Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Rebecca Ellis

Mae Rebecca Ellis, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill FameLab UK - cystadleuaeth gyfathrebu fwyaf blaenllaw'r byd ym maes gwyddoniaeth.

Yn y gystadleuaeth flynyddol, mae gwyddonwyr o bob cwr o'r DU yn cystadlu i ddiddanu ac ymgysylltu â chynulleidfa am bwnc gwyddonol mewn tair munud yn unig.

Cipiodd Rebecca, sydd yn awtistig, ac yn ymchwilio i lwybrau gofal i blant sydd â'r cyflwr ar gyfer ei PhD, wobr FameLab ar ôl cyflwyno cyflwyniad grymus ac ymgysylltiol am awtistiaeth ar ffurf cerdd. Yn ogystal ag ennill y wobr  o £2,000, enillodd Rebecca wobr y gynulleidfa werth £1,000 ar ôl i wylwyr bleidleisio ar-lein. Mae'r Rebecca, 28, yn bwriadu gwario’r arian ar offer sain a fideo a fydd yn ei helpu i barhau i rannu ei barddoniaeth, a thuag at fynychu cynadleddau yn y dyfodol.

Bydd Rebecca, sy’n hanu o Halifax, yn mynd ymlaen i gystadlu yn erbyn 24 o wledydd eraill yn Rownd Derfynol Ryngwladol FameLab, a gynhelir yn ystod Gŵyl Lenyddiaeth Cheltenham ym mis Hydref.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal ar-lein eleni, gyda Greg Foot o  BBC Radio 4 yn cyflwyno. Y beirniaid oedd y cyflwynydd teledu Dallas Campbell, yr arbenigwr ar seiberddiogelwch Dr Jessica Barker a Phennaeth Rhaglenni Gŵyl Wyddoniaeth Cheltenham, Dr Marieke Navin.

Meddai Rebecca: “Fel unigolyn awtistig fy hun, mae'r syniad y gallai fy ngwaith ymchwil wella bywydau unigolion awtistig eraill a'u teuluoedd yn gyffrous ac yn werth ei rannu. Gwnes i ddysgu orau bob amser pan oedd fy athrawon yn frwd a phan wnaethant esbonio pynciau mewn ffordd glir, addysgiadol a chreadigol. Roeddwn i am efelychu hynny a chyfuno rhannau creadigol a gwyddonol fy mhersonoliaeth drwy berfformio fy nghyflwyniad ar ffurf cerdd.

"Roeddwn i'n teimlo mor falch o gynrychioli Cymru gyda Dr Elizabeth Evans o Brifysgol Abertawe yn y rownd derfynol. Mae'r tîm FameLab cyfan wedi bod yn wych i weithio â , ac mae clywed sylwadau gan y gynulleidfa a gwybod fy mod wedi cysylltu â'i phobl drwy fy ngwaith wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol. ‘Dwi mor falch bod y profiad ddim ar ben eto, ac yn edrych ymlaen yn arw at y gystadleuaeth ryngwladol!”

Sefydlwyd FameLab yn 2015 gan Wyliau Cheltenham i ddod o hyd i wyddonwyr a pheirianwyr sydd â'r ddawn i gyfathrebu â chynulleidfaoedd cyhoeddus. Ers hynny, mae wedi mynd o nerth i nerth ochr yn ochr â phartneriaeth fyd-eang â'r British Council. Cynhelir cystadlaethau erbyn hyn mewn mwy na 25 o wledydd yn Ewrop, Asia, Affrica ac Ynysoedd y De.

Gwyliwch gyflwyniad Rebecca:

Rhannu'r stori