Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Disgyblion yn dychwelyd yn ddiogel i 12 o ysgolion lleol oherwydd hylif diheintio’r Brifysgol
Plant mewn 12 o ysgolion lleol sy'n dychwelyd i'w gwersi yr wythnos hon yw'r bobl ddiweddaraf i gael eu diogelu gan hylif diheintio dwylo a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae labordy technoleg solar wedi newid yr hyn y mae'n ei gynhyrchu dros dro yn ystod argyfwng COVID-19.
Mae tîm y Brifysgol sy'n cynhyrchu'r hylif diheintio, a oedd eisoes yn cyflenwi'r GIG, cartrefi gofal a sefydliadau tai, bellach yn ei ddarparu i ysgolion, er mwyn helpu i gadw plant yn ddiogel.
Gwnaeth y tîm ddechrau drwy gyflenwi Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin yng Nghastell-nedd, sy'n ysgol hyb a arhosodd ar agor drwy gydol y cyfyngiadau symud er mwyn gofalu am ddisgyblion agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol.
Nawr, wrth i ddisgyblion ledled de Cymru ddychwelyd i'r ysgol, mae'r tîm yn cyflenwi'r hylif diheintio – sy'n bodloni'r safon a bennir gan Sefydliad Iechyd y Byd – i 12 o ysgolion a cholegau ym mhob rhan o'r rhanbarth.
Mae tîm y Brifysgol yn cynnwys dros 30 o wirfoddolwyr o dri gwahanol Goleg ac Ysgol. Arweinir y gweithgynhyrchu gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, sy'n arbenigo mewn ymchwil solar a datblygu adeiladau sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni solar eu hunain.
Meddai Mrs Lisa Thomas, Pennaeth Cynorthwyol (Cynhwysiant) yn Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin:
“Er mwyn cynnig ein gwasanaethau i blant gweithwyr allweddol yn ein Hyb, roedd angen hylif diheintio dwylo arnom. Yn ystod dyddiau cynnar y cyfyngiadau symud, roedd yn amhosib cael gafael ar yr hylif hwn. Ar un adeg, roedd yn ymddangos na fyddem yn gallu parhau i ddarparu gofal plant i'n gweithwyr allweddol.
Bryd hynny, gwnaethom ddechrau gweithio gyda Phrifysgol Abertawe. Cynigiwyd cynnyrch i ni a ddatblygwyd gan y Brifysgol, yn lleol, a oedd yn golygu bod modd i ni gael gafael ar y symiau roedd eu hangen arnom, a hynny'n gyflym. Roedd gwybod bod y Brifysgol yn gallu ein helpu yn destun cysur yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.
Yma yn Ysgol Dŵr-y-Felin, rydym wedi gofyn eto i'n ffrindiau ym Mhrifysgol Abertawe ein helpu i sicrhau bod gan y staff a'r disgyblion y cynhyrchion diheintio y mae eu hangen arnynt i ddychwelyd yn ddiogel i'r ysgol.
Rydym wedi rhoi hylif diheintio dwylo ym mhob ystafell ddosbarth, ac yn y coridorau a'r ardaloedd addysgu, ar gyfer pob aelod o staff a disgybl. Gan ein bod yn rhagweld y byddwn yn defnyddio symiau mawr, rydym yn defnyddio cynwysyddion y gellir eu hail-lenwi ac mae gennym fannau ail-lenwi.
Cynnyrch Prifysgol Abertawe yw'r brif elfen sydd wedi ein galluogi i ailagor.”
Roedd sylwadau eraill gan aelodau o staff yn cynnwys:
• “Ar ôl ei chwistrellu, mae'n teimlo fel pe bai eich dwylo wedi cael eu golchi'n dda gan fod yr hylif yn gwasgaru'n wych.”
• “Mae'n sugno'n dda ac nid yw'n ludiog, sy'n wych.”
• “Rwy'n defnyddio'r chwistrell ar fy llygoden, fy mysellbad a'm ffôn; mae'n gwasgaru'n dda, sy'n tawelu'r meddwl.”
• “Gan mai hylif ydyw, mae'n rhoi mwy o dawelwch meddwl i chi gan ei fod yn gwasgaru'n dda yn eich dwylo.”
Meddai Dr Iain Robertson o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe, un o'r tîm o wirfoddolwyr sy'n cynhyrchu'r hylif diheintio dwylo:
“Rydym wedi gallu ymaddasu'n gyflym er mwyn cefnogi staff rheng flaen a phobl sy'n agored i niwed, yn ogystal ag ysgolion erbyn hyn. Gyda chymorth sawl cwmni lleol, mae Prifysgol Abertawe wedi cynhyrchu 34,000 litr o hylif diheintio dwylo a argymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Rydym yn falch o weld ei fod yn helpu i ddiogelu disgyblion ac aelodau o staff mewn dwsin o ysgolion lleol.”