Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Adroddiad newydd yn rhybuddio am gwymp anferth o ran poblogaethau pysgod dŵr croyw a pherygl i swyddi
Mae The Living Planet Index for Migratory Freshwater Fish, yr adroddiad byd-eang cynhwysfawr cyntaf am statws pysgod mudol, wedi datgelu bod poblogaethau pysgod dŵr croyw wedi cwympo 76% ar gyfartaledd rhwng 1970 a 2016 – gan gynnwys cwymp cyfartalog syfrdanol o 93% yn Ewrop.
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd gan y World Fish Migration Foundation a Chymdeithas Sŵoleg Llundain (ZSL) gyda chyfraniadau gan yr Athro Carlos Garcia de Leaniz, o'r Prosiect Rheoli Rhwystrau yn Afonydd Ewrop yn Addasol (AMBER) ym Mhrifysgol Abertawe, bellach ar gael i'w lawrlwytho.
Mae'r cwymp yn uwch na'r gyfradd a welwyd o ran rhywogaethau tirol a morol ond mae'n cyd-fynd â'r cwymp cyffredinol ar gyfer poblogaethau creaduriaid dŵr croyw ag asgwrn cefn a welwyd ar y cyfan (83%).
Roedd casgliadau'r adroddiad fel a ganlyn:
- Yn fyd-eang, mae poblogaethau pysgod dŵr croyw mudol a gafodd eu monitro wedi cwympo 76% ar gyfartaledd rhwng 1970 a 2016. Bu'r cwymp cyfartalog yn amlycach yn Ewrop (-93%) ac America Ladin a'r Caribî (-84%).
- Mae'r cwymp llai yng Ngogledd America (-28%) yn awgrymu y gallai rheoli pysgodfeydd arwain at gwymp cyfartalog is o ran niferoedd.
- Sbardunau mwyaf cwymp poblogaethau yw dirywio, newid a cholli cynefinoedd, yn ogystal â gorddefnydd. Mae'r rhain i gyd yn gysylltiedig â defnydd ac effaith pobl.
Meddai'r Athro Garcia de Leaniz, Cydlynydd a Phrif Ymchwilydd Prosiect AMBER, Prifysgol Abertawe: “Mae pysgod mudol yn hollbwysig i ecosystemau, ein hiechyd a'r economi. Mae swyddi ledled y byd yn dibynnu ar bysgod mudol. Mae The Living Planet Index for Migratory Freshwater Fish yn amlygu'r bygythiadau sy'n wynebu pysgod mudol ac yn pennu cynllun ymateb brys â'r nod o atal y cwymp brawychus o ran poblogaethau pysgod a throi'r sefyllfa ar ei phen.”
Mae'r adroddiad yn rhestru'r bygythiadau i boblogaethau pysgod mudol fel a ganlyn:
- Mae argaeau a rhwystrau eraill i afonydd yn atal pysgod rhag cyrraedd eu mannau paru neu fwydo ac yn amharu ar eu cylchred bywyd.
- Mae dirywio, newid a cholli cynefinoedd yn gyfrifol am oddeutu hanner y bygythiadau i bysgod mudol.
- Mae gorddefnydd, megis pysgota anghynaladwy a dalfeydd damweiniol, yn gyfrifol am oddeutu traean y bygythiadau i'r poblogaethau hyn.
- Gall hinsawdd newidiol â thymereddau uwch ysgogi mudo ac atgenhedlu, ar yr adeg anghywir (e.e. pan fo llai o fwyd o bosib).
Mae'r adroddiad hefyd yn argymell cynllun brys â chwe cham gweithredu:
- Caniatáu i afonydd lifo'n fwy naturiol;
- Lleihau llygredd;
- Diogelu cynefinoedd gwlyptir allweddol;
- Rhoi terfyn ar orbysgota ac echdynnu tywod anghynaladwy mewn afonydd a llynnoedd;
- Rheoli rhywogaethau ymledol;
- Diogelu ac adfer cysylltedd afonydd drwy gynllunio argaeau a mathau eraill o isadeiledd yn well.
Meddai'r prif awdur, Stefanie Deinet o ZSL: "Er mwyn deall sut mae poblogaethau pysgod dŵr croyw mudol wedi newid dros y 50 mlynedd diwethaf, gwnaethom ystyried data 1,406 o boblogaethau o 247 o rywogaethau ar gyfer yr adroddiad hwn. Rydym yn gwneud yr un math o waith dadansoddi ar amrywiaeth o wahanol ecosystemau a grwpiau o anifeiliaid fel rhan o'n gwaith ar The Living Planet Index. Cwymp cyfartalog o 76% yw'r un mwyaf difrifol a welwyd gennym.”
Meddai Herman Wanningen, Sylfaenydd y World Fish Migration Foundation: “Mae'r ystadegau’n ysgytiol, ond rydym yn gwybod y gellir adfer poblogaethau pysgod mudol. Mae angen i ni weithredu nawr cyn i boblogaethau gyrraedd y pwynt lle maent yn rhy isel i gael eu hadfer. Dyma'r amser i werthfawrogi pysgod mudol a'r afonydd sy'n eu cynnal.”