Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Pâr yn rhannu atgofion hapus o'r Brifysgol a adwaenid fel Butlin’s-ger-y-môr
Heb os nac oni bai, bydd Sandra a Bob Cuthill ymhlith y rhai a fydd yn cynnig llwncdestun i Brifysgol Abertawe pan fydd yn nodi ei chanmlwyddiant y mis hwn.
Cyfarfu'r pâr yno fel myfyrwyr daearyddiaeth fwy na 50 mlynedd yn ôl. Yn ogystal ag arwain at briodas hir a hapus, pedwar plentyn a chwe ŵyr ac wyres, gwnaeth y cyfarfod hwnnw gynnau brwdfrydedd cyffredin dros Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Roedd y gêm gyntaf yr aeth Sandra iddi erioed yn un bwysig – digwyddodd ym 1968 pan wnaeth Abertawe herio Arsenal gerbron y dorf fwyaf yn hanes Cae'r Vetch, hen faes yr Elyrch.
“Meddai Bob, ‘Rydyn ni'n mynd i rywle brynhawn dydd Sadwrn.’ Gofynnais ble ond gwrthododd â dweud wrthyf. Pan ddaeth i'm casglu, dywedodd ein bod yn mynd i weld pêl-droed. Meddwn, ‘Dwi ddim yn hoffi pêl-droed!’
“Ni allwn weld y maes – roeddwn yn ymdrechu i weld dros y dorf – ond gwnes i fwynhau'r profiad. Yn y pen draw, daethom yn ôl i fyw yma ac rydym wedi cefnogi'r Elyrch byth ers hynny.”
Daeth y pâr at ei gilydd yn wreiddiol yn ystod eu trydedd flwyddyn pan wnaeth Bob achub Sandra: “Roeddwn yn islawr Adeilad y Gwyddorau Naturiol yn gwneud gwaith ymchwil pan wnes i lewygu, cwympo a thorri fy mraich. Gwnaeth y porthor fy nghlywed yn gweiddi a daeth Bob pan alwodd am gymorth. Gwnaeth fy ngyrru i'r ysbyty er mwyn i'r goes gael ei rhoi mewn plastr.”
Er bod y Brifysgol wedi tyfu ers dyddiau'r pâr – dim ond 3,000 o fyfyrwyr oedd yno bryd hynny – mae un peth wedi aros fel ydoedd, yn ôl Sandra.
“Roedd Prifysgol Abertawe'n wahanol oherwydd ei lleoliad ar lan y môr, yn enwedig i bobl fel minnau o Ogledd Lloegr – roedd pobl yn arfer ei galw'n Butlin’s-ger-y-môr. Gallech gerdded o'r rhodfa i'r twyni tywod a mynd am dro i'r Mwmbwls neu dorheulo rhwng darlithoedd – neu arholiadau gradd,” meddai.
Dywedodd Sandra, sy'n hanu o Bury yn wreiddiol, fod ei rhieni am iddi aros yn agosach at gartref.
“Gwnes i gais i ddod yma oherwydd bod fy mam-gu a'm modryb yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fi oedd aelod cyntaf fy nheulu i fynd i'r brifysgol ac nid oedd fy rhieni'n gwybod beth i'w ddisgwyl, felly roeddent am fy ngwarchod.”
Yn wreiddiol, roedd ei llety ar Ffordd y Mwmbwls lle rhannodd ystafell mewn atig â dwy ferch arall, ac mae'n dal i gofio'r landlord.
“Bob tro y daethom yn ôl, byddai'n cwyno – roedd rhywun wedi defnyddio'r dŵr poeth i gyd neu ‘Ni allaf ganiatáu i'r holl sychwyr gwallt hyn gael eu defnyddio ar yr un pryd’. Ar ôl pythefnos, roedd wedi cael llond bol arnom.”
Fodd bynnag, roedd profiad Bob, sy'n hanu o Reigate yn Surrey yn wreiddiol, gyda'i landlordes ef yn Nynfant yn gwbl wahanol. “Byddai'n golchi fy ngwallt ac yn rhoi bwyd i mi nad oeddwn erioed wedi'i fwyta o'r blaen fel danadl, bara ŵy a bara lawr, wrth gwrs. Roedd hi'n hynod ofalgar, felly arhosais yno am oddeutu dwy flynedd. Roedd yn gartref oddi cartref.”
Meddai: “Gwnes i geisiadau i sawl lle i astudio daearyddiaeth, ond gwnaeth fy nghariad yn yr ysgol ddylanwadu arnaf i ddewis Abertawe. Roedd ei rhieni'n dod o Resolfen ac roeddwn yn meddwl y byddai hynny'n ddefnyddiol gan y byddai'n dod i ymweld â mi. Ond daeth hi â'r berthynas i ben dri mis yn ddiweddarach!”
Serch hynny, ychwanegodd fod gan Abertawe enw da'n academaidd, yn enwedig dan yr Athro William Balchin, a oedd yn adnabyddus yn rhyngwladol.
“Roedd ganddi adran daeareg bryd hynny ac ar gyfer daeareg roedd Abertawe, yn ôl pob tebyg, yn y lleoliad gorau o blith holl brifysgolion y wlad. Gallech weld holl amrywiaeth strata Prydain o fewn dwy awr i Abertawe mewn car.”
Ar ôl graddio ym 1968, aeth y pâr i Brifysgol Newcastle, yn y lle cyntaf i hyfforddi i fod yn athrawon cyn gweithio i'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llundain.
Meddai Bob: “Effaith fwyaf Prifysgol Abertawe ar ein bywydau yw ein bod wedi cwrdd â'n gilydd a magu teulu, ond yr effaith arall yw'r gyrfaoedd a gawsom o ganlyniad i'n graddau.
“Buom yn gweithio yn llyfrgell mapiau'r Llywodraeth lle byddai gwaith ymchwil yn cael ei wneud ar fapiau a lle byddent yn cael eu llunio ar gyfer unrhyw wrthdaro.”
Meddai: “Mae popeth rwyf wedi'i wneud yn broffesiynol wedi ymwneud â daearyddiaeth ac rwy'n priodoli hynny i beidio â chael fy nhroi yn erbyn daearyddiaeth yn Abertawe, a'i mwynhau'n wir!”
Symudodd y pâr yn ôl i Abertawe ym 1979 pan ddechreuodd Bob weithio ar ystadegau'r boblogaeth i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg. Yna, ar ôl magu eu plant, aeth Sandra i weithio yn y Gofrestrfa Tir, gan fapio dogfennau a gweithredoedd ac archwilio mapiau hanesyddol.
Wrth ddychwelyd i Gymru, cawsant gyfle i adnewyddu cysylltiadau â hen ffrindiau.
“Roedd fy llety yn yr ail flwyddyn ar Ffordd y Mwmbwls a chadwais mewn cysylltiad â'm landlordes. Roedd hi'n ffrind i'r teulu a daeth hi i seremonïau bedyddio ein plant. Pan ddechreuodd dementia effeithio arni'n raddol, gwnaethom lwyddo i ofalu amdani gan nad oedd unrhyw deulu ganddi. Dyna berthynas a ddeilliodd yn uniongyrchol o astudio yn Abertawe.”
Ychwanegodd Sandra: “Cawsom amser gwych yn y Brifysgol. Roedd teithiau maes hir – pan wnaethom ddychwelyd o un ohonynt i Sbaen, dyna'r tro cyntaf i'r naill un ohonom fod ar awyren.”
Dywedodd Bob: “Gwnaeth hynny feithrin brwdfrydedd y ddau ohonom dros deithio. Rydym wedi mynd i India sawl tro, rydym yn dwlu ar Tsieina, Japan, Zambia a Syria, ond mae llawer o leoedd i fynd iddynt o hyd.”
Mae'r ddau ohonynt wedi ymddeol erbyn hyn, ond mae'r pâr wedi trosglwyddo eu cariad at ddaearyddiaeth wrth i dri o'u plant astudio'r pwnc ar Safon Uwch ac i un ohonynt ddilyn eu trywydd drwy astudio gradd mewn daearyddiaeth.
“Dysgodd ein plant i gyd sut i ddarllen map cyn y gallent ddarllen llyfr!”
Mae'r pâr, sy'n byw bellach yn Nerwen Fawr yng ngorllewin Abertawe, yn mynegi hoffter go iawn wrth edrych yn ôl ar eu dyddiau fel myfyrwyr.
Meddai Bob: “Mae gennym atgofion hapus iawn o wythnosau rag pan fyddai pobl yn gwneud pethau gwirion – byddem yn gwisgo i fyny, herwgipio pobl, unrhyw beth i gael hwyl a chodi arian.
“Bryd hynny, roedd Abertawe'n gyfforddus ac yn gartrefol. Byddech yn adnabod pobl wrth i chi gerdded drwy'r campws. Pe baech yn colli darlith, byddai pobl yn sylwi ar hynny, felly byddai llawer o bobl â llygaid coch yn y ddarlith am 8.30am ar fore dydd Sadwrn.”
Ychwanegodd: “Aeth Sandra a minnau i ysgolion gramadeg lle roedd disgwyl i chi geisio mynd i Rydychen neu Gaergrawnt fel eich prif nod. Pe na bai hynny'n bosib, ni fyddai pobl yn ystyried Prifysgol Cymru, Coleg Abertawe mewn gwirionedd.
“Ond roedd yn ddewis da ac rydym yn ddiolchgar i Abertawe am lawer o bethau.”