Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod prosiect mawr gwerth £43.74m ar y cyd â chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru wedi cael ei gymeradwyo ymysg y cyllid cyntaf i'w ddyrannu drwy gronfa flaenllaw Strength in Places y corff Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Bydd cyllid gwerth £25.44m o gronfa Strength in Places (SIPF) yn ategu'r prosiect.
Mae'r prosiect “CSconnected”, sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe, yn seiliedig ar integreiddio rhagoriaeth ymchwil â'r cadwyni cyflenwi rhanbarthol unigryw ym maes Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion uwch.
Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn gydrannau allweddol mewn amrywiaeth eang o dechnolegau newydd a phrif nod y prosiect CSconnected yw datblygu mantais gystadleuol mewn technolegau galluogi allweddol a fydd yn rhoi cyfle i'r DU gynyddu masnach yn fyd-eang mewn sectorau allweddol megis cyfathrebu, 5G, cerbydau awtomataidd a cherbydau trydan, a dyfeisiau meddygol. Mae'n rhaid i'r DU achub ar yr holl gyfleoedd hyn er mwyn sicrhau ein ffyniant yn y dyfodol hirdymor.
Y canlynol yw partneriaid y prosiect:
- Prifysgol Caerdydd (prif bartner);
- Prifysgol Abertawe;
- Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd;
- Y Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd;
- Y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC);
- IQE Plc;
- Newport Wafer Fab;
- Rockley Photonics;
- SPTS Technologies;
- Llywodraeth Cymru;
Bydd CSconnected Limited yn cydlynu'r gweithgareddau.
Meddai Dr Wyn Meredith, CSC a phrif awdur y cais i SIPF:
“Mae'r cyhoeddiad a wnaed heddiw yn newyddion ardderchog i Gymru a'r DU, gan gynnig cyfle unigryw i ddefnyddio'r gallu ymchwil ac arloesi ardderchog mewn ffordd sy'n arwain at weithgynhyrchu yn y DU o'r radd flaenaf ar gyfer marchnadoedd technoleg byd-eang sy'n newydd neu sy'n datblygu.”
Bydd y prosiect SIPF yn rhan o bortffolio cynyddol Prifysgol Abertawe o weithgareddau sy'n cefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion rhanbarthol, gan gynnwys creu cyfleuster cyfoes newydd gwerth £29.92m a ariennir gan UKRI, sef y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM), a gwblheir yn 2022 yng Nghanolfan Arloesi Campws y Bae.
Meddai Paul Meredith, arweinydd y prosiect SIPF a CISM:
“Mae'n bwysig iawn i Brifysgol Abertawe ei bod hi'n gwneud popeth posib i gefnogi twf y diwydiant lled-ddargludyddion yn Ne Cymru sy'n datblygu'n un o drysorau'r maes gweithgynhyrchu yn y DU.
“Rydym yn gweithio'n agos gyda Phrifysgol Caerdydd a phartneriaid diwydiant a llywodraeth allweddol y Clwstwr ar y prosiect SIPF newydd hwn – sy'n cysylltu ymchwil, arloesi a gweithgynhyrchu er mwyn ysgogi twf economaidd yn ein rhanbarth. Rydym yn edrych ymlaen at chwarae ein rhan.”