Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Partneriaeth i archwilio sut gallai algâu helpu i wneud eli haul yn fwy diogel
Mae prosiect ym Mhrifysgol Abertawe sy'n archwilio sut i ddefnyddio algâu i greu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion eli haul bellach yn cydweithio â chwmni gofal croen arobryn er mwyn helpu i ddatblygu'r syniad.
Mae ALG-SUN, a arweinir gan yr Adran Biowyddorau, wedi cael cyllid gan Gynllun (Profi Cysyniad) Algae-UK i wneud gwaith ymchwil ar y cyd â phartneriaid academaidd a diwydiannol.
Bydd y tîm yn Abertawe bellach yn gweithio ar y prosiect gyda'r Natural Products Factory, sy'n berchen ar y brand gofal croen organig a figanaidd Nourish London, ochr yn ochr â gwyddonwyr iechyd o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a chwmni deilliedig y Brifysgol, sef Membranology.
Meddai Carole Llewellyn, sy'n Athro Biowyddorau Dyfrol Cymhwysol: “Mae'n wych bod Algae-UK yn ariannu'r ymchwil profi cysyniad hon er mwyn rhoi cyfle i ni gydweithio â Natural Products Factory i feithrin dealltwriaeth well o'r ffordd y gallwn baratoi'r cynhyrchion naturiol addawol hyn ar gyfer y farchnad.”
Dywedodd yr Athro Llewellyn fod tystiolaeth newydd yn dangos bod cynhyrchion sy'n cynnwys eli haul yn gallu niweidio'r ecosystem pan gânt eu golchi oddi ar y croen. O'r herwydd, mae cynhyrchion eli haul organig synthetig bellach wedi'u gwahardd mewn rhai rhannau o'r byd.
Hefyd, gall cyfansoddion ambell eli haul fod yn niweidiol i iechyd drwy darfu ar allu hormonau i ddangos arwyddion bod y risg o ganser wedi cynyddu.
Mae'r tîm yn ceisio datblygu cynhyrchion eli haul newydd nad ydynt yn niweidio'r amgylchedd naturiol ac sy'n ddiogel i'w defnyddio ar y croen.
Yn ôl yr Athro Llewellyn, gallai mân algâu fod yn allweddol. Mae mân algâu'n amddiffyn eu hunain rhag pelydriadau solar uwchfioled drwy grŵp o gyfansoddion asidau amino tebyg i mycosporine (MAA). Fodd bynnag, mae'n her fawr cael gafael ar swm digonol o gyfansoddion MAA o buredd priodol i gadarnhau eu bod yn effeithiol ar y croen ac i wneud cynhyrchion eli haul algaidd yn fasnachol ymarferol.
Bydd y partneriaid yn cydweithio ar y prosiect hwn i geisio goresgyn y rhwystrau masnachol hyn.
Dywedodd Dr Pauline Hili, sylfaenydd Natural Products Factory ac arbenigwr adnabyddus ym maes gofal croen organig, ei bod wedi dechrau dangos diddordeb ar ôl darllen am waith yr Athro Llewellyn gydag algâu.
Meddai: “Ers amser maith, roeddwn wedi dymuno archwilio cynhyrchion eli haul mwy naturiol a'r posibiliadau a allai fodoli yn y byd naturiol. Roeddwn yn credu y gallai fod modd i ni sicrhau gwelliant yn y maes hwn.
“Ar ôl siarad â'r Athro Llewellyn, sylweddolais y byddai cydweithrediad rhwng diwydiant a'r byd academaidd yn ffordd wych o fynd â'r maen i'r wal.”
Dywedodd fod cynhyrchion eli haul ymysg yr eitemau roedd ei chwsmeriaid yn gofyn amdanynt fwyaf.
“Drwy'r gwaith hwn, gallem drawsnewid y sefyllfa i'r defnyddwyr sy'n pryderu am effaith eu cynhyrchion ar yr amgylchedd. Mae'n gynnar iawn yn y broses ond mae'n gyffrous iawn gwneud ymchwil sy'n cynnig cynifer o bosibiliadau.”