Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi ei bwriad i fod ar agor i addysgu ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi ei bwriad i agor ac addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2020.
- Cyflwynir pob cwrs mewn ffordd ddeuol er mwyn rhoi addysg ar-lein ac wyneb yn wyneb.
- Cyflwynir addysg wyneb yn wyneb mewn fformat cymysg heb unrhyw ddarlithoedd mawr i ddechrau.
- Mae’r Brifysgol yn paratoi i gynnal wythnos cofrestru, ymsefydlu a chroesawu ar-lein ym mis Medi a mis Ionawr.
- Bydd llety'r Brifysgol ar gael fel arfer gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol priodol ar waith.
O ran myfyrwyr rhyngwladol, pe bai rheolaethau cwarantin ar waith yn y DU ar yr adeg pan fyddant yn cyrraedd, bydd y Brifysgol yn anfon gwybodaeth atynt am y mesurau y bydd y Brifysgol yn eu cymryd i’w cynorthwyo a'u cefnogi.
Meddai’r Athro Martin Stringer, dirprwy is-ganghellor dros addysg: “Rydym yn bwriadu bod yn barod i addysgu er gwaethaf unrhyw gyfyngiadau ar deithio, ble bynnag y bydd ein myfyrwyr, ac rydym yn llunio ein dulliau cyflwyno er mwyn sicrhau y bydd pob myfyriwr – boed yma yn Abertawe gyda ni, yn rhywle arall yn y DU neu'r rhai o bedwar ban byd a fydd yn ymuno â ni'n ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd pan fydd yr amgylchiadau'n caniatáu hynny – yn rhan lawn o'n cymuned.
“Iechyd a diogelwch ein myfyrwyr a'n staff, a'u cefnogi, yw ein prif flaenoriaeth bob amser, a byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein cynlluniau yn ystod yr wythnosau nesaf. Edrychwn ymlaen at groesawu myfyrwyr a staff i'n cymuned yn Abertawe.”