Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Myfyrwyr peirianneg ar Gampws y Bae

Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo yn ei chais i'r Adran Addysg i recriwtio 250 o fyfyrwyr peirianneg ychwanegol fel rhan o ymgyrch gan Lywodraeth y DU i gynnig dros 9,000 o leoedd ychwanegol mewn prifysgolion yn y DU ar gyfer cyrsiau a fydd yn darparu gwasanaethau allweddol, yn cefnogi'r economi ac yn creu canlyniadau cadarnhaol i fyfyrwyr.

Mae'r lleoedd newydd i fyfyrwyr yn dilyn cyhoeddiad gan y Llywodraeth a oedd yn cynnig cyfle i brifysgolion cymwys gyflwyno cais am leoedd ychwanegol ar gyfer cyrsiau peirianneg, gwyddoniaeth a nyrsio a fydd yn dechrau ym mis Medi. Mae'r cynllun yn rhan o ymgyrch i hybu gwyddoniaeth ac arloesedd ac annog pobl i ddilyn pynciau STEM, gan fuddsoddi mewn sgiliau a fydd yn hollbwysig i'r gwaith o adfer economi'r DU yn dilyn coronafeirws.

Dyfarnwyd lleoedd ychwanegol ar ben cap yr Adran Addysg ar niferoedd myfyrwyr ar gyfer 2020/21 i ddim ond dwy brifysgol yng Nghymru ac mae Prifysgol Abertawe'n un ohonynt. Aseswyd ceisiadau am leoedd ychwanegol yn ôl ansawdd pob darparwr, gan gynnwys cyfraddau parhad a chanlyniadau cyflogaeth graddedigion. Dyfarnwyd y lleoedd ychwanegol i'r Brifysgol gan ei bod wedi dangos y canlynol:

  • Mae ganddi gyfradd parhad myfyrwyr dros 90%.
  • Mae myfyrwyr yn mynd rhagddynt i gael cyflogaeth sgiliau uchel neu i ddilyn astudiaethau pellach.
  • Mae ganddi'r cyfleusterau a'r isadeiledd i gefnogi'r myfyrwyr ychwanegol wrth iddynt ddysgu.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch ein bod wedi llwyddo yn ein cais i recriwtio 250 o fyfyrwyr ychwanegol, sy'n dangos bod Llywodraeth y DU yn hyderus y bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig profiad dysgu o safon i fyfyrwyr. Bydd y lleoedd ychwanegol hyn yn darparu'r canlyniadau gorau i'n myfyrwyr, a fydd yn mynd rhagddynt i fod yn beirianwyr y genhedlaeth nesaf, gan ysgogi arloesedd drwy fagu'r sgiliau a'r arbenigedd a fydd mor allweddol i'r DU yn y dyfodol.

Rhannu'r stori