Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Mae cleifion yn Abertawe, y bu'n rhaid canslo eu hapwyntiadau oherwydd coronafeirws, yn cael cefnogaeth arbenigol dros y teleffon yn hytrach nag wyneb i wyneb fel y gallant barhau â'u triniaeth.

Mae cleifion yn Abertawe, y bu'n rhaid canslo eu hapwyntiadau oherwydd coronafeirws, yn cael cefnogaeth arbenigol dros y teleffon yn hytrach nag wyneb i wyneb fel y gallant barhau â'u triniaeth.

Mae seicolegwyr o Brifysgol Abertawe yn cydweithredu â staff o adrannau Ffisiotherapi Iechyd ac Wrogynaecoleg Menywod yn Ysbyty Singleton i ddefnyddio ffôn-feddygaeth wrth iddynt ddelio â menywod sy'n derbyn triniaeth ar gyfer problemau llawr y pelfis.

Mae seicolegwyr o Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd yn darparu’r elfen seicolegol hanfodol yng ngofal parhaus y claf, gan leddfu effeithiau niweidiol posibl o ynysu cymdeithasol.

Mae camweithrediad llawr y pelfis yn effeithio ar oddeutu 25 y cant o fenywod a gallant hefyd gael symptomau seicolegol eraill megis pryder ac iselder ysbryd, ynghyd â phoen cronig, a all fod yn ddifrifol iawn ac yn wanychol os na chaiff ei gefnogi.

Gall materion seicolegol wneud i'r cyflyrau corfforol barhau'n hirach, gyda symptomau mwy dwys a difrifol. Gellid mynd i'r afael â'r anghenion seicolegol cymhleth hyn pan fyddai cleifion yn mynychu'r ysbyty am apwyntiadau, ond mae llawer o fenywod bellach heb y llwybr cymorth.

Mae'r Athro Phil Reed a Dr Lisa Osborne wedi bod yn cydweithio i ddatblygu triniaethau ar gyfer problemau iechyd menywod ers nifer o flynyddoedd. Ar hyn o bryd maent yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddarparu ffôn-gefnogaeth seicolegol yn ystod yr argyfwng.

Dywedant bod defnyddio'r Brifysgol fel canolfan i ddarparu'r gefnogaeth hon yn lleddfu pwysau ar yr ysbyty ar adeg dyngedfennol, gan ganiatáu amgylchedd gwaith diogel i staff. Mae hefyd yn enghraifft wych o’r Coleg a'r GIG yn gweithio ar y cyd.

Dywedodd Dr Osborne: “Mae’r menywod yma’n gweithio mor galed i oresgyn eu problemau corfforol, ac weithiau mae angen cefnogaeth arnynt i wneud hyn. Mae cyd-weithio gyda nhw dros y ffôn yn achubiaeth i rai - yn enwedig gan fod coronafeirws yn ychwanegu ffynhonnell bryder arall i'r menywod hyn, fel y mae i ni gyd."

Yn flaenorol mae ymchwil gan dîm amlddisgyblaethol Prifysgol Abertawe ac Ysbyty Singleton wedi nodi cysylltiad clir rhwng cefnogaeth seicolegol i gleifion â chamweithrediad llawr y pelfis a gwell canlyniadau clinigol. Gwna hyn brofiad y claf yn well, a'r GIG yn fwy effeithlon; felly, gan leddfu hyd yn oed mwy o bwysau ar adnoddau.

Dywedodd yr Athro Reed: “Mae cadw’r gwasanaeth i fynd mewn ffordd effeithlon yn bwysig iawn. Bydd llawer o’r cleifion hyn yn teimlo’n ynysig ac yn rhwystredig, a allai wneud eu cyflyrau corfforol yn waeth heb y gefnogaeth barhaus hon.”

Gall materion iechyd meddwl ddeillio o unigedd cymdeithasol, ond mae'r cwnsela hwn yn mynd y tu hwnt i gynnig cefnogaeth gymdeithasol. Esboniodd yr Athro Reed fod gwir angen darparu gofal seicolegol, ac mae'r Adran, Coleg, a'r Brifysgol, gyda chefnogaeth y Staff Diogelwch, yn darparu'r cyfleusterau a'r dechnoleg i sicrhau bod cefnogaeth yn parhau yn ystod yr amser heriol hwn.

Rhannu'r stori