Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Astudiaeth yn dangos barn gymysg y cyhoedd ar apiau olrhain cysylltiadau o ran COVID-19

Mae astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Manceinion yn awgrymu bod gwahaniaeth barn rhwng pobl ynghylch a fyddant yn defnyddio ap ar gyfer ffonau symudol i olrhain cysylltiadau o ran COVID-19, y bwriedir iddo gael ei ryddhau yn y DU yn ddiweddarach y mis hwn. 

Dyma ganfyddiadau'r astudiaeth:

  • Roedd gwahaniaeth barn rhwng pobl ynghylch a fyddant yn defnyddio'r ap, gydag oddeutu traean o'r cyfranogwyr yn dweud na fyddant yn defnyddio'r ap.
  • Mae llawer o bobl yn poeni na fydd yr ap yn diogelu preifatrwydd defnyddwyr neu na chaiff ei ddefnyddio gan ddigon o bobl i sicrhau ei fod yn effeithiol.
  • Roedd llawer o bobl o'r farn nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth am yr ap neu eu bod wedi cael eu camarwain ynghylch sut mae'r ap yn gweithio. Mae rhai pobl yn ceisio osgoi unrhyw newyddion am COVID-19, sydd o bosib yn cyfrannu at y diffyg gwybodaeth hwn. 

Mae'r ymchwil ar ffurf adroddiad rhagarweiniol a gyhoeddwyd ar medRxiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ynghylch materion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i'w cyhoeddi mewn cyfnodolyn (ceir mwy o wybodaeth yn y nodiadau isod).

Dr Simon Williams, Uwch-ddarlithydd Pobl a Sefydliadau ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n arwain yr ymchwil, mewn cydweithrediad â Dr Kimberly Dienes a'r Athro Christopher Armitage o Ganolfan Seicoleg Iechyd Prifysgol Manceinion, a Dr Tova Tampe, ymgynghorydd annibynnol yn Sefydliad Iechyd y Byd.

Cynhaliodd yr ymchwilwyr grwpiau ffocws ar-lein gydag oedolion yn y DU a oedd yn cynrychioli cefndiroedd amrywiol o ran rhyw, ethnigrwydd, oedran a swyddi, er mwyn archwilio eu hagweddau at ap olrhain cysylltiadau arfaethedig NHSX sy'n cael ei dreialu ar hyn o bryd.

Meddai Dr Simon Williams: “Mae'r ap olrhain cysylltiadau'n rhan allweddol o strategaeth y llywodraeth wrth i ni barhau'r broses o ddod â'r cyfyngiadau symud i ben. Bydd cefnogaeth y cyhoedd i'r ap, a'r defnydd ohono, yn penderfynu yn y pen draw a fydd y strategaeth yn llwyddo neu'n methu.

“Mae ein hastudiaeth yn awgrymu nad oes sicrwydd y bydd y llywodraeth yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau'r math o ddefnydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae angen gwneud llawer o waith i gynyddu hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd y mae'r llywodraeth yn ymdrin â COVID-19, ac i wella gwybodaeth am yr ap.

“Roedd un o brif bryderon pobl yn ymwneud â diogelu eu preifatrwydd. Roedd pobl yn cysylltu'r ap â goruchwyliaeth gynyddol gan y wladwriaeth. Roedd rhai'n credu bod y budd cyffredinol a ddaw o leihau ymlediad y feirws yn bwysicach nag ystyriaethau preifatrwydd. Roedd eraill yn credu y byddai'r ap yn amharu ar eu rhyddid sifil ac yn poeni am rannu a dwyn data.

“Testun pryder arall oedd na fyddai digon o bobl yn defnyddio'r ap, naill ai oherwydd na all cyfran o bobl fforddio ffonau clyfar neu oherwydd nad ydynt yn ffyddiog y bydd yn effeithiol. Yr eironi, wrth gwrs, yw os bydd digon o bobl yn penderfynu peidio â defnyddio'r ap oherwydd eu bod yn meddwl na fydd pobl eraill yn ei ddefnyddio, bydd yn broffwydoliaeth sy'n gwireddu ei hun.

Ychwanegodd Dr Dienes, Darlithydd Seicoleg Glinigol ac Iechyd ym Mhrifysgol Manceinion ac un o gyd-awduron yr astudiaeth: “Mae'n ymddangos mai un o'r prif resymau pam mae rhai pobl yn poeni am breifatrwydd yw nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth am yr ap neu fod ganddynt yr wybodaeth anghywir amdano.

“Er enghraifft, un o'r camddealltwriaethau mawr yw bod yr ap yn caniatáu i'w ddefnyddwyr adnabod yn benodol, a hyd yn oed mapio, y bobl â symptomau COVID-19 ymysg eu cysylltiadau ac yn y cyffiniau. Nid yw hynny'n wir. Mae rhai pobl yn dechrau osgoi newyddion am COVID-19, weithiau oherwydd bod y cyfan yn ormod iddynt. Felly, mae'n bwysig bod y llywodraeth yn rhannu'r wybodaeth mewn cynifer o ffyrdd â phosib, fel y rhannwyd y canllawiau ar y cyfyngiadau symud.”

Mae'r astudiaeth yn cynnig argymhellion i'r llywodraeth a'r rhai sy'n llunio polisïau. Ychwanegodd Dr Williams: “Rydym yn argymell y dylai'r llywodraeth gyfathrebu mewn modd mor glir â phosib, gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol. Dylid newid i ymagwedd ddatganoledig, canolbwyntio ar dawelu meddyliau'r cyhoedd ynghylch preifatrwydd, a hyrwyddo'r neges allweddol bod defnyddio'r ap yn rhan o'r cydgyfrifoldeb am atal y feirws rhag lledaenu ac yn gallu helpu i achub bywydau.”

**Mae'r astudiaeth hon wedi'i rhagargraffu ac adroddiad rhagarweiniol ydyw o waith sydd heb ei ardystio eto drwy adolygiad gan gymheiriaid. Ni ddylid dibynnu ar ragargraffiad i lywio ymarfer clinigol nac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd ac ni ddylai'r cyfryngau drafod y gwaith fel gwybodaeth sefydledig.

Mae'r astudiaeth yn ymddangos ar medRxiv, sy'n gydweithrediad rhwng Prifysgol Yale, Labordy Cold Spring Harbor (CSHL), sef sefydliad ymchwil ac addysgol nid er elw, a BMJ, darparwr gwybodaeth gofal iechyd byd-eang. Mwy am medRxiv.

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori