Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae ymchwil i effaith newid yn yr hinsawdd yn Antarctica wedi cael ei hybu gan ddyfarniad gwerth $20 miliwn (£10 miliwn) gan lywodraeth Awstralia ar gyfer gwaith a arweinir gan Brifysgol Tasmania mewn partneriaeth â rhewlifegwyr o Brifysgol Abertawe.
Bydd y cyllid yn galluogi gwyddonwyr o'r ddau sefydliad a phartneriaid rhyngwladol eraill i barhau ag ymchwil ar y cyd i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar Diriogaeth Antarctica Awstralia, sy'n cwmpasu oddeutu 45% o forlin Llên Iâ Dwyrain Antarctica.
Gwnaed y cais am gyllid ar gyfer Canolfan Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth Antarctica yn Awstralia. Roedd yn un o ddau gynnig yn unig a lwyddodd.
Mae Grŵp Rhewlifeg Prifysgol Abertawe, dan arweinyddiaeth yr Athro Bernd Kulessa, wedi sefydlu partneriaeth strategol â'r Sefydliad Astudiaethau i'r Môr ac Antarctica (IMAS) ym Mhrifysgol Tasmania. Mae gwyddonwyr Abertawe'n cynnig arbenigedd mewn meysydd megis geoffiseg arwyneb rhewllyd y Ddaear, synwyryddion lloeren o bell a modelu llenni iâ.
Mae'r timau yn Abertawe ac Awstralia eisoes yn cydweithio. Gwelwyd eu gwaith mewn ffilm realiti rhithwir syfrdanol – o'r enw The Antarctic Experience – a oedd yn llwyddiannus iawn yn Awstralia.
Mae'n portreadu diwrnod ym mywyd gwyddonwyr yn gwneud gwaith ymchwil yng Ngorsaf Davis Is-adran Antarctica Awstralia yn ystod tymor maes 2017/18, ac yn cynnwys y rhewlifegydd Dr Sarah Thompson o Brifysgol Abertawe.
Mae'r meysydd cydweithio presennol a ariennir yn cynnwys:
- Prosiect pum mlynedd Is-adran Antarctica Awstralia o'r enw Outlet Glacier Dynamics in Princess Elizabeth Land, East Antarctica
- Prosiect newydd Is-adran Antarctica Awstralia o'r enw Helicopter Trials of Ground Penetrating Radar on Glaciers – dilynwch y blog
- Prosiect Discovery mawr a ariennir gan Gyngor Ymchwil Awstralia o'r enw Towards an early warning of Antarctic icesheet collapse from seismology, a arweinir gan yr Athro Anya Reading ym Mhrifysgol Tasmania. Bydd y prosiect yn sefydlu sail ffisegol ar gyfer arsylwadau seismig o newidiadau bychain ar waelod basnau mawr Aurora a Wilkes yn Llen Iâ Dwyrain Antarctica drwy ddefnyddio cyfrifiaduron i efelychu ac ailddadansoddi data seismolegol sydd eisoes yn bodoli.
Meddai'r Athro Bernd Kulessa o Grŵp Rhewlifeg Prifysgol Abertawe:
“Bydd y cyllid newydd hwn yn cynnig cyfle ardderchog i ymchwilwyr Abertawe wneud gwaith ymchwil yn Nwyrain Antarctica yn y dyfodol.
“Mae gan y timau yn Abertawe ac IMAS hanes cryf ym maes ymchwil begynol. Nawr, wrth gyfuno drwy'r bartneriaeth hon, gallwn gryfhau ein hymdrechion yn fawr er mwyn deall effaith newid yn yr hinsawdd yn Antarctica."
Meddai'r Athro Rufus Black, Is-ganghellor Prifysgol Tasmania:
“Bydd ein hymchwil hirdymor yn canolbwyntio ar y newidiadau yn Antarctica a Chefnfor y De, sydd â goblygiadau sylweddol i system hinsawdd y byd.
“Mewn cydweithrediad â phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, mae'r gwaith rydym yn ei wneud o Brifysgol Tasmania yn hollbwysig i ddyfodol y Ddaear.”
Mae gwyddonwyr Prifysgol Tasmania yn cyflawni ymchwil o'r radd flaenaf ym maes Antarctica a Chefnfor y De gan gydweithio'n agos â staff yn Is-adran Antarctica Awstralia a CSIRO yn Hobart, yn ogystal â sefydliadau ymchwil yn genedlaethol a thramor.