Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae un o raddedigion Prifysgol Abertawe wedi dweud ei bod yn falch dros ben o fod yn rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn ystod pandemig Covid-19.
Mae Joanne Hill, o Borth Tywyn, yn gweithio mewn uned asesu meddygol yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli ar hyn o bryd lle mae'r holl gleifion y mae'r uned yn eu derbyn yn dioddef o coronafeirws.
Ar ôl ennill gradd nyrsio o Brifysgol Abertawe y llynedd a dechrau ei gyrfa, cafodd ei gwthio i'r rheng flaen wrth i Covid-19 ledaenu i bob rhan o'r byd.
Ond mae'r profiad hyd yn hyn, er gwaethaf ei heriau, wedi sicrhau bod Joanne yn ymwybodol o'r hyn y mae gweithio i'r GIG yn ei olygu yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
“Mae bod yn nyrs yn ystod y pandemig hwn wedi rhoi ymdeimlad o falchder eithriadol i mi,” meddai. “Rwy'n gweithio gyda thîm anhygoel o feddygon a nyrsys sydd wedi cynllunio a gweithio'n galed iawn er mwyn atal yr uned rhag cael ei gorlenwi.
“Rydym wedi cael rhai straeon llwyddiant anhygoel lle mae cleifion wedi cael eu rhyddhau ar ôl bod yn wael iawn pan gawsant eu derbyn.
“Yn ogystal â bod yn falch o fod yn rhan o dîm anhygoel, rwy'n falch o weithio i'r GIG. Mae'r edmygedd a'r gefnogaeth a ddangoswyd i'r sector gan y cyhoedd wedi bod yn syfrdanol ar adegau, ac mae gwybod bod ein gwaith yn cael ei werthfawrogi yn destun boddhad.”
Mae stori Joanne ei hun yn un o'r llwyddiannau, ar ôl gweddnewid ei bywyd mewn ffordd anghredadwy.
Bu bron i'r fenyw 42 oed farw wyth mlynedd yn ôl pan oedd ei dibyniaeth ar heroin yn drech na hi. O ganlyniad, aeth i'r ysbyty, yn dioddef o endocarditis, a chollodd ei dau blentyn, Callum a Kian, i ofal ei thad-cu a'i mam-gu.
Fodd bynnag, brwydrodd Joanne yn ôl a chafodd ei hysbrydoli i fod yn nyrs yn sgil y gofal a roddwyd iddi.
“Y peth anoddaf i mi yn bersonol yn ystod y pandemig hwn yw gwybod na all teuluoedd fod gyda'u hanwyliaid wrth iddynt farw,” meddai.
“Rwyf wedi gorfod dal ffonau i alluogi aelodau teulu i gysylltu drwy FaceTime â'u hanwyliaid sy'n marw, gan na allent fod yno i ffarwelio – mae hynny wedi bod yn dorcalonnus.
“Mae'r ffaith bod y canllawiau wedi newid yn barhaus wrth i wybodaeth ddod i law wedi bod yn heriol. Yn ein hysbyty, rydym wedi cael cyflenwad digonol o gyfarpar diogelu personol, ond rydym yn sylweddoli ei fod yn brin, felly ni chaiff ei ddefnyddio'n helaeth.”
Mae cael eu gwahanu oddi wrth aelodau teulu wedi bod yn anodd i lawer o bobl dan y mesurau cadw pellter cymdeithasol presennol.
“Mae'r posibilrwydd o gael y feirws a'i drosglwyddo i anwyliaid yn destun pryder mawr,” meddai Joanne, sy'n byw gyda'i dau fab, Kian, 17, a Callum, 21.
“Rwyf wedi gorfod ynysu rhag fy mam-gu, yn ogystal â'm mam a'm llystad. Mae fy mam-gu bron yn 84 oed ac yn dioddef o gydafiacheddau, ac mae cyflyrau iechyd yn effeithio ar fy llystad, sy'n 69 oed. Felly, maent wedi bod yn hunanynysu.
“Mae'n anodd cadw draw, ond rydym yn cadw mewn cysylltiad drwy alwadau fideo rheolaidd. Nid yw cael ein gwahanu oddi wrth aelodau teulu, na chael profiad o gleifion mewn penbleth a gweld llawer o bobl yn marw, yn rhan o'n disgrifiad swydd arferol fel nyrsys, ond dyna yw ein gwaith.
“Rydym i gyd wedi hyfforddi i fod yn nyrsys er mwyn gofalu am bobl eraill yn gyntaf. Mae'r tîm seicoleg iechyd clinigol wedi cynnig cymorth i'r rhai hynny sy'n teimlo'n orbryderus neu sy'n cael eu gorlethu gan y sefyllfa bresennol.”
Mae'r GIG a'i weithwyr wedi ennill clodydd ac edmygedd ledled y wlad am eu gwaith diflino a phenderfynol wrth helpu i ofalu am gleifion yn ystod y pandemig presennol, ac roedd gan Joanne neges gadarn i unrhyw un sy'n ystyried dilyn gyrfa fel nyrs yn y dyfodol.
“Rwyf wedi dwlu ar bob munud o fod yn nyrs,” meddai. “Mae wedi rhagori ar fy nisgwyliadau, ac rwy'n teimlo'n freintiedig i ofalu am gleifion a gwneud gwahaniaeth.
“Byddwn yn cynghori unrhyw un sy'n ystyried bod yn nyrs i fynd amdani. Mae'n radd drom ond mae bod yn rhan o'n GIG anhygoel yn gwneud unrhyw heriau rwyf wedi'u hwynebu yn werth chweil. Roedd angen nyrsys arnom cyn y pandemig, a bydd angen nyrsys arnom ar ôl iddo ddod i ben.”