Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu Dirprwy Is-ganghellor newydd i'w huwch-dîm rheoli, a fydd yn gyfrifol am bortffolio Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol.
Mae'r Athro Helen Griffiths yn ymuno â'r Brifysgol o'i swydd flaenorol ym Mhrifysgol Surrey, lle mae wedi gweithio fel Deon Gweithredol y Gyfadran Gwyddorau Iechyd a Meddygaeth ers 2016.
Mae'n cynnig profiad strategol sylweddol i Brifysgol Abertawe, ar ôl gwasanaethu o'r blaen fel Deon Gweithredol Gwyddorau Bywyd ac Iechyd a Dirprwy Is-ganghellor (Cysylltiadau Rhyngwladol) Prifysgol Aston, lle roedd wedi arwain cynnydd o ran cyllid ymchwil, cydweithrediad rhyngwladol a niferoedd myfyrwyr.
Mae gan yr Athro Griffiths gefndir ymchwil clodwiw yn y Gwyddorau Biofeddygol, o brifysgolion Birmingham, Caerlŷr ac Aston, lle enillodd gadair athro yn 2005.
Meddai'r Athro Griffiths: “Rwy'n teimlo'n freintiedig i ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil ac Arloesi, yn ystod y Canmlwyddiant.
“Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi cadw golwg ar y ffordd y mae cymuned y Brifysgol wedi ymateb i her y pandemig byd-eang. Mae'r cyflymder a'r gwydnwch wrth weithredu dulliau newydd o gyflwyno ac asesu addysg wedi bod yn anhygoel. Mae'r un peth wedi bod yn wir am yr ymdrechion ar y cyd mewn prosiectau ymchwil ac arloesi sydd wedi cychwyn mewn ymateb i bandemig Covid-19. Mae defnyddio arbenigedd ymchwil er mwyn atgyfnerthu cenhadaeth ddinesig y Brifysgol yn rhoi hyd yn oed mwy o falchder i mi wrth ymuno â'r brifysgol.
“Mae'n amlwg bod gan Brifysgol Abertawe ymrwymiad cadarn i ymchwil ac arloesi, conglfaen sylfaenol a fydd yn parhau i ddiffinio ein henw da, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Rydym yn croesawu'r Athro Griffiths yn wresog i gymuned ein Prifysgol. Yn ddiau, byddwn yn elwa'n fawr ar ei harbenigedd a'i phrofiad dros y misoedd nesaf, er mwyn cefnogi ein gweithgarwch ymchwil a'n hasesiad sydd ar ddod dan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.”