, byddwn yn gallu ei gweld wrth i ni yrru heibio ac yn medru ei dangos i bobl. Rydym yn falch iawn o gael ein darn bach ein hunain o Brifysgol Abertawe, mae hyn wir yn creu cysylltiad arall i ni â'r lle."
Yn ystod eu hymweliad ‘nôl i'r campws fe wnaethant hefyd achub ar y cyfle i gymryd golwg ar adeilad Wallace am y tro cyntaf ers i Diana adael ei rôl. Llwyddodd Diana i weld y swyddfa lle roedd hi wedi gweithio ynghyd â gweld unwaith eto y portread o’i chyn-bennaeth, yr Athro Mockeridge, sydd bellach yn cael ei arddangos yn yr adeilad y helpodd hi i'w sefydlu.
Dywedodd Diana: “Yn union fel y Brifysgol, mae'r adeilad wedi newid mewn sawl ffordd, ond rwy'n dal i gofio cofio cerdded i mewn yma am y tro cyntaf. Adeg hynny doedd y campws ddim wedi datblygu'n fawr iawn, nid oedd unrhyw geir a dwi’n meddwl bod pawb ohonom yn adnabod enwau ein gilydd. Roedd yn amser cyffrous iawn i fod yma ac mae gan y ddau ohonom atgofion hapus iawn o'n cyfnod yn Abertawe. ”