Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae ffordd newydd chwyldroadol o roi brechlynnau drwy glytiau micronodwydd yn cael ei phrofi ym Mhrifysgol Abertawe, diolch i gyllid gwerth £200,000 gan yr UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Oherwydd pandemig COVID-19, mae brys ychwanegol i chwilio am frechlynnau a ffyrdd newydd o'u cyflwyno.
Innoture, cwmni blaenllaw o'r DU sy'n arbenigo mewn rhoi meddyginiaethau drwy'r croen, sy'n cynnal y gwaith ymchwil pwysig hwn. Mae hon yn garreg filltir sylweddol i Innoture, gan roi rhagor o hygrededd i system arloesol y cwmni o gyflwyno triniaeth drawsdermig y genhedlaeth nesaf.
Gallai'r dechnoleg arloesol wneud gwahaniaeth ystyron i wella iechyd cleifion a'r cyhoedd yng Nghymru a'r tu hwnt.
Mae Innoture wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ers 2012. Mae adran Ymchwilio a Datblygu'r cwmni wedi'i lleoli yn Sefydliad Gwyddor Bywyd y Brifysgol, lle cynhaliwyd gwaith ymchwil mewn cydweithrediad â Chanolfan NanoIechyd y Brifysgol.
Gall nodwyddau hypodermig traddodiadol fod yn frawychus ac yn boenus i blant ac oedolion. Gallai micronodwyddau wella ufudd-dod cleifion ac arwain at ganlyniadau iechyd gwell.
Mae micronodwyddau'n fân nodwyddau, wedi'u mesur mewn miliynfedau metr (μm), a'u nod yw cyflwyno meddyginiaethau drwy'r croen. Maent yn debycach i glytiau trawsdermig, megis y rhai a ddefnyddir i gyflwyno nicotin er mwyn helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu, nag i nodwyddau hypodermig.
Bydd yr ymchwil yn datblygu ac yn profi technoleg ar gyfer cyflwyno dos o frechlyn drwy'r croen. Bydd hefyd yn profi proses waredu syml a diogel, a fyddai'n caniatáu i'r clytiau gael eu gosod gartref.
Meddai Dr Michael Graz, Prif Swyddog Gwyddonol Innoture:
“Yn sgil y pandemig coronafeirws, mae datblygwyr a gwneuthurwyr brechlynnau'n wynebu her fawr i ddatblygu ac atgyfnerthu eu rhaglenni'n gyflym wrth i'r galw am nodwyddau, ffiolau gwydr, yn ogystal â chyflenwadau ar gyfer triniaethau eraill, gynyddu. Felly, mae'n hollbwysig bod y gymuned iechyd yn y DU – ac yn rhyngwladol – yn ystyried dulliau cyflwyno eraill.”
Ychwanegodd:
“Gallai ein system o gyflwyno triniaeth drwy'r croen wella profiad cleifion a lleihau'r baich yn sylweddol ar y GIG a systemau gofal iechyd eraill. Mae’r clwtyn yn ddi-boen ac yn tarfu ar y claf cyn lleied â phosib wrth iddo ei osod ei hun.
“Ar adeg pan fo angen hunanynysu, gellir gosod y clwtyn yn hwylus gartref dan gyfarwyddyd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gan leihau'r angen i bobl fynd i glinig. Yn ogystal, o ran gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae'n cwtogi amseroedd ymgynghori neu apwyntiadau a gallai gael gwared ar yr angen am storio ar dymheredd cyson.”
Mae gwaith ymchwil yn y cyfleusterau saernïo micronodwyddau a phrofi triniaethau drwy'r croen yn y Ganolfan NanoIechyd yn ategu llu o dechnolegau micronodwyddo.
Meddai'r Athro Owen Guy, Pennaeth Cemeg a Chyfarwyddwr Canolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe:
“Mae defnyddio clytiau micronodwydd i gyflwyno brechlyn yn ffordd gyffrous o ddatblygu technoleg clytiau trawsdermig Innoture.”
Ychwanegodd Dr Sanjiv Sharma, Uwch-ddarlithydd Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Abertawe:
“Gallai'r prosiect hwn ddarparu dull chwyldroadol o gyflwyno brechiadau yn y dyfodol. Fel partner hirdymor Innoture, rydym yn edrych ymlaen at gefnogi'r fenter gyffrous hon.”
Daw'r dyfarniad gwerth £200,000 ar gyfer y gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru drwy SMARTCymru: rhaglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop 2014 i 2020 ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd. Mae'r rhaglen yn helpu busnesau i ddatblygu, gweithredu a masnacheiddio cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd.