Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Delwedd abstract sy'n cyfleu'r economi gylchol

Bydd prosiect newydd gwerth £3.7m yn helpu sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn ne Cymru i gydweithredu i ddatblygu atebion gwasanaeth rhanbarthol newydd ar gyfer heriau presennol yr economi gylchol.

Mae'r prosiect Cymunedau Arloesi Economi Gylchol (CEIC) yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae CEIC, rhaglen 10 mis a ariennir yn llawn, ar gael i wasanaethau cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a bydd yn helpu rheolwyr i ddatblygu atebion gwasanaeth newydd a chyflwyno manteision economi gylchol i'w sefydliadau a'r rhanbarthau.

Bydd rhoi meddylfryd economi gylchol ar waith yn y gwasanaethau cyhoeddus yn helpu i leihau'r ôl troed carbon ac mae'n rhan o'r ateb i'r argyfwng hinsawdd byd-eang, lle dylunnir cynhyrchion a gwasanaethau er mwyn mwyafu eu gwerth a lleihau gwastraff.

Bydd CEIC, a fydd ar waith tan ddiwedd 2023, yn dod â sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn Ninas-Ranbarth Bae Abertawe a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd at ei gilydd i gydweithredu mewn rhaglen sy'n cynnwys gweithdai, ymweliadau â safleoedd, dysgu gweithredol ac ymgysylltu â chymheiriaid. Bydd y rhaglen yn galluogi rheolwyr i gyd-greu cynhyrchion neu wasanaethau newydd a rhoi newidiadau ar waith drwy gymorth arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Meddai Gary Walpole, Cyfarwyddwr rhaglen CEIC: “Mae'r cyllid yn destun cyffro go iawn gan fod rhaglen CEIC yn gyfle ardderchog i reolwyr gwasanaethau cyhoeddus gydweithio mewn rhaglen brofedig integredig i gyflwyno newid sy'n lleihau'r ôl troed carbon ac yn gwella cynhyrchiant. Bydd y rheolwyr gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi ei gilydd mewn cymuned arloesi arferion sy'n defnyddio eu gwybodaeth a'u harferion addawol presennol fel y gallant fanteisio i'r eithaf ar eu heconomïau sefydliadol i gyd-greu atebion gwasanaeth sy'n lleihau deunyddiau ac adnoddau.”

Meddai'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles: “Bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb sylweddol i'r economi gylchol yn ne Cymru, gan gynnig llawer o fuddion i wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector. Bydd y rhaglen hon yn dod â sefydliadau at ei gilydd i ddod o hyd i atebion arloesol i'r heriau unigryw y maent yn eu hwynebu, gan gefnogi dysgwyr cenedlaethau'r dyfodol yn eu prifysgolion gwahanol.” 

Rhannu'r stori