Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach
Nid yw pellter yn broblem wrth i ddosbarthiadau iaith myfyrwyr Tsieineaidd barhau ar-lein
Mae myfyrwyr Tsieineaidd, yn eu hawydd i baratoi ar gyfer cyrsiau Prifysgol Abertawe, wedi parhau i astudio – er bod pellter o fwy na 5,000 milltir rhyngddynt a'u hathrawon.
Maent wedi bod yn dysgu Saesneg er mwyn eu helpu i agosáu at eu nod o astudio cyfrifeg a chyllid yn Ysgol Reolaeth y Brifysgol.
Fel rheol, byddai athrawon yn hedfan i Huanghuai yng nghanol Tsieina i gyflwyno cyrsiau ond mae'r pandemig byd-eang wedi newid dull gweithredu Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg (ELTS) y Brifysgol yn sylweddol.
Gwnaeth mwy na 160 o fyfyrwyr gofrestru ar gyfer y cwrs diweddaraf a chymryd rhan yn y gwersi ar-lein ac mae aelodau'r tîm addysgu bellach yn dweud eu bod yn barod i barhau â'r dull gweithredu o bell am gyhyd ag y bo angen.
Mae'r Rhaglen Saesneg a Sgiliau Academaidd rhwng Abertawe a Huanghuai wedi bod ar waith ers mis Hydref 2017 er mwyn gwella gallu iaith Saesneg cyffredinol myfyrwyr Tsieineaidd yn ogystal â rhoi rhai sgiliau academaidd iddynt.
Mae wedi mynd o nerth i nerth, gyda channoedd o fyfyrwyr yn sicrhau cyfraddau llwyddo trawiadol. Bob tymor, mae athrawon ELTS wedi bod yn hedfan i Huanghuai er mwyn cyflwyno'r cwrs ochr yn ochr â thiwtoriaid sy'n byw yn Tsieina. Yn ail flwyddyn y myfyrwyr, fe'u haddysgir gan ddarlithwyr rheolaeth o'r Ysgol Reolaeth.
Meddai Vicki Stevenson, sy'n cydlynu'r rhaglen: “Mae gennym berthynas wych ag athrawon a staff yr Ysgol Ryngwladol yn Huanghuai.
“Ond rydym bob amser wedi ymfalchïo yn y ffaith bod y rhaglen yn cynnig ymagwedd hyblyg at ddysgu, sydd wedi bod o gymorth mawr wrth i ni fynd ati i newid i waith ar-lein yn ystod argyfwng Covid-19.”
Roedd yn rhaid i'r staff oresgyn llawer o rwystrau – megis cael gafael ar dechnoleg addysgu gytûn, problemau o ran cysylltiadau wi-fi a gwahaniaethau diwylliannol a oedd yn golygu bod rhai myfyrwyr Tsieineaidd yn gyndyn o agor eu camerâu ar Zoom.
Newidiodd lleoliad gwaith yr athro Saesneg Joe Garthwaite o Huanghuai i Lerpwl ar gyfer ei gwrs diweddaraf. Meddai: “Byddwn yn arfer mynd i Tsieina ond rwyf bellach yn addysgu o'm cartref yn y DU – yr un yw'r myfyrwyr ond maent ar yr ochr arall i'r camera.
“Prif nodau'r cwrs yw hybu hyder ein myfyrwyr fel y gallant ddefnyddio Saesneg yn eu hastudiaethau, yn ogystal ag annog dysgu sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr a chynyddu ein hymwybyddiaeth ddiwylliannol fel adran.
“Rwy'n meddwl bod addysgu ar-lein wedi rhoi cyfle i ni barhau i gyflawni'r nodau hynny, yn ogystal â bod yn llawn hwyl.”
Er mwyn sicrhau y gellid cynnal y cwrs o bell, gwnaeth y tîm addasu fideos a oedd eisoes yn bodoli, recordio cyflwyniadau a pharatoi deunyddiau gwrando newydd. Yn ogystal, rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr recordio fideos drwy PowerPoint yn hytrach na chyflwyno'n fyw i'w hathrawon.
Meddai Pennaeth ELTS, Jo Parfitt: “Rydym wedi bod yn falch iawn o gefnogi'r Ysgol Reolaeth i addysgu Saesneg i fyfyrwyr yn Huanghuai ac mae'r adborth a gawsom gan fyfyrwyr ac athrawon wedi bod yn hynod gadarnhaol dros y tair blynedd diwethaf.
“Mae'n hyfryd gweld sut rydym yn dal i allu eu haddysgu ar-lein yn ystod y pandemig byd-eang hwn. Rydym yn edrych ymlaen at atgyfnerthu'r cydweithrediad hwn dros y blynyddoedd nesaf.”
Bydd y cwrs nesaf yn dechrau ym mis Hydref gydag oddeutu 180 o fyfyrwyr. Bydd y staff yn darparu rhaglen gyfunol lle bydd yr athrawon Tsieineaidd yn addysgu gwersi wyneb yn wyneb ar gampws a bydd yr athrawon sy'n gweithio gartref yn y DU yn cyflwyno elfen ar-lein.
Fodd bynnag, mae'r tîm yn gobeithio dychwelyd i Huanghuai ym mis Chwefror 2021 er mwyn bod yn bresennol i gyflwyno ail ran y cwrs i'r un garfan.