Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Y Brifysgol yn ymuno â menter ledled y wlad i helpu myfyrwyr i gyrraedd addysg uwch

Mae Prifysgol Abertawe wedi cytuno i fod yn rhan o fenter ar-lein newydd sydd am helpu myfyrwyr sydd dan anfantais oherwydd y pandemig coronafeirws i gyrraedd addysg uwch. 

Mae'r Brifysgol ymysg 50 o sefydliadau o sector addysg uwch y DU sydd wedi cydweithio i greu'r hyb ar-lein Uni4Me, sy'n cynnig mwy na 250 o weithgareddau ar-lein ar gyfer disgyblion ysgol.

Bydd yr hyb, a arweinir gan NEON (Rhwydwaith Cyfleoedd Addysg Cenedlaethol) ac a ariennir gan y sefydliadau sy'n cymryd rhan, yn gweithredu fel porth canolog lle gall dysgwyr, rhieni ac athrawon gael gafael ar weithgareddau am ddim i'w helpu i gyrraedd addysg uwch.

Ymysg yr adnoddau am ddim ceir cyrsiau rhithwir mewn amrywiaeth o bynciau dan arweiniad academyddion, hyfforddiant a chymorth ar-lein mewn pynciau TGAU/Safon Uwch craidd, digwyddiadau byw gydag academyddion blaenllaw, myfyrwyr a chynghorwyr addysg uwch arbenigol, yn ogystal â sesiynau gwybodaeth ar gyfer rhieni/gofalwyr a theithiau campws rhithwir.

Trefnwyd cyfraniad Prifysgol Abertawe at y fenter gan dimau’r Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach a'r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe, sy'n ymrwymedig i weithio gyda chymunedau i ennyn diddordeb ac annog disgyblion na fyddent o bosib wedi ystyried addysg uwch na chael mynediad ati o'r blaen.

Fodd bynnag, dywedodd rheolwr y Bartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach, Alice Davies, fod adrannau o bob rhan o'r Brifysgol wedi cyfrannu adnoddau at y wefan.

Meddai: “Yn Abertawe, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ond rydym hefyd yn cydnabod nad oes gan bawb yr un mynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch yr amrywiaeth anferth o gyfleoedd sydd ar gael.

“Rydym hefyd yn meddwl nad yw byth yn rhy gynnar nac yn rhy hwyr i ddechrau rhoi cynnig ar addysg uwch, felly darperir y gweithgareddau a'r adnoddau sydd ar gael ar gyfer pawb, o blant ysgol gynradd i fyfyrwyr Blwyddyn 13 ac oedolion.”

Mae'r adnoddau a ddarperir gan y Brifysgol yn cynnwys arbrofion gwyddoniaeth ymarferol gan dîm Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4), darlithoedd rhagflas ar amrywiaeth o bynciau, ac awgrymiadau a chymorth astudio gan dîm Ymgyrraedd yn Ehangach.
Ychwanegodd: “Caiff llawer mwy o adnoddau eu lanlwytho yn ystod y misoedd i ddod, felly cadwch lygad allan am fwy o weithgareddau cyffrous.”

Yn ystod lansiad Uni4Me, meddai Cadeirydd NEON, yr Athro Syr Les Ebdon: “Drwy fynd i'r brifysgol, gweddnewidiwyd fy mywyd o fod yn blentyn o ystad corfforaeth i gael fy urddo'n farchog. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o brifysgolion ac elusennau wedi darparu rhaglenni gwych i oresgyn anfantais ond mae cyfyngiadau symud Covid-19 yn bygwth yr ymdrechion hyn.

“Mae Uni4Me yn gyfle gwych i ddangos y rhaglenni ar-lein niferus sydd bellach ar gael ac a fydd yn bwysig iawn er mwyn darparu cyfleoedd tecach i bawb.”

Mae ymchwil gan NEON yn awgrymu nad yw mwy nag 80 y cant o ddarparwyr addysg uwch yn disgwyl y byddant yn gallu gweithio mewn ysgolion cyn mis Ionawr 2021 o ganlyniad i effaith Covid-19.

Caiff cyfranogiad yn yr hyb Uni4Me ei olrhain er mwyn galluogi ysgolion, colegau a phrifysgolion i sicrhau bod y rhai sydd â'r anghenion mwyaf yn gallu elwa ar yr adnoddau sydd ar gael. Y nod yw ehangu'r gweithgareddau a gynigir gan Uni4Me dros y flwyddyn nesaf a gweithio gyda mwy o bartneriaid o bob rhan o'r sector addysg.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am Uni4Me a'r hyn y mae'n ei gynnig.

Gweler ein Canllawiau Coronafirws ar gyfer Darpar Fyfyrwyr, Rhieni ac Ymwelwyr

 

Rhannu'r stori