Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Myfyrwyr nyrsio Abertawe yn dweud eu bod yn falch o allu wynebu’r her o ymuno â’r GIG yn ystod y pandemig.
Penderfynodd dros 700 o fyfyrwyr nyrsio o Brifysgol Abertawe gymryd rolau clinigol yr wythnos hon ac maent wedi dechrau gofalu am gleifion yng Nghymru.
Meddai’r myfyriwr nyrsio trydedd flwyddyn Natalie Jenkins: “Yn bendant nid hon oedd y sefyllfa yr oeddwn yn disgwyl cael fy hun ynddi ar hyn o bryd, ac er gwaethaf pryderon amlwg rwy’n teimlo’n freintiedig iawn cael y cyfle i gwblhau fy hyfforddiant ar y rheng flaen.”
Er iddi gyfaddef y byddai'n gromlin ddysgu serth, dywedodd: “Teimlaf anrhydedd fy mod yn gallu gwneud fy rhan a helpu lle y gallaf. Mae'r GIG cyfan yn hyn gyda'i gilydd ac mae'n brofiad y gallaf ddysgu ohono a bwrw ymlaen ag ef yn fy ngyrfa nyrsio.“
Mae Natalie a’i myfyrwyr nyrsio ar y cyd wedi eu hanfon i ofalu am gleifion gyda byrddau iechyd Hywel Dda, Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg a Phowys yn ogystal â’r sector annibynnol.
Meddai’r Athro Jayne Cutter, Pennaeth Adran Nyrsio’r Brifysgol ei bod yn tu hwnt o falch o’r myfyrwyr nyrsio sydd wedi ymgymryd â’r lleoliadau ymarfer clinigol estynedig sydd wedi eu gwneud yn bosib trwy drafodaethau gyda’r Byrddau Iechyd, HEIW a’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Golyga hyn, er bod y myfyrwyr yn gweithio mewn gwasanaethau rheng flaen, byddant mewn meysydd sy'n adlewyrchu eu cwmpas ymarfer eu hunain a bydd eu hyfforddiant a'u hasesiad yn parhau, ynghyd ag amserau dysgu gwarchodedig.
“Bydd y myfyrwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i ofal cleifion ac yn darparu llawer iawn o gefnogaeth i’r GIG a’r sector annibynnol yn ystod yr amserau digynsail hyn,” meddai.
Er hynny, mae’r Athro Cutter yn dweud ei bod yn bwysig i gofio’r myfyrwyr hynny sydd wedi penderfynu peidio ag ymuno â’r fenter.
“Byddai’r myfyrwyr hyn wedi hoffi bod wedi gallu mynychu lleoliadau ond oherwydd iechyd neu amgylchiadau teuluol maent wedi cael eu hunain yn methu â gwneud hynny.”
Pwysleisiodd yr Athro Ceri Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, fod y Brifysgol yn sicrhau na fyddai'r myfyrwyr hyn o dan unrhyw anfantais ac y byddent yn derbyn gweithgareddau ystyrlon a pherthnasol i ategu eu hastudiaethau a'u profiad cynharach.
Meddai: “Mae’r brwdfrydedd, yr ymrwymiad a’r ymroddiad a ddangoswyd gan bob un o’n myfyrwyr nyrsio wedi bod yn rhagorol ac yn tystio i ansawdd yr hyfforddiant a gawsant yn y Brifysgol ac yn ystod eu lleoliadau mewn ymarfer clinigol.”
Diolchodd hefyd i Addysg a Gwella Iechyd Cymru, y corff sy'n goruchwylio hyfforddiant gofal iechyd yng Nghymru am ei gefnogaeth a'i gymorth i gael myfyrwyr i leoliadau clinigol mor gyflym.
Teimlodd y myfyriwr ail flwyddyn Matt Townsend yn bendant mai ymuno oedd y penderfyniad iawn iddo. “Os yw Covid-19 wedi dysgu unrhyw beth i mi, mae gwytnwch yn rhan sylfaenol o'n rôl fel myfyrwyr nyrsio.
“Nid oedd neb yn rhagweld y byddem yn ymwneud â phandemig byd-eang. Er fy mod yn bryderus ac yn nerfus am yr hyn sydd o'n blaenau, teimlaf bod hwn yn gyfle gwyh i ddysgu ac i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol fel clinigwr.
“Teimlaf yn barod am yr heriau a’r ymdrechion sydd o’n blaenau a byddaf yn cynnal fy nyletswydd o ofal yn yr un modd ag y mae Prifysgol Abertawe bob amser wedi fy nysgu i’w wneud - gyda dewrder, ymroddiad a thosturi.”
Dywedodd Sam Richards, sydd bum mis i ffwrdd o gwblhau ei radd nyrsio: “Er bydd nifer ohonom yn dychwelyd i osodiad clinigol lle yr ydym eisoes wedi ein lleoli, mae’r tirlun wedi newid yn helaeth o ganlyniad i fesurau Covid-19.”
Er hynny, dywedodd bod ef a’i gydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth gan eu cydweithwyr nyrsio a’r tîm rhyngddisgyblaethol ehangach.
“Edrychaf ymlaen at fyned ymarfer yn y dull yma.”
Mae Callum James, yn fyfyriwr nyrsio iechyd meddwl ail flwyddyn, ac yn cyfaddef nad oedd wir wedi gwerthfawrogi difrifoldeb y sefyllfa tan iddo glywed am farwolaeth ei ddarlithydd Brian Mfula o Covid-19.
“Fel yr holl fyfyrwyr eraill sydd wedi penderfynu ymuno, rwy’n gofidio, ond mae’n anrhydedd i mi fedru cyfrannu a helpu mewn unrhyw fodd y gallaf.
“Rwyf ond yn gobeithio y gall fy mhrofiad hyd yn hyn gyfrannu i welliant unigolion sydd ei angen. Rydym oll yn gweithio mor galed yn ein hyfforddiant a dylem oll fod yn falch o’n hunain - difater ein penderfyniadau o amgylch ymuno neu dynnu’n ôl.”
Ychwanegodd: “Edrychaf ymlaen at y diwrnod pan fydd hyn oll yn atgof a gallwn symud ymlaen fel myfyrwyr gwell, hyderus a balch.”