Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Athro yn y Brifysgol yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad eithriadol at arloesedd a gwyddoniaeth
Mae'r Athro Dave Worsley o Brifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Dewi Sant am ei gyfraniad at Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae'r gwobrau cenedlaethol yn dathlu cyflawniadau eithriadol pobl o bob math o gefndir yng Nghymru.
Mae'r Athro Worsley'n aelod o Dîm Rheoli SPECIFIC, yn ogystal â bod yn Athro a noddir gan Tata Steel ac yn Is-lywydd (Arloesi) yn y Brifysgol, a chafodd ei gydnabod am ei gyfraniad at Gymru gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a'i gynghorwyr.
Mae’r categori Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cydnabod unigolion sydd wedi datblygu technegau neu atebion sy'n diwallu anghenion newydd ac sydd wedi darparu cynhyrchion, prosesau, gwasanaethau, technolegau neu syniadau effeithiol sydd ar gael i gymdeithas yn gyffredinol.
Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd o hyd ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r Athro Worsley wedi sicrhau cyllid gwerth dros £100m ar gyfer ymchwil. Mae wedi ysgogi ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes technoleg ffotofoltäig drwy brosiectau megis SPECIFIC, SUNRISE, ABC, SUSTAIN, SAMI, a'r sefydliadau niferus sydd wedi deillio o’r gwaith hwnnw.
Meddai Athro Worsley:
“Hoffwn ddiolch i'r Prif Weinidog a thîm Llywodraeth Cymru am y newyddion ardderchog. Mae'n deyrnged i ymdrechion gwych ein tîm yng Nghymru, sydd wedi darparu technolegau newydd ardderchog a all newid y byd.”
Mae’r Athro Worsley hefyd wedi meithrin perthnasoedd eithriadol o gryf yng Nghymru a'r tu hwnt - â phrifysgolion megis Caerdydd, Caergrawnt a Rhydychen, yn ogystal â diwydiant, gan gynnwys NSG Pilkington Glass ac Akzo Nobel a rhestr hir o fusnesau bach a chanolig.
Yn 2015, anrhydeddwyd yr Athro Worsley gan y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3) drwy ddyfarnu Medal a Gwobr Hadfield iddo i gydnabod ei waith neilltuol ym maes gwyddor a pheirianneg deunyddiau ac, yn enwedig, ei gyflawniadau mewn cysylltiad â'r diwydiannau haearn a dur.
Mae'n athro poblogaidd yn y Brifysgol sydd wedi mentora 38 o fyfyrwyr. O ganlyniad i’w weithgarwch mentora, mae ei gyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i sefydlu prosiectau megis yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu a metal (Addysg, Hyfforddiant a Dysgu Deunyddiau a Gweithgynhyrchu) ac i fod yn arweinwyr diwydiant yng Nghymru a'r tu hwnt.
Yr Athro Worsley yw awdur a chydawdur 130 o gyhoeddiadau gwyddonol a adolygwyd gan gymheiriaid ym maes datblygu cynhyrchion wedi'u caenu, mae ganddo 12 patent a mynegai h o 32.
Ei angerdd, ei weledigaeth a’i arweinyddiaeth gydweithredol yw'r rhesymau pam mae wedi'i gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, yn ôl y trefnwyr. Mae ei ymrwymiad i'w waith heb ei ail ac mae ei allu i ysgogi pawb o'i gwmpas yn haeddu canmoliaeth, heb sôn am ei synnwyr hiwmor gwych.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
“Mae’r gwobrau hyn yn ffordd o anrhydeddu’r unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at ein bywyd cenedlaethol a bywyd cymunedau ledled Cymru a’r tu hwnt.”