Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Ymchwilwyr yn datblygu dull newydd o fapio metaboledd colesterol yn yr ymennydd

Mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi datblygu technoleg newydd i fonitro colesterol ym meinwe'r ymennydd a allai ddatgelu ei berthynas â chlefydau niwroddirywiol a chreu cyfle i ddatblygu triniaethau newydd. 

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn Proceedings of the National Academy of Sciences of the USA, yn dangos prif leoliadau colesterol yn yr ymennydd a pha foleciwlau a all ddeillio ohono.

Mae'r ymennydd yn organ hynod gymhleth, gyda cholesterol a'i fetabolion yn ategu ei weithrediad. Mae cysylltiad rhwng metabolaeth colesterol ddiffygiol a nifer o anhwylderau niwroddirywiol, gan gynnwys clefyd Alzheimer, clefyd Parkinson, clefyd Huntington, sglerosis ymledol a chlefyd niwronau motor.

Mae'n hysbys nad yw colesterol yn cael ei wasgaru'n gyfartal ar draws rhannau gwahanol yr ymennydd; fodd bynnag, hyd yn hyn, ni fu unrhyw dechnoleg ar gael i fapio metabolaeth colesterol mewn lleoliadau diffiniedig yn yr ymennydd ar lefelau microsgopig, nac i ddelweddu sut mae'n newid mewn cilfachau patholegol yn yr ymennydd.

Yma, mae ymchwilwyr yn disgrifio llwyfan delweddu sbectromedreg màs uwch i ddatgelu metabolaeth ofodol colesterol yn ymennydd llygoden â chydraniad micromedr o ddarnau o feinwe. Yn ogystal â mapio colesterol, gwnaeth yr ymchwilwyr fapio metabolion biolegol weithredol sy'n deillio o drosiant colesterol.

Er enghraifft, gwelsant fod 24S-hydroxycholesterol, prif fetabolyn colesterol yn yr ymennydd, oddeutu deg gwaith yn fwy toreithiog yn y striatwm nag ydyw yn y cerebelwm, dau barth sy'n cyfrannu mewn ffyrdd gwahanol at symudiadau gwirfoddol a gwybyddiaeth.

Daw'r dechnoleg newydd o ddegawd o ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe lle mae'r tîm wedi llunio dulliau o ddatgelu metabolion gwahanol colesterol mewn rhannau bach iawn o'r ymennydd, cyn lleied â blaen beiro.

Ychwanegodd yr Athro William Griffiths, cyd-arweinydd yr astudiaeth o Brifysgol Abertawe: “Er bod ein gwaith yn ymwneud â llygoden, gellir defnyddio'r dechnoleg i'r un perwyl o ran pobl mewn labordy ymchwil neu leoliad clinigol, a gallai ei gwerth fod yn chwyldroadol mewn cysylltiad â niwrolawdriniaeth.

“Gellid defnyddio ein dull mewn clinig i broffilio meinwe a dorrir allan yn ystod llawdriniaeth, a hynny'n gyflym, ac i wahaniaethu rhwng meinwe iach ac anafus, gan lywio'r llawfeddyg ynghylch cam nesaf y llawdriniaeth.”

Ychwanegodd yr Athro Yuqin Wang: “Bydd y dechnoleg hon sy'n dod o hyd i union leoliad moleciwlau yn yr ymennydd yn gwella ein dealltwriaeth o gymhlethdod gweithrediad yr ymennydd ac o'r ffordd y mae'n newid pan geir anhwylderau niwroddirywiol.

“Mae ein canlyniadau'n dangos bod trosiant colesterol yn arbennig o uchel yn y striatwm, y rhan yr effeithir arni fwyaf yn achos clefyd Huntington. Byddwn yn rhoi'r dull hwn ar waith er mwyn darganfod y cysylltiad rhwng metabolaeth colesterol a'r clefyd hwn. Gall hyn arwain at ddatblygu therapïau newydd ar gyfer clefyd nad oes iachâd iddo ar hyn o bryd.”

Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac addysg
ym Mhrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori